Mark Reckless: Os mai’r cwmni y mae’n siarad â hwy yw Ford, onid yw’n ymwybodol fod gan Ford ffatri yn y wlad hon—yn y DU o leiaf, yn Southampton—a aeth yn lle hynny, a gaeodd yn Southampton, a symud i Dwrci, a thalwyd amdani ag arian yr Undeb Ewropeaidd, a dalwyd gan ein trethdalwyr ein hunain?
Mark Reckless: A wnewch chi ildio?
Mark Reckless: Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yn deall nad oes neb wedi gwrthwynebu erioed o'r blaen, yn hanes y Cynulliad i sefydliad y pwyllgorau. Fodd bynnag, nid yw UKIP dan ddyled y consensws blaenorol hwnnw. Rydym yn bwriadu pleidleisio heddiw yn erbyn sefydliad y pwyllgorau polisi a deddfwriaethol ar y sail y cytunwyd arno gan y rheolwyr busnes eraill. Y rheswm yr ydym yn gwneud hyn yw nad yw...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: Ni fyddai D'Hondt wedi golygu dim byd o'r fath. Hyd yn oed ar bwyllgor o saith, byddai UKIP wedi cael un aelod yn ôl D'Hondt.
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio eto?
Mark Reckless: Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Fel y mae’n ei ddweud, mae’r materion hyn yn gynhenid gymhleth, ac mae deddfwriaeth yn anochel yn dechnegol. Cafodd hyn ei gadarnhau imi, o leiaf o ran y Cynulliad hwn, pe byddai angen, wrth imi geisio ymgyfarwyddo â'r gweithdrefnau, o leiaf i ryw raddau. Gwyliais, ar sianel y Senedd, ei ragflaenydd yn cyflwyno’r Bil...
Mark Reckless: Nid oes gennyf gwestiynau ar yr achlysur hwn.
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A yw’r Aelod yn cydnabod, ers y bleidlais i adael yr UE, fod lefel y bunt bellach wedi gostwng oddeutu 10 y cant ac oni fydd hynny’n llifo drwodd i welliant sylweddol yng nghystadleurwydd y diwydiant dur yng Nghymru a’r DU?
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: Rwy’n synnu at ei sylw am gronfeydd pensiwn. Mae Ffrainc a’r Unol Daleithiau wedi cael eu hisraddio o statws AAA—ychydig iawn o economïau AAA sydd i’w cael. Yn sicr, yr un peth y gwyddom yw bod allforion o’r gweithfeydd hyn bellach 10 y cant yn rhatach nag yr oeddent bythefnos yn ôl. Clywsom gan Bethan fod dwywaith a hanner yn fwy o allforion na mewnforion. Yn sicr, mae hynny...
Mark Reckless: A wnewch chi ildio?
Mark Reckless: I’r gwrthwyneb, rwy’n meddwl ei bod yn adeg ryfeddol tu hwnt, ac rwyf bob amser wedi ei alw’n ‘Ddydd Mercher Gwyn’ yn hytrach na ‘Dydd Mercher Du’. Fodd bynnag, yn wahanol i’r adeg honno, ar y data diweddaraf, mae gennym ddiffyg cyfrif cyfredol o 7 y cant o gynnyrch domestig gros. Mae ei bennaeth wedi sôn llawer am y modd y mae’r bunt uchel wedi bod yn anfantais i...
Mark Reckless: Rwy'n croesawu'r dyraniad newydd o arian yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru i gamlas Mynwy ac Aberhonddu a hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog a yw hyn yn cyd-fynd ag unrhyw strategaeth datblygu economaidd ehangach ar gyfer integreiddio ein dyfrffyrdd i seilwaith y de-ddwyrain.
Mark Reckless: Rwyf yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac yn cefnogi datganoli’r fasnachfraint hon yn synhwyrol i'r Cynulliad ac i Lywodraeth Cymru. Nodaf, fodd bynnag, y bu 18 mis o drafodaethau, a tybed a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pam y mae’r trafodaethau hynny eto i ddwyn ffrwyth? Cymharodd Trafnidiaeth Cymru â Transport for London a chrybwyllodd rai o'r...
Mark Reckless: Nid ydym yn bwriadu gwrthwynebu'r gyllideb hon ac rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y dull cyfranogol a gymerwyd gyda'r Pwyllgor Cyllid, a thu hwnt, ar y gyllideb hon. Hoffwn godi dim ond ychydig o bwyntiau ynglŷn â’r dyraniadau cyfalaf: y £2.5 miliwn ar gyfer camlas Aberhonddu a Sir Fynwy, y croesewais yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach. Tybed a oes bwriad o...
Mark Reckless: Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar ran y Pwyllgor Busnes.
Mark Reckless: Cynigiaf y cynigion.
Mark Reckless: Hyd yn hyn, fodd bynnag, mae amaethyddiaeth wedi ei ddatganoli yn gyfreithiol i Gymru, ond, yn ymarferol, mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n digwydd yn y maes hwnnw wedi ei osod ar lefel yr UE. Mae’r Prif Weinidog yn gywir ddigon i nodi y bydd gwahaniaeth enfawr rhwng cyfran fformiwla Barnett o wariant ar amaethyddiaeth a'r hyn a gawsom o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin. O ystyried hynny, a...