Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Mark, Leanne, Mike a Rhun am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae llawer o fanteision meddyginiaethol i ganabis. Gellir ei ddefnyddio i reoli poen, trin sbastigedd, helpu gyda sgil-effeithiau cemotherapi, a dengys astudiaethau newydd y gall helpu i reoli ffitiau epileptig mewn plant. Fodd bynnag, nid ydym ond megis dechrau deall y manteision posibl y gall canabis eu darparu, ac...
Caroline Jones: Iawn, wrth gwrs.
Caroline Jones: Rydych chi'n cymryd tipyn o amser.
Caroline Jones: Rwy'n deall.
Caroline Jones: Popeth yn iawn; croeso. Mae astudiaethau wedi canfod bod THC, y prif sylwedd seicoweithredol yn y planhigyn canabis, yn gallu achosi nam gwybyddol, yn enwedig o'i gymryd dros amser hir. Mae tystiolaeth feddygol ddiweddar yn awgrymu'n gryf fod defnydd hirdymor o ganabis gan bobl sy'n dechrau ei ddefnyddio yn gynnar—maent yn arddangos tueddiad uwch o gael problemau iechyd meddwl ac...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor yn ystod ein hymchwiliad i glystyrau gofal sylfaenol. Mae gan glystyrau gofal sylfaenol botensial i drawsnewid y gofal a ddarperir yn ein cymunedau, ond er i ni weld enghreifftiau ardderchog o glystyrau llwyddiannus, ceir amrywiadau mawr yn eu perfformiad. Mynegodd llawer o feddygon teulu eu siom yn y clystyrau....
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae Shropdoc wedi darparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau i Bowys ers 22 mlynedd, ond, fel pob rhan o'r GIG, maen nhw hefyd wedi wynebu pwysau ariannol. Mae'r penderfyniad i beidio ag adnewyddu'r contract yn hynod siomedig, gan fod Shropdoc wedi darparu un o'r gwasanaethau y tu allan i oriau gorau yn y wlad gan ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl Powys....
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedais i pan wnaethoch chi ei chyhoeddi, mae'r gronfa driniaeth newydd yn ychwanegiad i'r GIG sydd i'w groesawu'n fawr iawn gan ei bod yn gallu cyflymu'r triniaethau hanfodol sydd ar gael i bob claf, ac nid dim ond pobl sy'n dioddef diagnosis o ganser. Rwy'n croesawu'r newyddion bod rhai meddyginiaethau wedi cymryd 17 diwrnod yn...
Caroline Jones: Diolch, Simon. Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau plastig ar yr ystâd, ac rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau nad oes unrhyw wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi erbyn 2018. Rydym yn gweithio i leihau plastig untro ar yr ystâd, gan newid i ddeunyddiau y gellir eu compostio lle bo...
Caroline Jones: Diolch i Simon am gydnabod y gwaith cadarnhaol sy'n parhau. Mae gennym hidlyddion dŵr a ffynhonnau o gwmpas yr adeiladau, sy'n lleihau'r angen am ddŵr potel. Rydym yn darparu cyfleusterau ailgylchu helaeth ar draws yr ystâd ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau, gan gynnwys plastig, ac mae gennym arwyddion clir a mentrau cyfathrebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleusterau ailgylchu, ac...
Caroline Jones: Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Hoffwn roi sicrwydd i chi fod y gwaith yn mynd rhagddo ac y byddwn yn nodi ac yn mynd i'r afael â'r holl bwyntiau a godwyd gennych. Diolch.
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Cyflwynodd UKIP welliant 1 i dynnu sylw at y sefyllfa rydym ynddi o ran economi Cymru. Mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn beio'i gilydd am y sefyllfa economaidd enbyd yng Nghymru, a'r ffaith amdani yw bod y ddwy blaid ar fai. Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu economaidd yng Nghymru ers bron 20...
Caroline Jones: Oedd, roedd hi. Dyna pam y gadawodd. Dyled a ddefnyddir i ariannu prosiectau balchder fel HS2, a fydd yn costio dros £70 biliwn i drethdalwyr y DU ac sydd wedi ei gamreoli'n aruthrol—a'r ffrae sy'n ymwneud â staff sy'n gadael yn cael gordaliad o bron £2 filiwn yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o enghreifftiau o wastraff, sydd wedi arwain at fwy na dyblu'r costau, ac mae rhai...
Caroline Jones: Na, na, na. Mae'n ffaith. Mae'n ffaith. Y ffaith hon. Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf clywsom am brosiect—[Torri ar draws.] Na. Clywsom am brosiect sydd i fod i ddarparu ffynhonnau, pympiau dŵr a systemau dyfrhau ledled Affrica ddeheuol, ac eto, ni chyrhaeddodd bron 70 y cant o'r cyllid hwnnw y bobl roedd i fod i'w cyrraedd. Aeth ar ffioedd ymgynghori, gyda staff yn cael eu talu £600 y...
Caroline Jones: Gwnaf, David.
Caroline Jones: Ie, ond mae wedi bod yn y papur, David, ac ar y newyddion, fod eich plaid chi hefyd am ei thorri.
Caroline Jones: Rhaid i Lywodraeth y DU roi'r gorau i wastraffu trethi trethdalwyr gweithgar a chanolbwyntio yn hytrach ar sicrhau bod cwmnïau amlwladol mawr yn talu eu cyfran deg. Dylent gael gwared ar HS2 a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith sydd o fudd go iawn i'r DU, megis band eang cyflym iawn a chysylltedd symudol ym mhobman. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Mae...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal llifogydd yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Prif Weinidog, rydym ni'n derbyn na allwn ni ddarparu'r gwasanaeth iechyd yn yr un modd ag yr oeddem ni 70 mlynedd yn ôl—[torri ar draws.]
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydym ni'n derbyn bod yn rhaid i wasanaethau newid ac na allwn ni ddarparu iechyd yn yr un ffordd ag yr oeddem ni 70 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, mae'n rhaid i unrhyw newid fod yn seiliedig ar angen clinigol a chael ei arwain yn glinigol. Trwy ddweud hynny, nid wyf yn golygu cyfarwyddwr clinigol y bwrdd iechyd lleol. Mae angen i newid gael ei ysgogi gan y...