Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog. Yn wir, mae potensial a chyfle mawr yn y cwricwlwm newydd hwn, ac, rwy’n credu, gwobrau gwych: rwy’n croesawu’n fawr iawn y bwriad strategol o amgylch datblygiad cynnar a chyn-ieithyddol ledled Cymru. Mae angen y datblygiad ieithyddol hwnnw arnom. Gallwn ni fod yn genedl ddwyieithog i raddau mwy, ond mae angen inni fod yn wlad amlieithog i...
Rhianon Passmore: 3. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu twristiaeth yn Islwyn? OAQ53299
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud cyfraddau'r dreth gyngor yn decach i drigolion yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Diolch am eich ateb. Mae Islwyn yn cynnwys rhai o dirweddau naturiol mwyaf trawiadol Cymru, megis Ffordd Goedwig Cwmcarn sy'n enwog yn rhyngwladol, a phwll glo Navigation, a chyhoeddwyd statws porth i'r ffordd yn ddiweddar yn rhan o fenter y Cymoedd. Ond mae unrhyw brofiadau ymwelwyr rhyngwladol ansoddol yn cael eu gwella ganwaith gan sylw i fanylion, ac i lawer o dwristiaid i Gymru, mae...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, i'm hetholwyr i yn Islwyn, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cynnig y posibilrwydd gwirioneddol o weddnewid ein cymunedau. Nod y fargen ddinesig yw darparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac ysgogi gwerth £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat. Pa gymorth ychwanegol, felly, a goruchwyliaeth y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i'r 10 awdurdod lleol...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Yn ôl yr Athro Mark Barry, fel a ddyfynnwyd gennych chi, mae'n credu bod Cymru wedi'i thanariannu—[Anghlywadwy.]—2016. A ydych chi'n anghytuno?
Rhianon Passmore: Rwy'n croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn dod â'r mater o ddyfodol rheilffyrdd Cymru ger bron y Senedd er mwyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei drafod. Yn Islwyn, un o ganlyniadau mwyaf gweladwy datganoli yng Nghymru yw ailsefydlu'r llinell reilffordd i deithwyr rhwng Glynebwy a Chaerdydd gan Lywodraeth Cymru. Croesawyd hyn yn fawr fel gwelliant trafnidiaeth a buddsoddiad sylweddol....
Rhianon Passmore: Yn gyntaf, diolch i fy nghyd-Aelod, Hefin David, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar lawr y Senedd heddiw. Fel y gwyddom, plastig untro a'r llygredd y mae'n ei achosi yw un o'r heriau amgylcheddol mwyaf difrifol sy'n wynebu'r byd heddiw, a gall fod yn anodd gweld yr effaith y gall unrhyw unigolyn ei chael go iawn, ond rhaid dechrau gweithredu, fel y dywedwyd eisoes , ar lefel leol. Rwy'n falch...
Rhianon Passmore: Fe ddof i ben. Felly, wrth inni symud ymlaen—
Rhianon Passmore: Felly, rwy'n croesawu'r ymagwedd sydd gennym yn fawr iawn. Diolch.
Rhianon Passmore: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? OAQ53476
Rhianon Passmore: Diolch. Diolch, Prif Weinidog. Ymunodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, â myfyrwyr yn Wrecsam yr wythnos diwethaf i ddathlu cyhoeddi'r cynllun poblogaidd mytravelpass sy'n rhoi gostyngiad i bobl ifanc. Ers i'r cynllun ddechrau yn 2014, cafwyd cyfanswm o 20,953 o ddeiliaid cardiau ac amcangyfrifwyd y bu 1,344,000 o deithiau gostyngol yn 2017-18. Prif Weinidog, a allwch chi...
Rhianon Passmore: 2. Sut y mae cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru o fudd i gymunedau yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ53444
Rhianon Passmore: Diolch. Croesawaf y newyddion a gyhoeddwyd y mis diwethaf y bydd cyfanswm o 27 prosiect ledled Cymru yn derbyn grantiau yn y rownd gyntaf o gyllid, a godwyd gan gynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru. Weinidog, sefydlwyd y cynllun arloesol hwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol lleol mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan warediadau...
Rhianon Passmore: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl a gyflwynwyd gan grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad. Ochr yn ochr â Deddf cenedlaethau'r dyfodol, mae'r Ddeddf teithio llesol yn ddeddfwriaeth wirioneddol uchelgeisiol a phwysig, ac un y mae pawb ohonom yn falch iawn ohoni, fel y dywedwyd eisoes, ac yn briodol felly. Mae'n Ddeddf a wnaed yng Nghymru y dylai pawb ohonom sicrhau ei...
Rhianon Passmore: Er mwyn i'r ddadl hon heddiw fod o fudd gwirioneddol, mae'n werth sefydlu rhai paramedrau sylfaenol. Mae agenda gyni barhaus Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad o bron £1 biliwn i gyllideb gyffredinol Cymru. Mae hyn yn real. Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gweithio'n galed i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru rhag y toriadau sylweddol ac wedi cymryd camau...
Rhianon Passmore: O'r gorau. Rwy'n cydnabod mewn gwirionedd, os ydym yn edrych ar beth sy'n digwydd ar draws y dŵr yn Lloegr, fe welwch fod problem enfawr o ran cyllid ar gyfer ysgolion yn Lloegr, ac a dweud y gwir, mae'r bwlch y soniwch amdano yr un fath ledled Cymru. Nid wyf am gymryd unrhyw wersi ar hynny, er gwaethaf y rhethreg nad yw hynny bob amser wedi bod yn wir ar gyfer ariannu ysgolion yn Lloegr....
Rhianon Passmore: A ydych yn cydnabod gwerth y gwaith gwella addysg y mae'r consortia addysg yn ei wneud ledled Cymru neu beidio?