Michelle Brown: Na wnaf. Mae nifer y myfyrwyr y mae Rhydychen a Chaergrawnt yn eu derbyn o ysgolion gwladol wedi gostwng ers diddymu ysgolion gramadeg i raddau helaeth ac mae astudiaethau wedi dangos bod symudedd cymdeithasol wedi lleihau. [Torri ar draws.] Gwrandewch eto: mae symudedd cymdeithasol wedi lleihau ers diddymu ysgolion gramadeg. Os nad ydych yn malio am blant dosbarth gweithiol, parhewch â’ch...
Michelle Brown: Brif Weinidog, mae llawer o fusnesau yn y gogledd yn ddibynnol ar dwristiaeth ac wedi bod dan anfantais ers talwm yn y gogledd, yn rhannol oherwydd y methiant i hysbysebu atyniadau lleol ar hyd yr A55 yn ddigonol. Mae'n broblem barhaus a brofir gan atyniadau—ymwelwyr lleol yn mynd ar yr A55, stopio yn eu cyrchfan, heb unrhyw syniad o'r gweithgareddau amrywiol oddi ar yr A55 nad oes...
Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, os nad yw Cymru’n gallu gwneud unrhyw gynnydd sylweddol yn y safleoedd PISA ym mis Rhagfyr, fel y mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn ei ragweld, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud i wella ein safle erbyn y tro nesaf?
Michelle Brown: Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud ynglŷn â ffioedd dysgu yng Nghymru yn awr fod adroddiad Diamond wedi cael ei gyhoeddi? A fyddai’n cytuno nad yw’r system gyfredol o roi cymhorthdal i fyfyrwyr o Gymru i astudio yn Lloegr yn gynaliadwy ac nad yw’n ddefnydd da o adnoddau gwerthfawr Llywodraeth Cymru?
Michelle Brown: Mae Llafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid refferenda pan fyddant yn gweddu i’w dibenion gwleidyddol, sef ar ddatganoli pellach a diwygio pleidleisio. Felly, gadewch i mi ddefnyddio’r cyfle hwn i ofyn i Ysgrifennydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth Lafur roi cyfle i bobl leol sefydlu ysgolion gramadeg newydd, lle mae digon o alw lleol wedi’i ddangos drwy...
Michelle Brown: Brif Weinidog, ceir tir llwyd sylweddol mewn ardaloedd ledled Cymru y gellid ei ddefnyddio i adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy. Fodd bynnag, mae safleoedd tir llwyd yn aml yn amwys, ac os byddwn yn ychwanegu at y gymysgedd y potensial ar rai safleoedd o halogiad gan asbestos, plwm a sylweddau eraill, mae'n hawdd gweld pam mae datblygwyr yn aml yn amharod i gymryd y risg o ddatblygu...
Michelle Brown: Mae cyflwr llawer o’n strydoedd mawr yn olygfa drist. Yn lle strydoedd mawr ac unigryw a arferai fod yn llawn o weithgaredd, yn awr ceir sefydliadau gamblo, tafarndai cadwyn, siopau bwyd brys neu siopau elusen, neu fel arall, siopau gwag. Mewn rhai achosion, bron na allwch weld y pelenni chwyn yn rholio ar hyd canol y stryd fawr. Anadl einioes y stryd fawr yw nifer yr ymwelwyr a hwylustod....
Michelle Brown: Na wnaf. Yn erbyn y cefndir hwn, mae ardrethi busnes yn taro’r hoelen olaf i arch ein strydoedd mawr. Drwy gyfrif yn fras, yn seiliedig ar werth nominal, caiff siopau’r stryd fawr eu cosbi oherwydd eu lleoliad. Efallai fod siopwyr yn talu eu hardrethi busnes, ond yn rhy aml bydd hynny ar draul llithro ar ei hôl hi gyda’u rhent neu beidio â recriwtio staff. Mae gallu gan awdurdodau...
Michelle Brown: Ers y 1960au, adeiladwyd degau lawer o filoedd o gartrefi newydd yng Nghymru nad oeddent i fod ar gyfer prynwyr lleol erioed. Mae hyn wedi digwydd ar raddfa fawr ledled Cymru ac, yn benodol, yn fy ardal gartref i yn y gogledd-ddwyrain. Y sefyllfa a welwn yng nghefn gwlad gogledd Cymru, ac yn enwedig mewn rhannau o Sir y Fflint, yw bod cymudwyr o dros y ffin yn prynu’r tai cyn gynted ag y...
Michelle Brown: Iawn. Rwy’n dod ato nawr, Lywydd. [Yn parhau.]—ac ar hyd coridor yr A55 yn gwneud dim ond gwaethygu'r broblem. A ydych chi’n fodlon cyflwyno deddfwriaeth i gadw canran o'r stoc tai ar gyfer prynwyr lleol, ac, os felly, pryd ydych chi’n cynnig gwneud hynny?
Michelle Brown: Rwy’n croesawu mesurau effeithiol o fynd i'r afael â throseddau casineb a rhagfarn o bob math. Mae troseddau casineb yn droseddau sy’n seiliedig ar ragfarn a chulni. Rwyf bob amser wedi dilyn yr egwyddor y dylech fyw yn y modd yr ydych yn dewis, a chredu’r hyn a fynnwch ar yr amod nad ydych yn niweidio unrhyw un. Yn anffodus, mae llawer o bobl nad ydynt yn dilyn yr egwyddor...
Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Cyhoeddwyd y penderfyniad gweinidogol i gau Ysgol Uwchradd John Summers yn 2017 gan Kirsty Williams ym mis Awst 2016. Cofnodwyd bod Ysgol Uwchradd John Summers wedi gwasanaethu mwy o blant teithwyr nag unrhyw ysgol arall yn Sir y Fflint ac o bosibl ar draws Cymru. A all y Gweinidog roi sicrwydd y bydd anghenion addysg cymuned y teithwyr yn Sir y Fflint yn cael eu...
Michelle Brown: Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, caewyd llawer o’r prif orsafoedd heddlu yn ein trefi, yn sicr yn y gogledd. Dilynwch yr arwydd at yr heddlu ac fe ddowch at ffôn ar y wal. Pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i’r comisiynwyr heddlu a throseddu ac awdurdodau’r heddlu i sicrhau bod y gwasanaeth heddlu’n weladwy, yn hygyrch ac yn adeiladu perthynas effeithiol â chymunedau lleol?
Michelle Brown: Ond mae gallu dod o hyd i’r heddlu’n rhwydd yn dal i fod yn fater cymunedol, ac yn amlwg mae gan Lywodraeth Cymru fewnbwn i faint o fynediad sydd gan y gymuned leol at yr heddlu, a pha mor weladwy a hygyrch yw’r gwasanaeth heddlu.
Michelle Brown: Brif Weinidog, a allem ni gael ychydig mwy o fanylion am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu marchnata’r gogledd fel cyrchfan wyliau, os gwelwch yn dda?
Michelle Brown: Hoffwn yn gyntaf ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith ar Fil Cymru ac am yr adroddiad cynhwysfawr a gynhyrchodd y pwyllgor. Mewn egwyddor, mae’r newid o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau yn gam cadarnhaol. Fodd bynnag, fel nododd y pwyllgor, mae’r Bil yn un cymhleth ac anhygyrch. Mae’r newid i fodel cadw pwerau felly yn cael ei danseilio gan y cymhlethdod hwnnw a chan nifer y cymalau...
Michelle Brown: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(5)00230(FM)
Michelle Brown: A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod yn dderbyniol i rywun sy'n dioddef poen pen-glin cronig orfod aros 10 mis i weld meddyg ymgynghorol, a beth mae'r Prif Weinidog yn bwriadu ei wneud am y peth?
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Amcangyfrifir bod tua 20,000 o gartrefi yn sefyll yn wag yng Nghymru. Pe byddech yn dod â’r rhain yn ôl i ddefnydd, byddech yn cyrraedd eich targed ar gyfer y tymor. Rwy’n cydnabod yr addewid o ran gwariant, ond faint o'r £1.3 biliwn hwn mewn gwirionedd fydd yn cael ei wario ar gartrefi, a faint fydd yn cael ei wario ar...
Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Pa ddarpariaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi ar waith i sicrhau y gall pobl ifanc yng Nghymru ganolbwyntio ar addysg dechnegol a galwedigaethol heb gael eu dargyfeirio gan bynciau nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb ynddynt o bosibl?