Canlyniadau 21–40 o 2000 ar gyfer speaker:Russell George

5. 4. Dadl UKIP Cymru: Effaith Refferendwm yr UE ar Tata Steel ( 6 Gor 2016)

Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. Nawr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig a minnau’n croesawu’r ddadl hon ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Mae cynhyrchu dur yng Nghymru yn hanfodol bwysig i economi Cymru wrth gwrs, i weithwyr a’u teuluoedd, ac i’r cymunedau sy’n dibynnu ar gynhyrchu dur. Ni fyddwn yn cefnogi’r cynnig heb ei...

5. 4. Dadl UKIP Cymru: Effaith Refferendwm yr UE ar Tata Steel ( 6 Gor 2016)

Russell George: Iawn, fe wnaf ddirwyn i ben felly, Ddirprwy Lywydd. Dim ond dweud, o fy safbwynt i, fy mod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda’i gilydd tuag at ganlyniad cadarnhaol.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Iechyd yn Sir Drefaldwyn
(12 Gor 2016)

Russell George: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0111(FM)

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Iechyd yn Sir Drefaldwyn
(12 Gor 2016)

Russell George: Diolch. Rwy’n croesawu’r ateb yna felly, Brif Weinidog. Efallai y byddwch yn ymwybodol na all cleifion strôc yn y canolbarth gael mynediad at driniaeth arbennig yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig mwyach, ar ôl ad-drefnu gwasanaethau, sydd wedi arwain at wasanaethau yn symud ymhellach i ffwrdd i Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford. A gaf i ofyn i chi pa drafodaethau y mae eich...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Recrwitio Meddygon Teulu ym Mhowys
(12 Gor 2016)

Russell George: Brif Weinidog, rwy'n ddiolchgar i Joyce Watson am godi’r cwestiwn hwn; mae'n fater penodol yn fy etholaeth i, wrth i lawer o feddygon teulu gyrraedd oedran ymddeol a bod trafferth recriwtio. Mae llawer o feddygfeydd, yn yr achos hwnnw, yn gorfod ad-drefnu sut y maen nhw’n gweithredu. Yr hyn y mae meddygon teulu yn ei ddweud wrthyf yw bod potensial i’w safleoedd ostwng mewn gwerth os...

2. Cwestiwn Brys: Tata Steel (12 Gor 2016)

Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi a chynorthwyo’r cwmni, wrth iddo gymryd saib i ystyried gwerthu’r busnes, yw trwy ryddhad ardrethi busnes. Ym mis Ebrill, rwy’n credu y dywedodd Llywodraeth Cymru bryd hynny na allai wneud cais am ryddhad ardrethi dros dro gan ei bod, i bob pwrpas, wedi ei llyffetheirio gan reolau'r Undeb Ewropeaidd ar y...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (12 Gor 2016)

Russell George: Weinidog Busnes, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermwyr o dan gynllun amaeth-amgylcheddol Glastir. Yn awr, dros y mis diwethaf, rwyf wedi cael gwybod am nifer fawr o fusnesau sydd wedi cael llythyrau gan Lywodraeth Cymru yn mynnu eu bod yn ad-dalu miloedd o bunnoedd yn seiliedig ar...

8. 7. Datganiad: Moderneiddio Trafnidiaeth: y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Rhaglenni Metro (12 Gor 2016)

Russell George: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Caerdydd a'r cyffiniau, wrth gwrs, yw’r rhanbarth sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae'r twf yn golygu bod mwy o ddefnydd a phwysau cynyddol ar y seilwaith trafnidiaeth sydd eisoes yn bodoli. Gyda hyn mewn golwg, mae'n bwysig bod gwaith moderneiddio diwydiant trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol nid yn unig yn ymdopi â’r galw cynyddol hwn ond...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru
(13 Gor 2016)

Russell George: 2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cymorth ariannol sydd ar gael i brosiectau twristiaeth yng nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0027(EI)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru
(13 Gor 2016)

Russell George: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r prosiect canolfan dreftadaeth ar gyfer canolbarth Cymru yn brosiect cyffrous newydd yn y Drenewydd, sy’n anelu i greu hunaniaeth brand ar gyfer canolbarth Cymru, drwy fanteisio ar dechnoleg ddigidol a hyrwyddo ein diwylliant, gan gynnwys rhoi teyrnged i’r diwygiwr cymdeithasol eiconig enwog, Robert Owen, o’r Drenewydd. Nawr,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(13 Gor 2016)

Russell George: Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach a thrwy wneud hynny, rwyf hefyd yn datgan fy mod yn berchennog ar fusnes bach fy hun. Bydd busnesau bach yn Lloegr yn elwa o nifer o newidiadau blaenoriaethol allweddol a gyflwynodd Llywodraeth y DU yn ei chyllideb ar gyfer 2016 er mwyn cynorthwyo busnesau bach a chanolig eu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(13 Gor 2016)

Russell George: Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi amlinellu’n gywir ymrwymiad eich maniffesto i dorri trethi busnesau bach. A gaf fi ofyn i chi sut y byddech yn gwneud hynny ar gyfer busnesau bach nad ydynt ar hyn o bryd yn talu ardrethi busnes? Sut rydych chi’n mynd i dorri trethi i’r busnesau bach hynny?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(13 Gor 2016)

Russell George: Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â’r ffaith fod yna nifer o drethi y byddai busnesau bach yn eu talu ac yn amlwg, gan ei fod yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur Cymru i dorri trethi busnesau bach, os nad ydynt yn talu ardrethi busnes, yna yn amlwg bydd yr ymrwymiad yn y maniffesto yn torri trethi mewn meysydd eraill. Mae Banc Datblygu i Gymru hefyd wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â’r...

3. 3. Datganiad: Cylchffordd Cymru (13 Gor 2016)

Russell George: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mae adeiladu Cylchffordd Cymru yn gyfle gwych nid yn unig i Gymoedd De Cymru, ond hefyd i Gymru yn fwy cyffredinol. Felly, mae’n newyddion siomedig heddiw; rwy’n meddwl nad oes dianc rhag hynny. Ond rwy’n gobeithio y bydd prosiect Cylchffordd Cymru yn dal i fod yn brosiect cyffrous a all gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer denu buddsoddiad a...

6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y BBC yng Nghymru (13 Gor 2016)

Russell George: Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl a noddwyd ar y cyd heddiw ar rôl y BBC yng Nghymru fel darlledwr, sydd â rôl unigryw yn adlewyrchu bywydau pobl Cymru yn Saesneg ac yn Gymraeg ar y teledu, y radio ac ar-lein. Rwy’n swnio ychydig fel jingl radio yn dweud hynny. Rwy’n cytuno i raddau helaeth â geiriau Bethan Jenkins a Lee Waters heddiw. Rwy’n falch iawn fod gennym bwyllgor wedi...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Caffael Gwasanaethau Cyhoeddus
(20 Med 2016)

Russell George: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arweiniad Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch caffael gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(5)0140(FM)

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Caffael Gwasanaethau Cyhoeddus
(20 Med 2016)

Russell George: Brif Weinidog, mae'r cwmni rheoli gwastraff mwyaf yng Nghymru sy'n eiddo preifat, Grŵp Potter, sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i, wedi ei wahardd rhag cynnig am gontract rheoli gwastraff yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan nad yw'n bodloni’r gofynion o fod â throsiant blynyddol o fwy na £50 miliwn. A ydych chi’n cytuno â mi ei bod yn anghymesur gwneud trosiant...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Bws o Aberystwyth i Gaerdydd
(20 Med 2016)

Russell George: Mae'r cynllun gweithredu pum pwynt ar wasanaethau bws lleol a gyhoeddwyd gan eich cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yr wythnos diwethaf i’w groesawu’n fawr iawn. Mae grantiau cymorth i wasanaeth bws wedi cael eu torri eisoes. A allwch chi sicrhau y bydd lefel presennol y cyllid ar gyfer gwasanaethau bws lleol, fel yr amlinellwyd yr wythnos diwethaf, ac...

6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Deithio Llesol (20 Med 2016)

Russell George: Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad heddiw, sydd i'w groesawu'n fawr. Ymddengys bod y ddeddfwriaeth hon wedi dioddef o ddiffyg diddordeb ac uchelgais ar ran y Llywodraeth, gan achosi, dylwn i ddweud, rwystredigaeth ymhlith prif gefnogwyr y Ddeddf hyd yn oed. Gwnaeth pedwerydd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad nifer o argymhellion yn ystod ei waith craffu ôl-ddeddfwriaethol cynnar...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Caffael Contractau Rheoli Gwastraff
(21 Med 2016)

Russell George: 8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu a yw Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ai peidio i awdurdodau lleol ynghylch caffael contractau rheoli gwastraff? OAQ(5)0023(FLG)

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.