Caroline Jones: Byddwn innau hefyd yn hoffi diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ddydd Gwener ac am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Ddydd Iau, siaradodd pobl y Deyrnas Unedig a siarad yn uchel. Dywedasant: 'Mae Prydain yn well ei byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd'. Mae'n anffodus iawn nad oedd y Prif Weinidog a roddodd y refferendwm hwn i ni yn ddigon dewr i ddilyn y mater hyd at ei derfyn. Fodd...
Caroline Jones: Cefais fy ethol. Mae'n rhaid i ni anwybyddu deisebau amheus, hunan-les gwleidyddol—do, fe fu deisebau y profwyd bod gwallau ynddynt ar-lein—a hunan-les gwleidyddol a'r rhai sy'n honni na all y Deyrnas Unedig sefyll ar ei phen ei hun. Mae gennym gyfle unwaith mewn oes i gael llawer iawn i Gymru ac i Brydain Fawr, ac rwy’n annog pob ochr i weithio gyda'i gilydd i gael y telerau mynd...
Caroline Jones: Gwnaf.
Caroline Jones: Gallaf eich sicrhau, nad ydych wedi’i chlywed gennyf i, ac nid ydych wedi ei chlywed gan y bobl hyn yma ychwaith. At bwy yr ydych yn cyfeirio?
Caroline Jones: Mi wnaf.
Caroline Jones: Yr oedd yn gwestiwn gwahanol, rwy’n cyfaddef, ond roedd yn gwestiwn a ofynnwyd gan etholwyr—na, nid gan UKIP, gan etholwyr y gŵr bonheddig.
Caroline Jones: Dim problem.
Caroline Jones: I'r rhai sydd am fwrw ein hymadawiad oddi ar y cledrau a llesteirio ein cynnydd o ran sicrhau bargen wych, rwy’n eich annog i wrando ar bobl Prydain a gyflwynodd fandad clir ar gyfer Brexit. Wrth ein cefndryd yn yr Alban, rwy’n dweud: ni allwch fwrw ein hymadawiad oddi ar y cledrau. Efallai bod pleidleiswyr yn yr Alban wedi pleidleisio o blaid aros yn yr UE, ond maent hefyd wedi...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth meddygol ar gyfer salwch meddwl ac amcangyfrif o un o bob pedwar ohonom yn profi problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, mae'n amlwg bod angen inni roi llawer mwy o flaenoriaeth i iechyd meddwl. Rydym felly'n croesawu'r ffaith...
Caroline Jones: Iawn. Diolch i chi—diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig yn ffurfiol y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Neil Hamilton a minnau. Mae’r cynnig UKIP ger eich bron heddiw yn adlewyrchu ein cred fod yr Undeb Ewropeaidd wedi llyffetheirio busnes Prydain â phentwr o fiwrocratiaeth a pholisi diwydiannol nad yw wedi ei gynllunio ar gyfer ein diwydianwyr yn sector gweithgynhyrchu Prydain. Mae’r...
Caroline Jones: Iawn, fe wnaf.
Caroline Jones: Pleidleisiodd Aelodau Seneddol Ewropeaidd UKIP yn erbyn gwelliant grŵp Llafur yr oedd Llafur yn honni y byddai’n arwain at fesurau gwrth-ddympio uwch. Ond nid oedd llawer o dystiolaeth o hyn ac ymataliodd UKIP—ymatal—fel rhan o egwyddor. Tariffau UE o 16 y cant yn unig—o ganlyniad, cododd mewnforion dur o Tsieina i’r UE dros 50 y cant. Mae hyn wedi cael effaith ddinistriol ar ddur...
Caroline Jones: Diolch. Aelodau, ar ôl gadael yr UE, bydd gan Tata Steel yn fy rhanbarth obaith gwell o oroesi ac fe’ch anogaf i gefnogi’r cynnig. Gan symud at y gwelliannau, rwy’n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Nid ydym yn anghytuno â’r pwyntiau rydych yn eu gwneud a phe baech wedi penderfynu ychwanegu’r pwyntiau hynny at ein cynnig, byddem wedi eich cefnogi. Fodd...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch am y ffordd yr ydych yn ymdrin â'r adolygiad o broses yr IPFR. Ar faterion fel y rhain, mae'n bwysig ein bod yn codi uwchlaw gwleidyddiaeth plaid ac yn gweithio’n adeiladol gyda'n gilydd i gyflenwi triniaethau achub bywyd i gleifion yng Nghymru. Er y bu llawer o...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn goroesi a ffynnu. I’m learning Welsh. Mae dweud na fydd hi'n dasg hawdd cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn danddatganiad. Mae amcangyfrifon yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos, yn ystod y...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae recriwtio a chadw meddygon mewn gofal sylfaenol ac eilaidd wedi’i ddisgrifio gan lawer, gan gynnwys llawer o’r colegau brenhinol, fel bom yn tician. Mewn gofal sylfaenol, mae gennym y broblem ddeuol o fethu â recriwtio digon o feddygon teulu ac oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio, nifer cynyddol o feddygon teulu yn ymddeol. Dywedodd Coleg...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai y gallwn symud ymlaen at gadw meddygon. Mae cynnydd aruthrol mewn llwyth gwaith a’r straen o reoli mewn system ofal sylfaenol wedi’i gorlwytho wedi cael y bai gan lawer o feddygon teulu fel y rheswm dros eu penderfyniad i symud dramor neu i ymddeol o ymarfer cyffredinol yn gyfan gwbl. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn gyfeirio at hyfforddiant ein meddygon. Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, mae’n costio dros £0.75 miliwn i hyfforddi cofrestrydd, a thros £500,000 i hyfforddi meddyg teulu—buddsoddiad sylweddol gan y GIG yng Nghymru. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i ofyn am leiafswm cyfnod gwasanaeth yn y GIG cyn bod y meddygon hynny’n...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru hefyd am y cyfle i drafod y cyfleoedd ar gyfer ariannu Cymru yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn ymuno â’r pleidiau eraill i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n elwa o’r penderfyniad i roi’r gorau i atal y gwaedlif o biliynau o bunnoedd y flwyddyn i’r UE. Fodd bynnag, yn wahanol i rai o’r Aelodau yn y Siambr, mae...
Caroline Jones: Brif Weinidog, mae dur Cymru a diwydiannau ynni-ddwys eraill yn dioddef o ganlyniad i bolisïau lleihau carbon a orfodwyd gan yr UE, sydd wedi arwain at filiau ynni uwch. Er mwyn sicrhau dyfodol dur Cymru, ac yn enwedig gwaith Tata ym Mhort Talbot yn fy rhanbarth i, mae'n rhaid i ni ddiddymu deddfwriaeth yr UE sy'n cynyddu ein costau ynni. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi mai’r...