Darren Millar: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd eich croesawu chi i'ch swydd newydd a thalu teyrnged i'ch rhagflaenydd? A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn gais am ddiweddariad ar y mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ yn ymwybodol o'r ffaith y cyhoeddwyd adroddiad diweddaru yr wythnos diwethaf am...
Darren Millar: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu'r Gweinidog newydd i'w swydd? Rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu ag ef ar faterion plant a chydweithio ag ef lle y gallwn ddarganfod rhywfaint o dir cyffredin. Hefyd, hoffwn gofnodi fy nheyrnged i’w ragflaenydd, Carl Sargeant, a’r gwaith a wnaeth ar ran plant yma yng Nghymru. Roedd bob amser yn ddiffuant iawn yn y swyddogaeth honno, ac rwy’n...
Darren Millar: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gofal brys yng Nghymru? OAQ51258
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â'i gweinyddiaethau blaenorol, hanes o danariannu ysgolion yng Nghymru. Gwyddom fod gwahaniaethau enfawr rhwng cyllidebau ysgolion y wlad hon a Lloegr, ac mae hynny'n creu anfantais ddifrifol i ddisgyblion yma yng Nghymru. Yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau Cymru, mae'r bwlch...
Darren Millar: Bydd llawer o bobl, Ysgrifennydd y Cabinet, yn synnu at eich tröedigaeth i fod yn ddiffynnydd ar ran methiannau blaenorol Llywodraeth Cymru. Rydych yn beio Llywodraeth y DU am bwysau ar wariant, ond fe wyddoch yn iawn mai'r sefyllfa yw bod Cymru, am bob £1 sy'n cael ei gwario ar y system addysg yn Lloegr, yn cael £1.20. Ni ellir esgusodi'r ffaith fod disgyblion Cymru dan anfantais...
Darren Millar: Dywedaf eto, Ysgrifennydd y Cabinet: am bob £1 sy'n cael ei gwario ar y system addysg yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20. Nid oes esgus dros ariannu ysgolion drwy roi llai o gyllid iddynt fesul disgybl, fesul y pen, nag sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n warthus. Un ffordd y gallech geisio dechrau mynd i'r afael â'r mater penodol hwn yw targedu adnoddau ar grwpiau difreintiedig, ac mae hyn...
Darren Millar: Mae arnaf ofn fod eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn druenus o annigonol, oherwydd yr un bwrdd iechyd rydych yn uniongyrchol gyfrifol amdano yw'r bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf o ran ei ofal brys a'i berfformiad yn erbyn targed Llywodraeth Cymru ei hun o drin cleifion brys o fewn pedair awr. Yn wir, fy ysbyty lleol, Ysbyty Glan Clwyd, yw'r ysbyty sy'n perfformio waethaf yng...
Darren Millar: Llywydd, a gaf fi nodi pwynt o drefn, os gwelwch yn dda?
Darren Millar: Mae fy nghwestiwn yn uniongyrchol—
Darren Millar: Arweinydd y Tŷ, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog dros ddysgu gydol oes ar ddathlu llwyddiant y sector colegau yng Nghymru? Heb os, bydd pawb yn y Siambr yn dymuno estyn eu llongyfarchiadau i fyfyrwyr a staff Coleg Cambria, a enillodd wobrau WorldSkills UK yr wythnos ddiwethaf. Mae nifer ohonyn nhw hefyd wedi cynrychioli'r DU dramor yn Abu Dhabi yn y rowndiau byd terfynol y...
Darren Millar: A gaf i hefyd longyfarch y Gweinidog newydd ar ei swydd? Rydym ni wedi cael perthynas waith ardderchog mewn pob math o wahanol swyddogaethau dros y blynyddoedd, ac rwy'n siŵr y bydd yn gwneud gwaith rhagorol yn ei swydd newydd. Fel y gŵyr y Gweinidog newydd, mae gen i ddiddordeb brwd yn nhreftadaeth Cymru ac, yn benodol, yn ei threftadaeth ysbrydol a'i threftadaeth ffydd, ac fe wnaeth y...
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 1 a byddaf yn ceisio siarad am y gwelliant hwnnw, ynghyd â gwelliannau eraill yn y grŵp hwn a gyflwynwyd yn fy enw i. Ond cyn i mi wneud hynny, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i Ysgrifennydd y Cabinet a deilydd blaenorol y portffolio ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, am y trafodaethau hynod gadarnhaol a gawsant gyda mi a'm swyddfa wrth i'r...
Darren Millar: Dyna ddechrau gwych, Llywydd—dyna ddechrau gwych. [Chwerthin.] A gaf i ddiolch i Llyr Huws Gruffydd am gefnogi pob un o'r gwelliannau yr wyf wedi eu cyflwyno yn y grŵp hwn? Ac a gaf i ddechrau ar agwedd y mae cytundeb yn ei gylch, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf? A hynny yw, oherwydd bod gwelliant 28 yn cyflawni union nod polisi gwelliant 4, rwyf yn fwy na pharod i beidio â chynnig fy...
Darren Millar: Rwy'n codi i siarad ynglŷn â gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn fy enw i, a'r holl welliannau eraill yn y grŵp hwn. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae gwelliannau 2 a 3 o'm heiddo yn ymateb uniongyrchol i alwadau gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnwys dyletswydd sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl...
Darren Millar: Roedd yna wrthwynebiad, i awgrymiadau bod—[Torri ar draws.] Os gwnewch chi ganiatáu imi orffen, ac wedyn byddaf yn hapus i dderbyn ymyriad. Roedd gwrthwynebiad sylweddol i symud y gwelliannau hyn ymlaen yn ystod Cyfnod 1. Cynigiwyd y gwelliannau hyn gan y comisiynydd plant ac amryw o randdeiliaid eraill, ac roedd gwrthwynebiad bryd hynny i ganiatáu cyflwyno unrhyw welliannau. Ac fe...
Darren Millar: Dim ond eisiau gofyn oeddwn i pam ydych chi'n teimlo—os mai dyna'r ddadl yr ydych chi'n ei chyflwyno— pam ydych chi'n teimlo ei bod hi'n briodol y dylai pobl mewn awdurdodau addysg lleol ysgwyddo'r baich hwnnw, fel yr ydych chi'n ei ddisgrifio, ac y dylai pobl yn y GIG ysgwyddo'r baich hwnnw i ddangos eu bod yn cydymffurfio gyda chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig, ond nad ydych chi'n...
Darren Millar: Ydw.
Darren Millar: Ydw.
Darren Millar: Yn ffurfiol—no.
Darren Millar: Wedi'i dynnu'n ôl, os gwelwch yn dda.