Suzy Davies: Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad. Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy fy nghysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethpwyd ynghylch y posibilrwydd o Ddeddf awtistiaeth? Rwy'n falch o ddweud, hyd yn oed dim ond yn y mis diwethaf hwn, eich bod wedi newid eich safbwynt ers yr adeg hon ym mis Mai o ddweud eich bod yn gobeithio osgoi'r angen am Fil ar wahân, gan y gallai hynny gymryd mwy o...
Suzy Davies: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy lywodraeth leol? OAQ(5)0003(FLG)
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau—o, mae’n ddrwg gennyf; cwestiwn anghywir. Ymddiheuriadau.
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb calonogol hwnnw, Brif—Ysgrifennydd y Cabinet; fe ddof i ddeall hyn. [Chwerthin.] Wrth gwrs, ceir llawer o enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol ac eraill, yn enwedig byrddau iechyd, i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ond credaf fod y gair ‘darparu’ yn dweud y cyfan mewn gwirionedd, yn enwedig am y ffordd yr ydym fel poblogaeth yn...
Suzy Davies: A gaf fi ddatgan buddiant fel un o ymddiriedolwyr Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion yn Abertawe? Mae hanesion da iawn gan rai pobl ifanc, wrth gwrs, fel y dywedodd David Melding yn ei sylwadau agoriadol. Mae nifer y bobl ifanc sy’n gadael gofal i symud ymlaen at addysg uwch, er enghraifft, wedi cynyddu’n sylweddol ers 2004, pan aeth 60 yn unig o’r 11,000 o bobl ifanc a oedd yn gadael...
Suzy Davies: Rwy’n cytuno’n llwyr, oherwydd nid yw’n ymwneud â’r diffyg cyfleoedd; yr anallu i fanteisio ar y cyfleoedd hynny sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn sôn amdano heddiw yn fy marn i. Clywsom gan Mark Isherwood, wrth gwrs, ein bod yn morio mewn gwaith ymchwil ac adroddiadau ac mae adroddiad arall yn cael ei lansio gan y comisiynydd plant heddiw. Os yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r...
Suzy Davies: Efallai y dylwn ddatgan diddordeb mewn cefnogi gwelliant 1, ar ôl cael y llythyr a ofnwyd gan Volkswagen yn ddiweddar mewn perthynas â fy nghar fy hun. Os byddaf yn gadael ffenestr fy ystafell wely ar agor dros nos yn fy nghartref yn Abertawe, byddaf yn deffro gyda pheswch smygu, ond wrth gwrs, nid peswch smygu ydyw, peswch Port Talbot ydyw. Mae’n fy nghyrraedd ar draws y bae o ran o fy...
Suzy Davies: Gwnaf, ar bob cyfrif.
Suzy Davies: Wel, mewn gwirionedd, yn gynharach, fe ddywedoch fod y mynyddoedd y tu ôl i Bort Talbot yn ei wthio i gyd i fy nghyfeiriad i. Ond gallaf ddweud wrthych mai dyna beth ydyw, beth bynnag. Mae David Rees eisoes wedi sôn am y problemau gyda Phort Talbot, ac nid oes arnaf eisiau tynnu gormod o sylw at y rheini. Efallai y dylwn gyfaddef, fodd bynnag, fy mod yn cyfrannu at yr ansawdd aer gwael pan...
Suzy Davies: Brif Weinidog, er ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen mwy o dai yng Nghymru, nid yw fy etholwyr mewn cymunedau fel Penllergaer, Pontarddulais a Gorseinon wedi eu darbwyllo bod cynllun datblygu lleol drafft y Cyngor yn adlewyrchu'r angen am ddarpariaeth o'r tai iawn yn y lleoedd iawn, i adlewyrchu anghenion pobl yn ystod adegau gwahanol yn eu bywydau. Felly, a allwch chi gadarnhau yn gyntaf,...
Suzy Davies: Tybed a gawn ddatganiad gan y Llywodraeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf, arweinydd y tŷ, ar fater yr wyf wedi ei godi o'r blaen. Mae hyn yn fater o—. Mae’r Siambr hon yn llunio deddfwriaeth ac mae’r Llywodraeth yn llunio polisïau, ar sail rhoi ystyriaeth i hawliau plant; yn amlwg, rydym wedi ymrwymo i egwyddor sylw dyledus wrth ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Weinidog. Bethan Jenkins.
Suzy Davies: A gaf atgoffa’r Aelodau ein bod eisoes hanner ffordd drwy'r amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer y sesiwn hon? Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai’r holl Aelodau ac, a dweud y gwir, y Gweinidog ei hun, yn gallu cadw eu cwestiynau a’u hatebion yn fyr i gael cymaint â phosibl o graffu eang ar y Llywodraeth. Diolch yn fawr. Mohammad Asghar.
Suzy Davies: A gawn ni symud at gwestiynau, os gwelwch yn dda?
Suzy Davies: Cwestiynau ac atebion byr yn awr, os gwelwch yn dda. Adam Price.
Suzy Davies: Rwy’n mynd i gymryd dau gwestiwn arall gan fod y cwestiwn cyntaf wedi cymryd cymaint o amser i’w ateb. David Melding.
Suzy Davies: Ac yna, yn olaf ac yn fyr, Rhianon Passmore.
Suzy Davies: Diolch.
Suzy Davies: Mae Eitem 7 wedi cael ei thynnu'n ôl.
Suzy Davies: Felly, symudwn yn syth at eitem 8, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar fygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid, y tafod glas a gwaith cynllunio wrth gefn, a diolchaf iddi am ei hamynedd wrth aros i gael ei galw.