Altaf Hussain: Gweinidog, mae gennyf i ddau awgrym. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y brechlyn atgyfnerthu COVID—dyna'r trydydd dos—yn dechrau ym mis Medi, ac y bydd gweinyddu hyn yn digwydd mewn dau gam. Fodd bynnag, nid yw athrawon yn y cam cyntaf ac, yn fy marn i, fe ddylen nhw fod. Rwy'n derbyn bod hon yn her, ond mae arnom ddyled fawr i'r staff yn ein hysgolion ni sydd wedi gwneud...
Altaf Hussain: Weinidog, mae Clinig Pen-y-bont ar Ogwr yn glinig preifat sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae'n unigryw i Gymru, ac am y 24 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio mewn partneriaeth â'r GIG, gyda mwy na 50 o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y clinig ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru, tra bod elw'n cael ei roi yn ôl i'r GIG lleol. Gwyddom i gyd fod y GIG yn sefydliad rhyfeddol, ond ni...
Altaf Hussain: Ar 11 Gorffennaf 2021 bydd hi'n chwe mlynedd ar hugain ers hil-laddiad Srebrenica, lle cafodd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd eu llofruddio yn yr erchyllter gwaethaf ar bridd Ewrop ers yr ail ryfel byd. Heddiw, rwy'n ymuno â channoedd o bobl eraill ledled y wlad i addunedu i sicrhau na fyddwn byth yn anghofio am yr hil-laddiad hwnnw. Thema Diwrnod Cofio Srebrenica eleni...
Altaf Hussain: 8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o allbwn carbon Llywodraeth Cymru? OQ56763
Altaf Hussain: Weinidog, mae'r rhaglen lywodraethu yn glir yn ei bwriad i fynd i'r afael â'r her amgylcheddol a llawer o feysydd polisi'r Llywodraeth y mae angen ymateb arnynt. Gwn y byddwch yn ymwneud yn helaeth â'r trafodaethau ynglŷn â sut rydym yn cyflawni'r targedau datgarboneiddio hynny, sydd, wrth gwrs, yn gymhleth iawn. Bydd llawer o sefydliadau eisoes yn asesu eu hallbwn carbon, ac mae'r...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am waith rhagorol. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i gydnabod cyfraniad enfawr ein lluoedd arfog ni wrth gludo 15,000 o bobl o Affganistan i'r Deyrnas Unedig. Fe wn i fod y modd y gwnaeth yr Unol Daleithiau a'r DU ymdrin â'r cilio wedi bod yn destun llawer o ddadleuon, ond i mi, sy'n rhywun sydd wedi ymgartrefu yn...
Altaf Hussain: Gwyddom fod cynnydd wedi bod mewn dwyn cŵn, er enghraifft, dros y flwyddyn ddiwethaf. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r heddlu am y wybodaeth i berchnogion anifeiliaid anwes newydd am y camau y gallent eu cymryd i ddiogelu eu hanifeiliaid anwes?
Altaf Hussain: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Mae'r ystadegau'n amlwg yn peri pryder, a dylai cyfraddau goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty fod yn ddigon, ar eu pen eu hunain, i'n cael ni i weithredu. Mae yna ychydig o heriau, fodd bynnag. Yn gyntaf, nid wyf yn credu bod ein gwlad yn gweithio'n ddigon cyflym i adeiladu mwy o gapasiti yn ein rhwydwaith o ddiffibrilwyr. Yn...
Altaf Hussain: Mae’n bosibl fod y ffigurau hyn wedi newid yn y tair blynedd ddiwethaf, ond maent yn dangos maint yr her, hyd yn oed pe bai gennym y nifer cywir o ddiffibrilwyr yn eu lle. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.
Altaf Hussain: Hoffwn i ddatgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd etholedig ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Prif Weinidog, adroddwyd ym mis Gorffennaf fod yr heddlu yn bwriadu defnyddio pwerau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberogwr drwy ddefnyddio gorchymyn gwasgaru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r mesur hwn, ac a yw wedi gweithio, a yw'n...
Altaf Hussain: Roedd y terfysgoedd ym Mayhill yn Abertawe ym mis Mai yn frawychus. Gwn i pa mor galed y mae'r heddlu wedi gweithio i nodi ac arestio'r rhai sy'n gyfrifol. A gaf i ofyn am ddatganiad sy'n nodi'r hyn y cafodd ei ddysgu o'r digwyddiadau hynny, ac a allai fod angen unrhyw gymorth cymunedol arall?
Altaf Hussain: Mae mynd i'r afael â hiliaeth yn fusnes i bawb ac mae'n rhaid iddo fod yn fusnes i bawb. Ceir sectorau yng Nghymru sy'n cael eu cefnogi'n ariannol gan Lywodraeth Cymru, er nad ydynt yn gyrff cyhoeddus ac felly ni fydd yn ofynnol iddynt gadw at ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. A wnaiff y Gweinidog ystyried deddfwriaeth i orfodi hynny lle mae cyrff yn cael cymorth ariannol gan y...
Altaf Hussain: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw. Mae gennym wasanaethau ambiwlans rhagorol yma yn y DU. Mae gennyf lawer i'w ddweud, ond nid oes gennyf amser. Mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn arwydd o fethiant y system, ac mae ein staff, sy'n eithriadol o alluog, bellach yn cael eu siomi gan system iechyd a gofal sydd wedi'i chyflunio'n wael, lle mae gofal cleifion yn cael ei...
Altaf Hussain: Dylai ambiwlansys fod yn y gymuned, yn gofalu am bobl. Nid ciwbiclau adrannau damweiniau ac achosion brys ysbytai yw ambiwlansys, ond dyna'r defnydd a wneir ohonynt gan y Llywodraeth yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Altaf Hussain: Rydych yn codi pwynt pwysig iawn yr oeddwn yn mynd i'w ddweud mewn gwirionedd. Rydym bob amser wedi sôn am ambiwlansys ac rydym wedi siarad bob amser am y cleifion. Ond nid oes yr un bwrdd iechyd hyd yma wedi codi—. Faint o bobl sy'n gweithio yn yr adran damweiniau ac achosion brys ar adeg benodol? Nid yw'n fwy nag un neu ddau o bobl, a phobl llai profiadol ydynt, nid ydynt yn gyfarwydd...
Altaf Hussain: Gweinidog, ychydig wythnosau'n ôl, gofynnais i am ymchwiliad i sut y bu farw saith claf yn ysbyty Maesteg o achosion o COVID yr hydref diwethaf a effeithiodd ar bob claf yn yr ysbyty. Rwy'n deall y byddai cleifion a gafodd eu trosglwyddo i Faesteg o ysbytai eraill wedi profi'n negyddol am COVID cyn eu derbyn. Felly, mae hyn yn golygu y gallai rhywun a ddaeth i mewn i'r ysbyty o gartref gofal...
Altaf Hussain: Cyhoeddodd Rhaglen Archwilio Genedlaethol y Sentinel Strôc—y SSNAP—archwiliad ledled y DU o wasanaethau strôc yn ein hysbytai, ac mae Cymru'n chwarae ei rhan yn cyfrannu data'n rheolaidd at y gwaith pwysig hwn. Dangosodd adroddiad eu harchwiliad sefydliadol acíwt ym mis Rhagfyr 2019 mai dim ond 30 y cant o ysbytai ledled y DU oedd â'r lefel a argymhellir o nyrsys cofrestredig yn...
Altaf Hussain: Hoffwn ddatgan buddiant, gan fy mod yn gadeirydd Brynawel Rehab Wales. Rwy'n falch o fod wedi cefnogi'r cynnig hwn i'w drafod a diolch am fy ngalw i siarad y prynhawn yma. Mae dementia yn glefyd creulon: creulon i'r unigolyn ac i'w teuluoedd. Mae hefyd yn un a fydd yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus i ddiwygio er mwyn diwallu anghenion pobl, lle bydd angen gofal mwy hyblyg o...
Altaf Hussain: Yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddydd Llun 20 Medi, fe ofynnwyd i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r gwaith sy'n cael ei wneud i baratoi ar gyfer cynllun treialu incwm sylfaenol. Fwy nag unwaith, roedd hi'n hamddenol o ran bod yn fwy penodol ynghylch rhai o'r materion dan sylw, gan nodi mai'r rheswm am hynny oedd y byddai hi'n rhoi datganiad eto yn y...
Altaf Hussain: Hoffwn i roi teyrnged i'r holl staff sy'n gweithio i gynnal gwasanaethau yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, nid y staff meddygol yn unig, sydd wedi arddangos cymaint o gadernid yn ystod y 18 mis diwethaf, ond y rhai hynny sy'n arwain y sefydliad mewn cyfnod heriol fel hwn. Rydym ni i gyd yn gwybod bod y bwrdd yn wynebu heriau sylweddol cyn dechrau'r pandemig, a bod COVID-19 wedi dwyn...