Mandy Jones: Yn gyntaf hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Cynulliad dros Bontypridd, am ei waith ar yr adroddiad hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb o'r tîm sy'n cefnogi'r pwyllgor am eu hymdrechion yn hyn o beth ac yn olaf, i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, y gwn eu bod wedi rhoi llawer o amser, ymdrech a meddwl tuag at yr adroddiad hwn. Mae fy nghyfraniad heddiw yn mynd i fod yn gymharol...
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli pellach i Gymru yn sgil trosglwyddo pwerau yn ôl o Frwsel yn dilyn Brexit? OAQ51879
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rydych chi a minnau yn cytuno y dylai'r pwerau sydd gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ddod i Gymru yn eu cyfanrwydd. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae'n rhaid i'r DU a Chymru fod allan o farchnad sengl yr UE. A wnewch chi nawr, o'r diwedd, amlinellu safbwynt eich Llywodraeth: aelodaeth o'r farchnad sengl neu reolaeth lawn dros feysydd datganoledig?
Mandy Jones: Ddoe, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid annerch y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch y Bil hwn. Hoffwn ddiolch iddo am fod mor adeiladol ac agored gyda'r Pwyllgor. Mae gennyf innau, hefyd, bryderon mawr iawn ynghylch adran 11 ac rwy'n mawr obeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro pam na ellir defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni cyfochri...
Mandy Jones: Byddaf yn cadw fy nghyfraniad yn gryno gan fod y rhan fwyaf o'r pwyntiau eisoes wedi'u gwneud. Mae caethiwed i alcohol yn salwch difrifol sy'n arwain at effeithiau andwyol, nid yn unig ar yr unigolyn, ond ar y teulu ehangach a ffrindiau hefyd. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn ceisio ymdrin â'r problemau mewn cymdeithas a achosir gan y salwch hwn, ond rwyf yn meddwl bod y syniad...
Mandy Jones: Prif Weinidog, gyda'r pwerau codi trethi newydd ddim ond dyddiau i ffwrdd, a'r pwerau ychwanegol y mae'r lle hwn ar fin eu cael ar ôl Brexit, onid yw'n amser cyflwyno diwygiadau lobïo i sicrhau bod ein democratiaeth mor agored a thryloyw â phosibl. A ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'r Cynulliad hwn gymryd camau ar ddiwygiadau lobïo nawr er mwyn helpu i gryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd...
Mandy Jones: 2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi adroddiad ar hynt cynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru? OAQ51970
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y ffyrdd y mae Cynulliad i cyfathrebu â'r cyhoedd yng Nghymru? OAQ51973
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Arweinydd y tŷ, mynychais y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol ddiwedd y tymor diwethaf. Yno, nodwyd rhwystr i weithio'n fwy effeithiol a chyfathrebu ar draws disgyblaethau, sef anallu gwahanol systemau technoleg gwybodaeth i siarad â'i gilydd, er fy mod yn deall bod gwelliannau ar y gweill. Ddoe ddiwethaf, yn ystod y datganiad ar wasanaethau iechyd...
Mandy Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Gyda phob dyledus barch i'r Aelodau eraill sydd wedi cyflwyno cwestiynau heddiw, mae'r math o gwestiynau rydym yn eu gofyn i'r Comisiwn yn eithaf cyfyngedig ac mae'n ymddangos i mi eu bod yn canolbwyntio ar faterion mewnol y Comisiwn i raddau helaeth, ac nid oes amheuaeth mai croeso oer a gaiff hynny gan lawer o aelodau'r cyhoedd. Nodaf fod yr ymgynghoriad ar...
Mandy Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganlyniadau canser y coluddyn yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru? OAQ52081
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog sefydlog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna. Mae Cyngor Swydd Hampshire yn bwriadu ysgogi sgiliau seinydd cartref a weithredir gan y llais Amazon Echo i gynorthwyo gyda gofal cymdeithasol i oedolion. Gall y dechnoleg helpu pobl sy'n dioddef o salwch corfforol yn ogystal â helpu'r rhai sy'n dioddef o unigrwydd ac iselder. Yn ôl y cyngor, mae dros 9,000 o bobl yn elwa ar dechnoleg gynorthwyol fel Amazon Echo ar...
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio plaladdwyr yng Nghymru?
Mandy Jones: A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am seilwaith band eang yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Aelodau eraill sydd wedi cydgyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a diolch hefyd i Hefin David ac Andrew R.T. Davies, a oedd yn gydnoddwyr y digwyddiad Tynnu Sylw at Ganser y Coluddyn yn y Senedd ar 6 Chwefror. Roedd y digwyddiad yn rhan o addewid i Sam Gould gan Bowel Cancer UK pan gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn. Ar y diwrnod hwn y llynedd, roedd Sam yn dal...
Mandy Jones: 7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar ynni niwclear? OAQ52226
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rwy'n deall bod Llywodraeth y DU wrthi'n trafod y pecyn ariannu ar gyfer Wylfa Newydd gyda Hitachi ar hyn o bryd, a bod y canlyniadau yn y fantol ar hyn o bryd. Byddwch yn gwybod bod pobl y gogledd yn aros yn amyneddgar am y swyddi adeiladu yn yr orsaf bŵer ac yn y gadwyn gyflenwi a fydd yn cael ei chreu gan y cynllun hwn. Pa eiriau o gysur allwch chi eu...
Mandy Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn nodi arfer gorau mewn addysg i wella safonau?