Rhianon Passmore: 5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio denu buddsoddiad i Islwyn o Unol Daleithiau America? OAQ53519
Rhianon Passmore: Ar wahân i’r bloc masnachu anferth sy'n bodoli eisoes gyda'r Undeb Ewropeaidd a pha mor hollbwysig yw hwnnw i fusnes Cymru ac economi Cymru, fel y dywedwch, Weinidog, fe wnaethoch ymweld ag Unol Daleithiau America yn ddiweddar yn sgil eich penodiad ar fasnach ryngwladol i Gymru. Yn ystod yr ymweliad pedwar diwrnod hwnnw lle roeddech yn hyrwyddo Cymru yn rhagweithiol, credaf eich bod wedi...
Rhianon Passmore: Mae adroddiad pwysig y Barbican yr wythnos diwethaf ynghylch y sefyllfa druenus o'r anhawster i gael mynediad at gerddoriaeth ar draws y DU yn disgrifio’n llawn y dystiolaeth o elitaeth gynyddol o ran gallu pobl ifanc i gael mynediad at gerddoriaeth fel pwnc yn y cwricwlwm ac fel llwybr gyrfa. Mae hyn yn wir yn enwedig yn achos plant y dosbarth gweithiol, ac mae'n amlygu diffyg cronig o ran...
Rhianon Passmore: 6. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran sicrhau unffurfedd wrth bennu dyddiau HMS ar draws ysgolion yng Nghymru? OAQ53561
Rhianon Passmore: Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod ail don rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif yn darparu cyfleusterau sydd o fudd i'r gymuned ehangach yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Pryd y bydd cynnyrch misglwyf yn cael eu cynnig am ddim i gleifion ledled y GIG?
Rhianon Passmore: Diolch. Yn wir, mae llawer o drafod a sylwebaeth wedi bod ynglŷn â'r cwestiwn diddorol ynglŷn ag a ellid cysoni diwrnodau HMS i ryw raddau ledled y wlad, a chyda chyhoeddi chweched diwrnod dysgu addysgu proffesiynol HMS, sydd i'w groesawu, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn eu hymgynghoriad mai'r nod ar gyfer pob ysgol yw pennu'r un dyddiad ar ei gyfer. Os bydd hyn yn digwydd, pa...
Rhianon Passmore: Rwy'n codi hefyd i siarad fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ac roeddwn hefyd yn falch o gyfrannu at yr ymchwiliad byr hwn i effaith Brexit ar ein diwydiannau creadigol, y celfyddydau a sefydliadau treftadaeth yng Nghymru, a'r iaith Gymraeg. Hoffwn gytuno â'r materion sylweddol a godwyd heddiw gan y Cadeirydd a thrwy gydol yr ymchwiliad. Felly, bydd colli rhyddid i...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A ydych yn cydnabod bod pwyslais mawr bellach ar un diwylliant sefydliadol yn Cyfoeth Naturiol Cymru drwyddo draw ac yn cydnabod y bwrdd parhaol newydd a'r tîm arweinyddiaeth sy'n gweithio ar frig Cyfoeth Naturiol Cymru?
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. O ran rhai o'r materion rydych eisoes wedi tynnu sylw atynt—nid oes unrhyw amheuaeth y bu rhai problemau—yn ogystal â'r ailstrwythuro a'r ad-drefnu ar raddfa fawr o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a gynigir gan y Blaid Geidwadol gyferbyn, beth arall a argymhellir? A hefyd, o ran ailstrwythuro'r tîm arweinyddiaeth, ailstrwythuro'r bwrdd, pa gamau pellach rydych yn eu rhoi—?
Rhianon Passmore: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael i wella amseroedd aros?
Rhianon Passmore: 3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r sector modurol? OAQ53630
Rhianon Passmore: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar sector y celfyddydau yn Islwyn? OAQ53632
Rhianon Passmore: O'r gorau. Diolch. Weinidog, gwn eich bod wedi hyrwyddo'r sector diwydiannol modurol yn gadarn, a thanlinellir hynny o fewn y cynllun gweithredu economaidd, ac mae'n ddiwydiant pwysig yng Nghymru sy'n cynnwys tua 150 o gwmnïau, yn cyflogi bron 19,000 o bobl, yn hollbwysig—13 y cant o weithlu gweithgynhyrchu Cymru—yn creu dros £3 biliwn o refeniw, ac yn gweithgynhyrchu 30 y cant o'r 2.7...
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Weinidog, o ran—. Roedd yn amlwg, mae'n ddrwg gennyf, o'r Siambr hon yr wythnos diwethaf, ar ôl—
Rhianon Passmore: O'r gorau.
Rhianon Passmore: Diolch. Roedd yn glir o'r Siambr hon yr wythnos diwethaf, yn dilyn y datganiad pwysig gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, fod consensws clir a beirniadol i'w gael yn y lle hwn a'r tu allan i'r anghytuno anhrefnus yn San Steffan fod yn rhaid i Gymru barhau, fel yr addawyd gan y rheini gyferbyn, i dderbyn yr un lefel o gyllid ag y byddai wedi'i chael pe bai'r DU wedi...
Rhianon Passmore: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth twristiaeth i economi Islwyn?
Rhianon Passmore: Hoffwn groesawu'n gryf weithredoedd Llywodraeth Cymru ac, yn benodol, y Prif Weinidog a'r Gweinidog Brexit. Ar adeg o anghydfod gwleidyddol cynhennus, mae arweinwyr Llafur Cymru wedi mynd ati mewn modd digyffro, pwyllog ac adeiladol i ddiogelu economi a phobl Cymru, gan gydnabod penderfyniad gwleidyddol pobl Cymru, a chan anrhydeddu hefyd y safbwynt democrataidd a gefnogwyd gan gynhadledd y...