Alun Davies: Pleser o'r mwyaf yw gallu cytuno'n llwyr â'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe. Bu i mi anghytuno ag ef unwaith ar faterion llywodraeth leol, ni fyddaf byth yn gwneud hynny eto, ac rwy'n falch iawn nad oes yn rhaid i mi wneud hynny y prynhawn yma.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn y prynhawn yma i hysbysu'r Aelodau o'm cynigion ynglŷn â gwneud y diwygiadau o ran trefniadau etholiadau llywodraeth leol, gan gynnwys pwy sy'n cael pleidleisio, sut maen nhw'n cael eu cofrestru, sut y mae pobl yn pleidleisio a phwy all sefyll ar gyfer etholiad. Mae fy natganiad heddiw yn canolbwyntio ar y trefniadau ar gyfer...
Alun Davies: Rwy'n arbennig o falch o allu egluro'r diwygiadau etholiadol hyn heddiw oherwydd cyn bo hir byddwn yn dathlu canmlwyddiant y menywod cyntaf yn cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau yn y Deyrnas Unedig a chyflwyno'r bleidlais i bob dyn. Mae'n briodol felly fy mod yn gallu datgan fy mwriad, gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar fin cael eu trosglwyddo i'r Senedd hon o dan Ddeddf Cymru 2017 o fis...
Alun Davies: Llywydd, credaf y bydd y Siambr gyfan o'r un farn â mi pan ddywedaf fy mod yn falch iawn nad wyf i bob amser yn atebol i'r lle hwn am weithredoedd Plaid Lafur y Deyrnas Unedig a'u swyddfa'r wasg. Hoffwn ofyn i lefarydd y Ceidwadwyr liniaru ychydig o bosib ar ei darogan gwae. Mae'n ymddangos ein bod wedi gwrando ar restr pum neu chwe munud o hyd o'r holl broblemau a'r anawsterau fydd yn ein...
Alun Davies: Rydw i'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei chroeso cyffredinol i'r cynigion rydym ni'n eu gwneud y prynhawn yma. Rwy'n cyd-fynd â lot fawr o'r pwyntiau mae'r Aelod wedi eu gwneud, Llywydd. Rwy’n cyd-fynd â chi pan rydych chi'n sôn amboutu'r diffyg dealltwriaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru. Rydw i'n gwybod bod fy nghyfaill yr Ysgrifennydd addysg, er enghraifft, yn ysgrifennu at y...
Alun Davies: Mae dinasyddiaeth yn beth hanfodol bwysig. Mae'n bwysig ei bod hi'n cael ei dysgu yn ein hysgolion ni, ond hefyd, mi fuaswn i'n dweud bod dinasyddiaeth yn beth pwysig i ni i gyd, ac mae deall sut rydym ni'n cyd-fyw gyda'n gilydd yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig. Rydw i'n mawr obeithio bod y ffordd rydym ni'n newid ein gwleidyddiaeth ni i estyn y franchise i bobl ifanc, a sicrhau ein bod ni'n...
Alun Davies: Llywydd, pryd bynnag yr ydym ni'n trafod y materion hyn, mae rhaniad clir mewn gwleidyddiaeth, lle mae pleidiau'r chwith yn dymuno cynyddu cyfranogiad ac annog pobl i bleidleisio, a'r pleidiau ceidwadol hynny ar y dde yn ceisio atal pobl rhag pleidleisio, ac yn ceisio mygu pleidleiswyr ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o osod rhwystrau o ran galluogi pobl i bleidleisio. A chaniatéwch imi...
Alun Davies: Llywydd, ni fyddai unrhyw un byth yn cyhuddo Mike Hedges o beidio â siarad digon am lywodraeth leol, ac rydym ni'n croesawu ei brofiad a'i wybodaeth am y pwnc. Dywedais wrth yr Aelodau yr wythnos diwethaf na fyddwn i byth yn ei herio eto, a gobeithiaf lynu at hynny yn yr ateb hwn heddiw. Gobeithio, o ran sefydlu cofrestr electronig genedlaethol, y gallwn ni symud at sefyllfa lle gallwn...
Alun Davies: Gobeithio y gallaf dawelu meddwl David Melding fy mod i'n barod iawn i wrando. Gobeithio fy mod i bob amser yn barod i wneud hynny, wrth gwrs, ond yn sicr o ran darparu datganiad y prynhawn yma, mae hyn yn cloi cyfnod o ymgynghori, ond nid ydym ni hyd yn hyn, wrth gwrs, wedi dechrau deddfu ac ni fyddwn yn gwneud hynny cyn yr hydref. Mae'n sicr yn fwriad gennyf, fel y dywedais wrth ateb Mike...
Alun Davies: Roeddwn yn gobeithio y byddai Jenny Rathbone yn parhau gyda'i chwestiwn terfynol ynglŷn â'r bleidlais sengl drosglwyddadwy ac yn rhoi ateb i'r cwestiwn imi. Rwy'n gefnogwr cryf o bleidleisiau teg, er mwyn sicrhau bod eich pleidlais yn cyfrif ym mhle bynnag yr ydych chi'n byw ac i annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau. Ac rwy'n credu bod cynrychiolaeth gyfrannol yn gwneud hynny. Fodd...
Alun Davies: Rwy'n falch fod y Cynghorydd McEvoy wedi datgan ei ddiddordeb. Mae'n rhaid imi ddweud wrtho, o ran unrhyw ddrwgdeimlad personol yma, rwy'n credu y dylai edrych tuag at ei gyn blaid yn hytrach na'r Llywodraeth hon.
Alun Davies: Byddwn yn dilyn eich esiampl chi, Mick Antoniw. Credaf, os nad yw'r Aelodau wedi gweld y ddogfen a gynhyrchodd, mae'n ddogfen o'r radd flaenaf ac yn dangos sut yr ydych chi mewn gwirionedd yn mynd ati i ymgysylltu â phobl. Gadewch imi, heb fod yn ormod o dreth ar eich amynedd, Llywydd, ddyfynnu dwy frawddeg yn unig ohono: 'Yn ddieithriad, bu'r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn dadleuon mewn...
Alun Davies: Wrth gwrs, y gwir reswm dros y nifer fawr o bleidleiswyr yng Ngogledd Caerdydd yw bod gennych chi ymgeisydd gwych yn Julie Morgan i bleidleisio drosti ac Aelod Seneddol yr un mor wych yn Anna McMorrin i'w chefnogi a'i hethol.
Alun Davies: A gaf i ddweud fy mod i'n cytuno'n fawr iawn gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod? Gadewch imi fynd yn ôl at y pwynt ynglŷn ag amrywiaeth, oherwydd nid yw wedi cael lle amlwg yn y ddadl y prynhawn yma. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn teimlo y gallan nhw, ac y gallan nhw mewn gwirionedd gymryd rhan yn ein proses etholiadol. Ond mae angen hefyd inni sicrhau bod pobl yn gallu gwasanaethu ar...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn.
Alun Davies: Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Cynulliad eu cymeradwyo fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2018 i 2019. Ond cyn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn roi teyrnged i'r dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu yn lluoedd ein heddlu, a gobeithio y bydd rhai ar bob ochr i'r Siambr yn ymuno â mi i roi...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma ar faterion o fewn y gyllideb, ac rwy'n ymrwymo i'r Aelodau y byddaf yn ystyried yr holl faterion hynny ac y byddaf yn gwneud datganiadau pellach arnynt yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Ond gallaf anghytuno â Llŷr Gruffydd yn ei sylwadau terfynol oherwydd mai materion...
Alun Davies: Ildiaf i Darren Millar yn y gobaith ofer—byddech wedi meddwl y buaswn wedi dysgu fy ngwers ar ôl degawd o wneud hynny—y byddai ef mewn gwirionedd yn ysbrydoli'r ddadl ac y byddai'n ysbrydoli'r Aelodau, yn hytrach na pharhau i fynd ar ôl dadl sydd wedi methu, na lwyddodd i'w wneud yn ei sylwadau sylweddol a methodd â gwneud hynny eto yn y fan hon. Ond os yw eisiau ymuno â mi i...
Alun Davies: Ni fyddaf yn cymryd rhagor o ymyriadau. Ceisiais i yn gynharach. Ni weithiodd yn dda. Cawsom fwy o wres na golau, rwy'n ofni, ac ni fyddaf yn cymryd unrhyw ymyriadau yn y dyfodol o feinciau'r Ceidwadwyr. Yr hyn y byddaf yn ei dderbyn o feinciau'r Ceidwadwyr yw os ydynt yn barod i roi eu gair inni y byddan nhw'n ymuno â'r holl bleidiau gwleidyddol eraill yn y lle hwn a dadlau o blaid cyllid...
Alun Davies: The majority of the most deprived Valleys communities will be able to access at least one strategic hub within 45 minutes using public transport. In addition to hubs, the taskforce is focused on working with businesses, employers and individuals to develop the foundational economy and improve support for entrepreneurs.