Alun Davies: Mae’r cyfrifoldeb dros brentisiaethau a’r meysydd hynny ym mhortffolio’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ac mae hi yma yn y Siambr, a bydd wedi clywed y cwestiwn hwnnw ac yn ymateb maes o law rwy’n siŵr. Ond a gaf fi ddweud hyn: mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod safon yr addysg a ddarperir gan addysg bellach yn cael ei fonitro, ei ddeall a’i ddathlu yn y ffordd y mae’r...
Alun Davies: Cytunaf yn llwyr â’r pwynt a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn. Rwy’n meddwl bod y berthynas rhwng cyflogwyr a cholegau a sefydliadau addysg bellach yn gwbl allweddol er mwyn cyflwyno rhaglen brentisiaeth sy’n ateb anghenion y boblogaeth leol a’r economi leol. Un o’r disgwyliadau sydd gennyf yw bod pob sefydliad addysg bellach yn ymatebol i gyflogwyr lleol. Gwyddom fod hynny’n wir...
Alun Davies: Rydym yn awyddus i drawsnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr mewn ysgolion arbennig. Bydd cyflwyno’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) sydd ar y gorwel yn garreg filltir allweddol yn y daith tuag at newid sydd eisoes wedi cychwyn.
Alun Davies: Diolch. Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol iawn o’r gwaith a wnewch chi fel llywodraethwr ac eraill yn Trinity Fields. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr ysgol wedi cael ei chydnabod gan Estyn yn yr adroddiad blynyddol fel un y mae ei gwaith yn arwain y sector, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth i’w ddathlu eto. Mae’n wych gweld y gwaith sy’n cael ei wneud gan ysgolion ar hyd a lled...
Alun Davies: Rwy’n sicr yn hapus i wneud hynny. Yr wythnos diwethaf cyhoeddais ymateb y Llywodraeth i ymgynghoriad ar y Bil drafft. Nawr, os nad yw’r Aelod yn credu ein bod wedi ymdrin yn llawn â’r meysydd hynny, yna byddwn yn ddiolchgar pe gallai ysgrifennu ataf a byddaf yn sicr o wneud hynny. Ond o ran y pwynt cyffredinol a wnaed yn y cwestiwn, wrth gwrs, rwy’n cytuno’n llwyr fod angen i ni...
Alun Davies: Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein holl ddysgwyr gan gynnwys y rhai sydd ag awtistiaeth. Drwy ganolbwyntio ar ddatblygu ein gweithlu, drwy ein cynllun gweithredu strategol a thrwy rhaglen i drawsnewid y cymorth a roddir tuag at anghenion dysgu ychwanegol, byddwn yn sicrhau bod dysgwyr awtistig yn derbyn y ddarpariaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Alun Davies: Os yw’r Aelod yn fodlon ysgrifennu ataf gyda’r enghraifft y mae hi wedi’i thrafod yn y Siambr yma, byddaf yn hapus iawn i ymateb i’r pwyntiau penodol rydych chi wedi’u codi gyda ni. Ond, a gaf ddweud yn gyffredinol, rydym ni, fel Llywodraeth—? Mae’r Aelod wedi cael cyfle i ddarllen y cynllun presennol, y cynllun sydd wedi cael ei newid yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r cynllun...
Alun Davies: Gwnaf, yn sicr; byddwn yn sicr o wrando ar hynny, ond hoffwn fynd ymhellach na hynny hefyd, oherwydd os oes anawsterau, fel rydych chi a’r Aelod dros Orllewin De Cymru wedi disgrifio, a bod hynny’n arwain at y farn fod yna yn broblem fwy systemig nag anawsterau unigol, yna, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni weithredu’n llawer mwy helaeth ar hynny. Mae’r Aelodau’n ymwybodol o’r cytundeb...
Alun Davies: Yn amlwg, mae’r math o raglen ddysgu sy’n cael ei darparu ar gyfer pob disgybl unigol yn fater iddynt hwy a’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin â hwy. Nid wyf yn siŵr y byddai’n briodol i mi, fel Gweinidog, farnu ar y mathau hynny o benderfyniadau neu i wneud sylwadau ar hynny heb ddeall anghenion unigol y disgybl. Ond a gaf fi ddweud hyn wrthych? Rwy’n credu ei bod yn bwysig i...
Alun Davies: Diolch yn fawr i chi, Lywydd. Mae’n bleser gen i gael y cyfle yma heddiw i wneud datganiad am fy nghynlluniau a fy mlaenoriaethau ar gyfer maes polisi’r Gymraeg dros y flwyddyn i ddod. Fel rhywun sydd yn wastad wedi ymgyrchu dros nifer o flynyddoedd am ddyfodol llewyrchus i’r Gymraeg, mae’n anrhydedd cael arwain ar y portffolio iaith ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy’n ffodus hefyd i...
Alun Davies: Ni fuaswn i’n derbyn ambell bwynt rydych wedi ei wneud, ond rwy’n eich croesawu chi i’r swydd, fel llefarydd ar faterion iaith. Wrth wneud hynny, a gaf i ddweud hyn? Mi fydd y Llywodraeth yma yn gweithredu pob un rhan o’r maniffesto heb eithriad, ac mi fyddem ni yn gwneud hynny. Mae sut rydym yn gwneud hynny yn rhywbeth mi fydd—wel, y mae’r Prif Weinidog wedi dechrau’r job o...
Alun Davies: Diolch i chi a diolch am eich sylwadau. Rwy’n amlwg yn fodlon ystyried y materion y mae’r Aelod wedi’u codi. Rwyf i, fel Aelod, hefyd yn deall bod yna broses apelio yn erbyn penderfyniadau’r comisiynydd ac mae tribiwnlys y Gymraeg wedi’i sefydlu er mwyn gwrando ar unrhyw apêl yn erbyn y safonau. Os nad yw’r broses sydd gennym ni yn glir, mi fydd gan Aelodau—pob un Aelod—y...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei sylwadau. A gaf i ddweud—? O ran datblygu'r strategaeth, fy mwriad eglur yw sicrhau bod gennym strategaeth hirdymor ar gyfer dyfodol y Gymraeg, nid un sydd ond yn ystyried y flwyddyn nesaf, y ddwy flynedd, y tair blynedd neu hyd yn oed y pum mlynedd nesaf. Rwyf eisiau edrych ar strategaeth a fydd yn mynd â ni drwy'r 20 mlynedd nesaf. Mae'r uchelgais i...
Alun Davies: Diolch i chi. Rwy’n gwerthfawrogi beth sydd y tu ôl i’r cwestiwn yma. Mae’n hynod o bwysig bod pobl yn cyrraedd lefel lle maen nhw’n gallu trafod, siarad a defnyddio’r Gymraeg. Rwy’n gweld pa mor bwysig ydy hynny—i gyfathrebu a theimlo’n hyderus i fod yn rhugl a gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Un o’r pethau rydym wedi ei wneud trwy sefydlu’r Canolfan Dysgu...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n credu ein bod wedi mwynhau dadl gyfoethog iawn y prynhawn yma, gan drafod nid yn unig y BBC ei hun, ond hefyd y cyfraniad y mae’n ei wneud i fywyd cyhoeddus a’i gyfraniad at ddiwylliant Cymru a’r Deyrnas Unedig. Dylwn ddechrau fy sylwadau drwy groesawu Bethan i’w rôl fel Cadeirydd y pwyllgor. Rydych yn sicr yn llwyddo lle y methais i. Rwy’n...
Alun Davies: Yn ffurfiol.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf hefyd yn ychwanegu fy niolchiadau i Llyr a Phlaid Cymru am ffeindio’r amser i gynnal trafodaeth ar hyn y prynhawn yma. Mi fydd y Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliannau i gyd y prynhawn yma, nid oherwydd yr ydym yn meddwl bod y rhain yn arafu’r ‘progress’ yr ydym yn ei weld, ond oherwydd ein bod ni eisiau pwysleisio ble mae yna gytundeb o...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dywedais pan aethom i'r afael â'r materion hyn y tro diwethaf cyn toriad yr haf y byddwn yn rhoi cyfle i Aelodau drafod siarter ddrafft y BBC yn amser y Llywodraeth pan fyddai’r siarter yn cael ei chyhoeddi. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y siarter wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 15 Medi, ac mae hwn yn gyfle i Aelodau fynegi eu...
Alun Davies: Gwnaf.
Alun Davies: Yn amlwg, mae sut y mae'r Cynulliad yn cynnal ei fusnes yn fater i'r Cynulliad ac nid yn fater i’r Llywodraeth [Aelodau'r Cynulliad: 'O.']. Byddwn yn petruso—byddwn yn petruso—i sefyll yma fel aelod o'r Weithrediaeth ac awgrymu i bwyllgorau sut y maent yn dwyn y Weithrediaeth ac eraill i gyfrif. Rwy’n credu bod llawer o dalent, gwybodaeth a sgiliau yn y Siambr hon a byddwn yn gwahodd...