Russell George: Y profion sgrinio'r coluddyn ar gyfer pobl dros 74 oed.
Russell George: A gaf i gytuno ag arweinydd y tŷ fy mod yn credu bod yn rhaid inni ddathlu'r ffaith bod prosiect Cyflymu Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth ddarparu band eang ffeibr i lawer o gartrefi a busnesau ledled Cymru? Canlyniad y gwelliant hwnnw, wrth gwrs, yw bod ymdeimlad o anghyfiawnder yn cynyddu ymhlith y rhai hynny sydd wedi'u gadael ar ôl, ac mae'r ymdeimlad o anghyfiawnder yn cael ei...
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella canlyniadau addysgol i ddysgwyr yng nghanolbarth Cymru?
Russell George: Yn fuan, bydd Opera Canolbarth Cymru yn dathlu ei degfed pen-blwydd ar hugain. Ganed y syniad o Opera Canolbarth Cymru ym Meifod, Sir Drefaldwyn, yn 1988, a dechreuodd gyda golygfeydd o operâu yng nghanolfan opera canolbarth Cymru dan arweiniad yr athrawon cerddoriaeth, Barbara McGuire a Keith Darlington. Mae Opera Canolbarth Cymru yn dal i fod yn weithredol iawn heddiw, a'r llynedd...
Russell George: Ar ôl Brexit, Prif Weinidog, a gaf i ofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti gwybodaeth economaidd Cymru yn sylweddol er mwyn gwella gwaith cynllunio a darparu polisi cyhoeddus yng Nghymru?
Russell George: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol swyddfeydd Llywodraeth Cymru sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd? OAQ51738
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau gwella hawliau tramwy?
Russell George: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers ei chreu, mae swyddfeydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru yn fy etholaeth i, ac mae rhywfaint o bryder wedi bod yn y gorffennol fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd yn groes i'w hymrwymiad i leoli staff Llywodraeth Cymru yn y Drenewydd. Yn 2015, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Parhaol ar y pryd, Syr Derek Jones, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bresenoldeb...
Russell George: Weinidog, mae'r achos trasig sydd wedi cael ei amlinellu heddiw, wrth gwrs, yn amlwg yn mynd yn ôl i 2015, cyn adroddiad yr arolwg safonau gofal critigol o wasanaethau plant a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf. A fydd gwaith y bwrdd gwella gwasanaethau plant cyfredol yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn, a pha wersi y credwch eu bod wedi cael eu dysgu yn y cyd-destun ehangach? Ac a gaf fi...
Russell George: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi o'r farn bod diffyg unrhyw adnoddau ariannol a dynol yn un o'r rhesymau pam yr oedd wyth awdurdod lleol wedi disgyn yn is na'ch disgwyliadau? Ceir rhywfaint o bryder hefyd gan y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol bod gweithredu'r ddeddfwriaeth yn drwm o ran prosesau, sy'n golygu y...
Russell George: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses ar gyfer trosglwyddo rhwymedigaethau i awdurdod lleol olynol gan ei ragflaenydd statudol yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ51797
Russell George: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dyfarniad y Llys Apêl yn achos Cyngor Sir Powys v. Price a Hardwick yn gwrthdroi penderfyniad gan yr Uchel Lys a allai greu goblygiadau eang i awdurdodau lleol o ran eu rhwymedigaethau o dan y drefn tir halogedig. Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi mai'r llygrwr gwreiddiol sydd â chyfrifoldeb sylfaenol am adfer tir halogedig, hyd yn oed os...
Russell George: Byddaf yn ysgrifennu atoch.
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae heddiw'n nodi diwedd yr estyniad o ddeufis i brosiect Cyflymu Cymru. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i chi ac i Openreach am fanylion ynglŷn â sawl eiddo y dywedwyd wrthynt eu bod yn rhan o brosiect Cyflymu Cymru cyn 31 Rhagfyr, ond bod y prosiect wedi dod i ben cyn iddynt gael eu cysylltu, ac am restr o 2,500 eiddo, sy'n rhan o'r estyniad o...
Russell George: Rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwyf hefyd yn ddiolchgar eich bod eisoes wedi cydnabod y problemau cyfathrebu sydd wedi llesteirio prosiect Cyflymu Cymru, ac rydych wedi addo mynd i'r afael â hwy gydag Openreach. Fodd bynnag, mae'r problemau cyfathrebu yn parhau. Pryd y bydd y wybodaeth ar wiriwr band eang Openreach yn adlewyrchu sefyllfa fanwl gywir pob safle, gan gynnwys y rhai a...
Russell George: Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn y wybodaeth ychwanegol. Yn olaf, a gaf fi droi at y cynllun gweithredu ar ffonau symudol, a nodweddwyd hyd yn hyn, mae'n ymddangos, gan ei ddiffyg gweithredu? A ydych yn pryderu am sylwadau eich cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am gynllunio, ac sydd, mewn llythyr diweddar at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i'w weld wedi...
Russell George: Mae cynllunio wedi ei ddatganoli.
Russell George: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant gwella addysg i ysgolion? OAQ51839
Russell George: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn gwrando ar eich atebion i Darren Millar yn gynharach, ac fe ymrwymoch chi £5 miliwn o'ch cronfeydd wrth gefn ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 er mwyn caniatáu ar gyfer yr effaith ar awdurdodau lleol trefol. Ond ymddengys, yn ôl eich ateb i Darren Millar, fod y ffigur hwnnw bellach yn £7.5 miliwn. Sut rydych yn bwriadu cefnogi...
Russell George: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, er iddo gael ei sefydlu yn 2013 i ddarparu mwy o werth i drethdalwyr Cymru, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Nawr, ni all unrhyw un ddadlau nad yw wedi methu'n llwyr â darparu'r arbedion arfaethedig mewn gwariant cyhoeddus. Yn 2016-17, oddeutu 60 y cant yn unig o'r arbedion a ddisgwyliwyd a greodd, ac...