Suzy Davies: A gawn ni ei adael tan y diwedd? Mae’n ddrwg gennyf. Fe’i cymeraf os bydd gennyf amser. Rwy’n dweud bod y carchar hwn yn rhan o atal aildroseddu. Ni fydd y carchardai hen ffasiwn hyn, gyda choridorau tywyll ac amgylchiadau cyfyng, yn helpu troseddwyr i droi eu cefnau ar droseddu, ac nid ydynt ychwaith yn rhoi i’n swyddogion carchar proffesiynol ac ymroddgar—[Torri ar draws.]—dof...
Suzy Davies: Rwy’n edrych ymlaen at yr hyn yr ydych yn mynd i’w ddweud, ond rwy’n gobeithio y byddwch yn rhoi tystiolaeth dros yr hyn yr ydych ar fin ei honni.
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, diolch i chi am y gwaith caled rydych wedi ei wneud ar hyn yn ogystal, a hefyd am dynnu sylw at y rheswm pam y mae cynghorau iechyd cymuned mor bwysig i’n cymunedau lleol. Mae peth anhawster wedi bod i gael cyfarfod cyhoeddus newydd at ei gilydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned ar hyn, yn rhannol oherwydd amharodrwydd cynrychiolwyr y practis i fod yn bresennol,...
Suzy Davies: Wel, mae tair blynedd ers i'r panel arbenigol gael ei sefydlu i ystyried lleoliad yr uned newydd, ac, yn y cyfnod hwnnw, nid yw Caerdydd na Bryste wedi dod yn nes at Aberystwyth na Hwlffordd, heb sôn am fannau yn fy rhanbarth i. Mae pennaeth y panel annibynnol, fel y clywsom, yn sôn nawr am symud yr uned losgiadau o Dreforys i Gaerdydd ac mae hynny, i mi, yn codi cwestiynau ynghylch sut yn...
Suzy Davies: Gan ein bod ar fin ddechrau trafodaethau ar Bapur Gwyn y Gweinidog ar gyfer y Gymraeg, mae yna rai materion yn ymwneud â safonau y mae angen eu cwblhau o hyd, ac roeddwn i’n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad cynnar, os gwelwch yn dda, ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau'r Gymraeg yn y gwasanaethau iechyd.
Suzy Davies: Mae’r cod ymarfer, wrth gwrs, yn nodi camau gweithredu i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg. Ac fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae talu llai na’r cyflog byw yn arfer cyflogaeth annheg, a gŵyr pob un ohonom am honiadau a wnaed yn y sector gofal a’r sector lletygarwch, gan fod modd i wasanaethau cyhoeddus gaffael gwasanaethau yn y sectorau hynny wrth...
Suzy Davies: Rwy’n cytuno’n llwyr â’r teimlad diwethaf hwnnw a fynegwyd gan Gadeirydd ein pwyllgor. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad ac yn arbennig i’n tystion sydd o bosibl wedi eu synnu gan rai o’r sylwadau yn yr adroddiad hwn. Mae Cymru, fel y clywsom, wedi cael llawer mwy y pen o arian datblygu economaidd na rhannau eraill o’r DU, ond er hynny, roedd rhai tystion yn...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Tybed a allwch roi blas inni o bwy yw’r partneriaid hynny. Nid wyf yn disgwyl rhestr hir, ond un neu ddwy enghraifft efallai.
Suzy Davies: Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Suzy Davies: Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ymwelais â labordai profi Severn Trent ym Mhen-y-bont ar Ogwr—efallai y byddwch yn gyfarwydd â nhw eisoes—ac roedd y rhan fwyaf o'r uwch dîm yno yn fenywod. Ni chawsant eu haddysgu'n ddiweddar yng Nghymru, mae gen i ofn, felly nid yw'n eich helpu chi o ran cwestiwn Andrew, ond, serch hynny, mae'n enghraifft wych o fenywod yn ymgymryd â gyrfaoedd...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Dim ond meddwl yr oeddwn i, ynglŷn â’r sylw yr ydych chi newydd ei wneud, tybed a ydych chi wedi dweud bod Cynghrair Twristiaeth Cymru, sef wrth gwrs y corff sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o safbwyntiau twristiaeth yng Nghymru, yn gwneud yr union bwynt yr ydych chi yn ei wneud.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy’n symud y gwelliannau yn enw Paul Davies. A allaf ddiolch i’r Gweinidog am gyflwyno’r ddadl heddiw ac i Plaid hefyd am eu gwelliannau? Rydym yn cefnogi nifer ohonynt. Y peth cyntaf yr hoffwn i ddweud yw bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi tri amcan craidd y ddeddfwriaeth hon: gwerth am arian, lleihau biwrocratiaeth yn y gyfundrefn safonau a gwella’r...
Suzy Davies: Diolch am dderbyn yr ymyriad, gan na chefais gyfle i siarad yn fy nghyflwyniad yn y fan yma. O ran y pwynt am gwmnïau preifat, yn amlwg, gwlad o fusnesau bach a chanolig ydym ni. Ydych chi'n credu bod y gofyniad i unrhyw safonau fod yn rhesymol a chymesur yn ddigon i sicrhau bod y busnesau bach a chanolig hynny yn cael eu gwarchod rhag y posibiliadau yr oeddech chi’n cyfeirio atynt?
Suzy Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynllun strategol pum mlynedd Gofal Cymdeithasol Cymru?
Suzy Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr ysgolion sy'n addysgu sgiliau achub bywyd?
Suzy Davies: Gweinidog, mewn datganiad yn ôl ym mis Ebrill, a gyfeiriai, yn rhannol o leiaf, at hybu defnydd o’r Gymraeg, fe egluroch chi sut yr hoffech ganolbwyntio ar gydgysylltu a chomisiynu cymorth ymarferol i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith busnesau bach. Nawr, daeth oddeutu £4 miliwn o’r brif gyllideb addysg i gyllideb y Gymraeg eleni at ddibenion cefnogi addysg, a thybed a yw’n...
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Gweinidog, bydd cyfnod 2 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn dod i rym ym mis Ebrill, a chlywsom yn y grŵp trawsbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth neithiwr fod angen i gomisiynwyr a darparwyr gynllunio ar gyfer hyn, ac fe fydd angen rhywfaint o gynllunio mewn gwirionedd. Clywsom hefyd, er y bu peth ymgysylltu â rhanddeiliaid, na rannwyd y...
Suzy Davies: Wel, diolch am eich ateb. Gall ‘wythnosau nesaf’ olygu unrhyw beth, felly rwy’n gobeithio y gallwch wneud hynny o fewn ychydig iawn o wythnosau. Fel y gwyddoch, mynegwyd pryderon difrifol yn yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid ynglŷn â chael gwared, i bob pwrpas, ar bresenoldeb nyrsio 24 awr mewn cartrefi nyrsio a newid i oruchwylio gofal nyrsio o bell gan unigolyn cyfrifol, a fyddai’n...