Rhun ap Iorwerth: 11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid Teuluoedd yn Gyntaf? OAQ(5)0007(CC)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch. Mi oedd hi’n dda gweld yr NFU yma yn y Senedd heddiw yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y diwydiant. Ond, beth mae’r NFU, fel ffermwyr ledled Cymru, yn chwilio amdano fo ydy nid yn unig geiriau o gefnogaeth gan y Llywodraeth, ond gweithredoedd hefyd. Rŵan, mi gafwyd addewid gan Weinidog blaenorol y byddai’r gallu gan y cynllun datblygu gwledig newydd i fod yn drawsnewidiol o...
Rhun ap Iorwerth: Diolch. Mae tîm o amgylch y teulu yn un o bum prif elfen rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Mi ddaeth etholwraig i’m gweld i i rannu ei phryder hi ar ôl clywed bod y gwasanaeth tîm o amgylch y teulu yn Ynys Môn yn dod i ben o fis Mawrth 2017. Mi oedd hi’n canmol yn fawr y gofal a’r gefnogaeth yr oedd hi wedi eu derbyn gan y tîm yn lleol yn sgil problemau iechyd meddwl ei merch ac effaith...
Rhun ap Iorwerth: Lywydd, diolch am y cyfle i agor y ddadl yma ar gynnig a gafodd ei gyflwyno yn enw Simon Thomas. Dadl ydy hon sy’n gofyn i’r Cynulliad nodi y sialensiau demograffig sy’n wynebu’r NHS yng Nghymru ac sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb rŵan i’r heriau hynny, yn cynnwys symud tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â gweithredu ar frys efo cyfres o gamau i...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth, y ddadl yma, y prynhawn yma? Rwy’n cytuno efo’r Gweinidog ei bod hi wedi bod yn ddadl a fu ar y cyfan yn adeiladol iawn. Nid wyf yn siŵr iawn pam fod Suzy Davies, ar ran y Ceidwadwyr, yn teimlo mor bigog heddiw. Nid oes yna, yn sicr, ddim byd ynof i sydd yn gosod rhwystr ar gyfer...
Rhun ap Iorwerth: A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno efo fi bod yna, ar hyn o bryd, ddiffyg bri, os liciwch chi, ar fod yn feddyg teulu, a bod hynny’n cynnwys y ddelwedd allanol o natur y swydd, a hefyd o fewn y proffesiwn? A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â fi y gallem, fel rhan o’r cyfraniad at daclo recriwtio, edrych ar faterion fel sicrhau bod myfyrwyr 16 ac 17 oed yn cael eu hapelio i fynd i mewn...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn am ildio. Dim ond mewn ymateb i rai o'ch sylwadau ar oddefgarwch, a ydych chi'n cyfochri eich hun â'r poster ‘breaking point’?
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydw i’n falch bod y Llywodraeth wedi rhoi ymrwymiad i ddatblygu cynllun busnes ar ddeuoli pont Brittania. Rydw i’n meddwl ein bod ni’n disgwyl datblygiad ar hynny yn fuan. Ond mae hwn yn broject y gallem ni fod wedi disgwyl gwneud cais am arian Ewropeaidd fel cyfraniad tuag ato fo, oherwydd pwysigrwydd yr A55 fel rhan o’r rhwydwaith drafnidiaeth...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ddweud yn gyntaf fod yna wella, yn sicr, wedi bod, rydw i’n meddwl, mewn gwasanaethau iechyd meddwl ers cyflwyno’r Mesur iechyd meddwl, ond, heb os, mae yna lawer iawn o feysydd lle mae yna angen gwella mawr o hyd? Rydw i hefyd yn croesawu diweddariad y Llywodraeth ar eu cynllun nhw; mae o i’w weld yn gam ymlaen o’r cynllun diwethaf. Mae yna gamau gweithredu pendant yma rŵan,...
Rhun ap Iorwerth: Yes, of course.
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir, a bod canlyniadau pellach hefyd i amseroedd aros hwy, yn ogystal â thaflu'r baich, os mynnwch, i rannau eraill o’n gwasanaethau cyhoeddus. It’s very obvious, I think, that the length of waiting times makes a difference to the outcome ultimately. The survey by Gofal shows a very clear relationship between the time that someone waits for treatment...
Rhun ap Iorwerth: Ar y pwynt hwnnw yn benodol—ac mae'n bwynt cyffredinol ar gyllid—mae cyllid ar gyfer CAMHS yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, i fod wedi mynd i lawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. A allech chi egluro ai mater o godio ble yn union y daw’r cyllid ar gyfer trin rhywun 16 mlwydd oed a throsodd o fewn y gwasanaeth iechyd, neu a fu dirywiad yn y cyllid ar gyfer pobl ifanc?
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu dinasyddiaeth mewn ysgolion?
Rhun ap Iorwerth: Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud fy mod yn croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw? Gan ei rannu yn ddwy ran, o ran IPFR, yn syml iawn, rydym yn croesawu'r adolygiad annibynnol o IPFR ac, yn benodol, yr archwiliad o eithriadoldeb. Rydym ni, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, yn meddwl fod hyn yn greiddiol i'r mater hwn. Mae hwn, wrth gwrs, yn adolygiad sydd wedi ei...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, ac rwy’n siŵr nad yw rhethreg o’r math a geir gan UKIP ar ymfudo yn helpu i recriwtio a chadw staff yn y GIG. We are in agreement, I hope, Cabinet Secretary, that there is a need to ensure the right of European Union citizens to stay in the United Kingdom in the future. The First Minister has spoken already about the importance of doctors, nurses and others from...
Rhun ap Iorwerth: Nid yw’n swnio bod yna asesiad penodol wedi’i wneud; rwy’n synnu rywfaint ynglŷn â hynny. Mae’r ansicrwydd rydym ni’n ei wynebu mewn perig o danseilio’r NHS a allwn ni ddim fforddio aros i’r Llywodraeth weithredu. Rŵan, wnawn ni ddim mynd dros y problemau mae Cymru yn ei wynebu rŵan o ran denu a chadw meddygon, ond mi wnaf droi, os caf, at amodau a thelerau gwaith staff yr...
Rhun ap Iorwerth: A byddwn yn annog yr Ysgrifennydd i edrych ar y cyfleoedd go iawn a fyddai ar gael i ni o ddilyn llwybr Cymreig. Yn bendant, gall gwneud pethau’n wahanol, fel rydym wedi’i weld gyda meddygon iau, olygu gwneud pethau’n well. Rwy’n credu ei bod yn eithaf amlwg fod Cymru yn mynd i fod angen mwy o feddygon a mwy o nyrsys, mwy o therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion—gallwch...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gyfrannu i’r drafodaeth yma. Rwy’n codi fel cyn aelod o staff y BBC; mae gen i brofiad uniongyrchol helaeth o weithio i’r gorfforaeth yng Nghymru, ac rwy’n gwybod fod BBC Cymru ei hun, wrth gwrs, yn frwd iawn dros wneud rhaglenni i ac am Gymru, ond bach iawn ydy BBC Cymru o fewn cyfundrefn ehangach y BBC drwy Brydain. Mi glywn ni yn aml iawn y geiriau...
Rhun ap Iorwerth: Mi fues i’n cyfarfod wythnos diwethaf efo nifer o feddygon teulu o Ynys Môn, ac mi drafodon ni sut i annog mwy o bobl ifanc i fod eisiau dymuno mynd i yrfa fel GP. Ac rwy’n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i am y gostyngiad o 15 y cant yn y myfyrwyr o Gymru sydd wedi bod yn gwneud ceisiadau i fynd i astudio meddygaeth. Ond rwy’n siŵr y buasai fo hefyd yn cefnogi fy...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar eich bod wedi caniatáu amser imi. Rwyf am fod yn fyr—dim ond un cwestiwn gydag ychydig o gyd-destun o’i flaen. Mae nifer o resymau, wrth gwrs, pam yr ydym yn awyddus i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr. Yn gyntaf, mae’r etifeddiaeth chwaraeon—y cyfranogiad, y byddem i gyd yn ei gefnogi. Yn ail, mae’n sioe arddangos i Gymru, os...