Lesley Griffiths: Erbyn yr haf.
Lesley Griffiths: Na, ni chredaf fod y flaenoriaeth yn isel ond credaf ei bod yn bwysig iawn fod gennym gynllun a strategaeth. Yn fy ateb i Neil Hamilton ynglŷn â’r ymgynghoriad ar gynllun morol cenedlaethol Cymru soniais hefyd fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein hadnoddau naturiol morol. Mae’n flaenoriaeth i mi. Mae’n gymhleth iawn, mae’n rhan...
Lesley Griffiths: Credaf y bydd yn rhaid i’r Aelod aros am y polisi pan gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae ‘Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid—Cyrraedd Safonau Uchel gyda’n Gilydd’ yn esbonio ein hymagwedd at gyflawni gwelliannau parhaus a pharhaol mewn safonau iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru. Mae cynllun gweithredu 2016-17 yn nodi’r camau penodol y byddwn yn eu rhoi ar waith yn ystod y cyfnod hwn o 12 mis.
Lesley Griffiths: Mewn perthynas â’r gofrestr cam-drin anifeiliaid, cyflwynodd Bethan Jenkins ddadl fer ar y mater ac rwyf wedi ymrwymo i edrych yn ofalus iawn ar y posibilrwydd o gael cofrestr o’r fath. Ni chredaf fod angen i mi gael trafodaethau gyda fy nghymheiriaid ar draws y DU mewn perthynas â hynny. Byddaf yn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol yfory. Fe’i gwahoddais i Gaerdydd i fynychu...
Lesley Griffiths: Rwy’n parhau i edrych ar hyn, yn eithaf trylwyr mewn gwirionedd. Cefais gyflwyniad da iawn gan filfeddyg o’r Alban ynglŷn â gwaith yn y maes hwn, a byddaf yn sicr yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â’r cyflwyniad, gan fy mod yn credu y buasai’n fuddiol iawn i chi ac i unrhyw Aelod arall sy’n dymuno ei weld. Felly, mae’r gwaith yn parhau a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf...
Lesley Griffiths: Gwnaf, yn sicr. Rwy’n ymwybodol o ymgyrch yr RSPCA ac rwyf wedi gofyn i’r prif swyddog milfeddygol gael golwg arni i mi.
Lesley Griffiths: Gwnaf. Rwyf eisoes wedi rhoi ymrwymiad y byddwn yn adolygu’r ddeddfwriaeth honno, gan fod angen i mi sicrhau mai’r ddeddfwriaeth honno yw’r un fwyaf priodol, a bydd y gwaith hwnnw’n dechrau yn y gwanwyn eleni.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy’n cydnabod gwerth cynnal a gwella bioamrywiaeth forol ac adeiladu cydnerthedd ein hamgylchedd morol. Mae cyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol yn ei gwneud yn ofynnol inni sicrhau bod ein moroedd mewn cyflwr amgylcheddol da. Mae’n nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i ddiogelu, cynnal ac adfer yr amgylchedd.
Lesley Griffiths: Cytunaf yn llwyr â’r Aelod, ac rwyf wedi ymrwymo’n gadarn i sicrhau bod Cymru’n cwblhau ei chyfraniad i rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig cydgysylltiedig yn ecolegol a reolir yn effeithiol. Fe fyddwch yn gwybod am yr asesiad o’r rhwydwaith a gyflawnwyd gennym y llynedd, a ddangosodd fod Cymru eisoes yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at rwydwaith y DU, er enghraifft. Mae...
Lesley Griffiths: Ydw, yn sicr. Mae’n safle pwysig iawn, a chytunaf yn llwyr â’r Aelod.
Lesley Griffiths: Bydd, yn sicr. Credaf fod hynny’n un o’r cyfleoedd, yn hytrach na’r risgiau a’r heriau, ac rydych yn llygad eich lle. Soniodd David Melding am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae gennym gyfarwyddebau natur yr UE. Mae gennym ein cyfarwyddebau ein hunain, fel y dywedwch, ac mae gennym ein deddfwriaeth ein hunain ar waith bellach, yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru)...
Lesley Griffiths: Diolch. Nid yw mynediad at ddyfroedd erioed wedi bod oddi ar ein hagenda. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau gwelliannau o ran cyfleoedd i bobl fwynhau’r awyr agored. Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fynediad at yr awyr agored, ac rwy’n bwriadu nodi fy null o weithredu yn ystod yr wythnosau nesaf.
Lesley Griffiths: Wel, roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn ôl yn 2009; credaf mai yn 2010 y cawsom ein hymchwiliad i fynediad at ddyfroedd mewndirol mewn gwirionedd. A’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud hyd yma mewn gwirionedd yw dilyn argymhellion adroddiad y pwyllgor. Ond rydym wedi cael adolygiad o’r ddeddfwriaeth ar fynediad i’r awyr agored, ac rydym wedi cael...
Lesley Griffiths: Gwnaf, yn sicr. Credaf ei fod yn fater emosiynol iawn. Pan oeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd, rwy’n cofio bod fy mag post yn llawn o lythyrau gan bysgotwyr a chanŵ-wyr, ac mae pethau’r un fath yn union fel Gweinidog. Mae’n fater hynod o emosiynol. Mae’n ymwneud, rwy’n credu, ag ystyried nid yn unig pysgotwyr, nid yn unig canŵ-wyr—mae’n ymwneud â cherddwyr, mae’n...
Lesley Griffiths: Mae hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried. Mae’n debyg mai mynediad at ddyfroedd yw’r mater mwyaf dadleuol i ddeillio o’r ymgynghoriad. Mae’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod y cytundebau mynediad gwirfoddol presennol—. Oddeutu 4.6 y cant yn unig o gyfanswm hyd prif afonydd Cymru sydd ar gael ar gyfer canŵio a cheufadu, felly mae angen i ni edrych ar...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae tir comin a reolir yn dda yn darparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol i bobl Cymru. Mae hawliau pori yn rhan bwysig o’r drefn reoli ar dir comin. Mae Deddf Tiroedd Comin 2006, sydd mewn grym yma ar hyn o bryd, yn darparu proses sefydledig ar gyfer sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod.
Lesley Griffiths: Gallaf, rwy’n fwy na pharod i edrych ar hynny. Gwn ein bod wedi gohebu ar y mater hwn, a buaswn yn fwy na pharod i edrych ar hynny hefyd i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud. Ond byddaf yn edrych ar y canllawiau, ac os oes angen eu diweddaru, rydym yn fwy na pharod i wneud hynny.
Lesley Griffiths: Mae fy swyddogion yn gwneud gwaith sylweddol ar hyn o bryd mewn perthynas â’r Ddeddf Tiroedd Comin, felly byddaf yn sicr yn edrych ar y pwynt penodol hwnnw, ac os yw’n briodol, byddaf yn cyhoeddi datganiad.
Lesley Griffiths: Fferm wynt fasnachol yn ardal chwilio strategol E yw datblygiad Mynydd y Gwair. Mae wedi cael pob caniatâd angenrheidiol a deallaf y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau y mis nesaf. Bydd y datblygwr yn buddsoddi £50 miliwn ac yn darparu cyflogaeth yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynhyrchu digon o ynni glân i bweru hyd at 22,600 o gartrefi.