Huw Irranca-Davies: Rwy’n cytuno â'r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud bod arnom angen ailfeddwl sylfaenol o ran strategaeth fuddsoddi, ond hefyd ynglŷn â gwydnwch hirdymor buddsoddi a throi'r peth ar ei ben fel ein bod ni’n gweld y buddsoddiad yn llifo i mewn i’r Cymoedd. Ond hoffwn awgrymu dau beth. Un yw bod y metro, i mi, bob amser wedi bod yn fwy na’r metro fel y mae’n cael ei ystyried ar...
Huw Irranca-Davies: A fyddai’r Aelod yn ildio ar y pwynt hwnnw?
Huw Irranca-Davies: Rwy’n codi oherwydd ei bod wedi crybwyll y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mae’r gwahoddiad hwnnw’n aros, gyda llaw. Y rheswm y mae’n aros yw oherwydd ein bod, yn ysbryd yr ymgysylltiad adeiladol a wnaed gan y Prif Weinidog, gan arweinwyr y gwrthbleidiau, a hefyd gan y Llywydd—gan gynnwys mynd mor bell ag awgrymu newidiadau hyd yn...
Huw Irranca-Davies: Croesawaf yr Ysgrifennydd Gwladol yma heddiw, a byddwn o ddifrif yn ei groesawu yn ôl eto fel y gall y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol rwy’n Gadeirydd arno ymgysylltu’n adeiladol i graffu ac yn wir ei helpu i wella Bil Cymru. Nawr, efallai nad ydynt yn trafod hyn hyd syrffed yn y dafarn, ond rwy’n fwy na pharod i brynu peint iddo yn y Mountain Hare ym Mrynna os yw’n...
Huw Irranca-Davies: Yn fyr, os caf ymyrryd i ddweud fy mod yn croesawu ymateb adeiladol Ysgrifennydd Gwladol Cymru i barhau i drafod hyn, ac nid fy nghynnig terfynol oedd dau beint; rwy’n barod i fynd yn uwch. [Chwerthin.]
Huw Irranca-Davies: A gaf fi dynnu sylw’r Gweinidog at Goleg Penybont, a osodwyd ar y brig y llynedd o blith ein sefydliadau addysg bellach yng Nghymru mewn perthynas ag iechyd a lles, cymorth a chefnogaeth, gwybodaeth a chyngor, ac ymatebolrwydd i fyfyrwyr? Ond yn ogystal â lefelau ardderchog o foddhad myfyrwyr a llwybrau academaidd rhagorol, mae hefyd yn helpu i ddarparu prentisiaethau o safon ar y cyd â...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y mesurau i feithrin sgiliau yn y diwydiannau digidol yng Nghymru?
Huw Irranca-Davies: Ar yr un thema â'r ddau gwestiwn diwethaf, rwy’n nodi, yn fy etholaeth fy hun ac yn etholaeth y Prif Weinidog ein bod ni newydd gael hyd at £100,000 o grantiau wedi'u cyhoeddi ar gyfer cynlluniau adfywio unigol yn rhan o ddatblygiad gwledig. Mae'n aml yn synnu pobl, mewn etholaeth fel fy un i yn Ogwr, cyn-etholaeth fwyngloddio a diwydiant trwm, fod pob un ond dwy o'r wardiau yn fy...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at gwmni yn fy etholaeth, ffatri Sony Pencoed sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol, ac nid yn unig at honno, ond at 30 a mwy o fusnesau cynhenid sydd wedi deillio yn sgil rhagoriaeth Sony mewn dylunio i weithgynhyrchu ar y safle hwnnw a chanolfan dechnoleg Sony Pencoed UK? Mae’n sicr yn enghraifft o ddatblygu ein talentau cynhenid yma...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff hi ildio ar y pwynt hwnnw?
Huw Irranca-Davies: I fynd â chi’n ôl at y pwynt a wnaethoch funud yn ôl ar gymhorthdal ffermio, a fyddai’n cytuno â mi nad pwynt dadl yn syml yw hyn, mae’n rheidrwydd cystadleuol yn y cyfnod pontio hwn wrth symud ymlaen, nid yn unig yn y trafodaethau gadael ond ar ôl hynny, ac ni allwn gael ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig o dan anfantais gystadleuol mewn perthynas â’r hyn sy’n digwydd...
Huw Irranca-Davies: Mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn etholaeth fy nghyfaill, y Prif Weinidog, ond hefyd fy un innau. Wedi siarad â'r undebau a'r gweithlu a rheolwyr Ford eu hunain mae'n amlwg, er nad Brexit yw'r ffactor perthnasol yn y penderfyniad hwn—cynhyrchu llai o injans Dragon yw hwnnw—mae'n fater sy'n eu poeni oherwydd yr union fater hwn y mae’r Ysgrifennydd y Cabinet...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Byddaf yn wir yn cadw fy sylwadau'n fyr iawn. Gwnaeth un foment benodol yn y datganiad fy nharo i a rhai pobl eraill ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac roedd tua diwedd y datganiad, pan ddywedodd y Prif Weinidog: ‘Wrth i ni ystyried perthynas sydd wedi’i newid gyda'n cymdogion yn Ewrop, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried perthynas sydd wedi’i newid...
Huw Irranca-Davies: Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o fanteision creu coetiroedd o ran bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau, lliniaru llifogydd, dal carbon a chymaint mwy o’n systemau naturiol pwysig ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, ond rwy’n meddwl tybed a yw hi wedi cael amser i fyfyrio ar ei hymweliad â Choetir Ysbryd Llynfi—30 hectar o dir wedi ei adfer o hen olchfeydd Maesteg...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, Simon, am ildio. Mae eich pwynt yn un da iawn. Yn wir, mae’n debyg i’r buddsoddiad a wnaed yn yr ardaloedd o amgylch Hull a Grimsby. Cyn 2010, buddsoddwyd £60 miliwn i ehangu’r porthladd yno er mwyn ei gwneud hi’n bosibl ehangu ynni gwynt ar y môr; mae’n digwydd, ac mae Siemens wedi eu lleoli yno; mae ganddynt allu gweithgynhyrchu yn ogystal â phopeth arall. Gallai...
Huw Irranca-Davies: 3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gofal cymdeithasol o ran cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â hybu iechyd a llesiant gydol oes? OAQ(5)0160(FM)
Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae’n well i mi ddatgan buddiant, gan fod fy ngwraig—mae yn y gofrestr o fuddiannau—yn radiograffydd. Mae ganddi hefyd ddwylo oer iawn, felly rwyf yn rhybuddio pobl ymlaen llaw. [Chwerthin.] Yng Nghymru, mae 50 y cant o bobl— [Torri ar draws.] Mae ganddi [Chwerthin.]. Bydd hanner cant y cant o boblogaeth Cymru dros 65 oed erbyn...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y gŵr anrhydeddus dderbyn ymyriad?
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ganmol Simon am gyflwyno’r ddadl hon, ond hefyd am y ffordd y mae wedi ei chyflwyno yn bwyllog a rhesymegol iawn? Mae’n llygad ei le; clywsom y pryder hwnnw heddiw, ac rwyf wedi ei glywed gan ffermwyr unigol yn fy etholaeth yn ogystal ag eraill rydym wedi eu cyfarfod gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Mae hynny’n ei gwneud yn ddyletswydd ar...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?