Canlyniadau 341–360 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Hawliau Plant ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei hymrwymiad a'i gwaith yn y maes hwn yn gyffredinol. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer eu swyddogaethau. Mae'n gwbl iawn fod y gofyniad hwn yn parhau i ddylanwadu ar bolisïau,...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Hawliau Plant ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Mae hwn yn fater hanfodol bwysig.Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, credaf fod deddfu ar gyfer hawliau yn bwysig, ond oni bai eich bod yn gwybod sut i ddod o hyd i'ch hawliau a sut i fynnu eich hawliau, bydd eu heffaith bob amser yn gyfyngedig. O ran hygyrchedd y gyfraith i blant a phobl ifanc, ceir heriau a strategaethau penodol y mae angen inni eu defnyddio er mwyn sicrhau bod pobl ifanc a...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Hawliau Plant ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch am eich cwestiwn. Nid oeddwn yn ceisio awgrymu nad oedd y Cynulliad yn ymwneud â'r gwaith hwnnw hefyd. Mae'n amlwg ei fod, ac mae wedi pasio deddfwriaeth i'r perwyl hwnnw, felly rwy'n amlwg yn fwy na pharod i gydnabod hynny. Fe fydd hi'n gwybod am yr adroddiad a lansiodd fy nghyfaill y Gweinidog plant a gwasanaethau cymdeithasol, fel yr oedd ar y pryd, ym mis Mawrth, a dangosai...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Hawliau Plant ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Fel y gwnes i sôn wrth Suzy Davies nawr, mae'r Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad o'r hyn rŷm ni'n gorfod ei wneud yn sgil y Mesur, a'r oblygiadau i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y nod. Ond byddaf yn cymryd i mewn i ystyriaeth y sylwadau y mae newydd eu gwneud.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cymhwyso Cyfreithiau'r UE ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Os bydd cyfraith yr UE yn parhau'n gymwys yn y DU yn ystod y cyfnod pontio, fel y mae Rhan 4 o'r cytundeb ymadael drafft cyfredol yn ei ragweld, bydd angen gweithredu rhwymedigaethau cyfreithiol yr UE yn y wlad hon yn ystod y cyfnod hwnnw.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cymhwyso Cyfreithiau'r UE ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Wel, i fod yn glir, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r holl ymdrechion i sicrhau cyfnod pontio, ac rydym yn croesawu'r cytundeb a gafwyd yn y Cyngor Ewropeaidd ar ddiwedd mis Mawrth a oedd yn dweud y bydd cyfnod pontio i 31 Rhagfyr 2020, yn amodol ar gytundeb ymadael terfynol. Nid ydym yn gwybod, yn anffodus, pa ddull y bydd Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu mewn perthynas â gweithredu...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Hawliau Dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir na ddylai ymadawiad y DU â'r UE arwain at wanhau diogelwch hawliau. O ran hawliau i symud a phreswylio, mae Cymru'n croesawu ac yn gwerthfawrogi unigolion o bob cwr o'r byd, a bydd yn parhau i wneud hynny.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Hawliau Dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Yn wir, fel y mae ei gwestiwn yn cydnabod, nid yw'n ymwneud â'r rhifau unigol dan sylw, oherwydd gall effaith hyn ar fywyd unigolyn, neu gynlluniau unigolyn, fod yn sylweddol iawn. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr fod dinasyddion yr AEE yn cael yr un amddiffyniad ag y bydd gan ddinasyddion yr UE o dan y cytundeb fel rydym yn ei...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Morlyn Llanw Bae Abertawe ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Dylwn ddweud, er nad yw yn fy etholaeth, y byddai etholwyr Castell-nedd yn elwa o unrhyw ddatblygiad o'r math hwn, felly rwyf am ddatgan buddiant o ran hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried sut y gallai ddefnyddio ei phwerau i gefnogi modelau cyflawni amgen a allai ddeillio o uwchgynhadledd ynni'r môr ac o'r trafodaethau parhaus gydag...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Morlyn Llanw Bae Abertawe ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Mae'n iawn i ddweud, yn amlwg, fod yna gefnogaeth drawsbleidiol gref yn y Cynulliad hwn ac ar draws Cymru i'r morlyn, a dyna pam ein bod mor siomedig fod Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad a wnaeth. Fel y mae'n awgrymu'n briodol yn ei gwestiwn, roedd ymwneud Llywodraeth y DU wedi'i ysgogi'n rhannol gan yr angen am gontract gwahaniaeth, nad yw,...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Morlyn Llanw Bae Abertawe ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am ein hatgoffa am ei gefnogaeth i gwmni ynni cenedlaethol, dielw rwy'n credu. Fel y dywedais wrth Mike Hedges yn awr, mae'n amlwg, fel y bydd rhywun yn gwybod o'r hyn a welir yn y wasg a'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt, fod yna bobl sy'n edrych yn greadigol ar ba opsiynau amgen a allai fod ar gael i gadarnhau'r cyfle sy'n bodoli yng Nghymru—ledled...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Nid wyf wedi trafod y Ddeddf hon gyda swyddogion eraill y gyfraith ers i'r Twrnai Cyffredinol dynnu yn ôl cyfeirio'r Bil, fel yr oedd bryd hynny, i'r Goruchaf Lys, a rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i'r Bil.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 ( 4 Gor 2018)

Jeremy Miles: Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn un sydd yn glir ar yr hyn sydd angen digwydd o ran y goblygiadau i'r rhai sydd yn cytuno i'w dermau. Fel gwnes i grybwyll ar y mater ddoe, oherwydd y cytundeb hwn, fe wnaethom ni gael sicrwydd ar y newidiadau i'r Ddeddf sydd wedi, erbyn hyn, cael Cydsyniad Brenhinol yn San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod hyn yn golygu bod mwy o bwerau yn dod...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cyfiawnder Gweinyddol (26 Med 2018)

Jeremy Miles: Yr wythnos diwethaf, noddais weithdy yma yn y Senedd ar gyfraith gyhoeddus a chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru a drefnwyd gan ysgol y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad, a daeth ag academyddion blaenllaw, ymarferwyr, deddfwyr a llunwyr polisi ynghyd i drafod heriau presennol a chyfleoedd ar gyfer cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cyfiawnder Gweinyddol (26 Med 2018)

Jeremy Miles: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Cytunaf yn llwyr â'i sylwadau ynglŷn â safbwynt Llywodraeth y DU mewn perthynas â thoriadau i gymorth cyfreithiol, ac yn wir, cau llysoedd a chamau eraill tuag yn ôl. Cytunaf yn llwyr ag ef fod effaith hynny, o ran mynediad pobl at gyfiawnder, yng Nghymru a ledled y DU, wedi bod yn hynod niweidiol, ac yn wir, yn waradwyddus. Roedd peth o'r...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Cyfiawnder Gweinyddol (26 Med 2018)

Jeremy Miles: Wel, credaf mai'r pwynt yr oeddwn yn ceisio'i wneud yn fy sylwadau i'r gweithdy, mewn gwirionedd, oedd mai gwneud y penderfyniadau cywir yn y lle cyntaf a ddylai fod yn brif amcan, ac mai'r penderfyniadau a wneir gyda'r egwyddorion hynny mewn golwg a ddylai ein harwain at y canlyniad hwnnw. Ond roeddwn hefyd yn nodi cymhlethdod y system bresennol, a'r disgwyliad a ddylai fod gan unigolion y...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) (26 Med 2018)

Jeremy Miles: Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â swyddogion yr Arglwydd Adfocad yn yr Alban. Cyfarfûm ag ef ddiwethaf yn anffurfiol yn Belfast ym mis Awst, a chefais drafodaethau anffurfiol ag ef bryd hynny. Rydym yn disgwyl dyfarniad y Goruchaf Lys, a byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad pan fydd yn cael ei ddarparu.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) (26 Med 2018)

Jeremy Miles: Wel, dylwn ddweud fy mod yn ffyddiog o hyd y bydd y dadleuon a gyflwynais gerbron y Goruchaf Lys yn llwyddo. Fel y dywedodd y Goruchaf Lys ei hun yn achos Miller, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ymestyn cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig, ac fel rwy'n dweud, rwy'n hyderus y bydd y ddadl honno'n drech. Mae'n crybwyll y Ddeddf barhad a basiwyd gennym, yn amlwg, yn y lle hwn, ac mae'n...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Negodiadau Brexit (26 Med 2018)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn cynllunio ar gyfer pob senario Brexit, gan gynnwys 'dim bargen'. Fel rhan o'r cynlluniau hyn, mae gwaith wedi parhau, ac mae bellach wedi dwysáu, ar y rhaglen is-ddeddfwriaethol i sicrhau y gellir gwneud yr holl gywiriadau sydd eu hangen i ddeddfwriaeth Cymru cyn y diwrnod ymadael.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Negodiadau Brexit (26 Med 2018)

Jeremy Miles: Wel, gallaf gadarnhau ein bod wedi cynllunio ar gyfer senario 'dim bargen', fel un o'r senarios ymadael, ac wedi sicrhau ein bod wedi nodi’r holl gyfraith Gymreig sydd angen ei chadw ar ôl y diwrnod ymadael, ac rydym yn cymryd camau i sicrhau, os ceir sefyllfa 'dim bargen’, fod gennym ddeddfwriaeth ar waith i gadw'r sefyllfa gyfredol er mwyn sicrhau parhad cyfreithiol a sicrwydd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.