Samuel Kurtz: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaf i ddechrau gan ddiolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'r datganiad heddiw. Rwy'r croesawu'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu a datblygu'r Gymraeg ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Fel rhywun a gafodd ei fagu yng nghefn gwlad sir Benfro, gydag addysg drwy ysgol ddwyieithog, ac sy'n ystyried fy hun yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf sydd bach yn...
Samuel Kurtz: Rwy'n croesawu'r cyfle i godi, yn ystod y ddadl heddiw, bwysigrwydd y cynllun taliadau sylfaenol wrth gefnogi ffermwyr yng Nghymru sy'n gweithio'n galed a'r angen iddo gael ei ddiogelu yng nghyllideb 2022-23. Mae'r cynllun talu sylfaenol, y BPS, yn rhan annatod o ddiwydiant ffermio Cymru, gan gefnogi ffermwyr i gynhyrchu cynnyrch o safon mewn modd cynaliadwy. Rwy'n croesawu sylwadau...
Samuel Kurtz: Mae papur ymchwil Cymru ar berchnogaeth ail gartrefi a gyhoeddwyd ddoe yn datgan, ac rwy'n dyfynnu: 'Fodd bynnag, prin yw’r dystiolaeth gadarn sy’n rhoi sylw i effaith ail gartrefi ar gynaliadwyedd a chydlyniant cymunedol, gan gynnwys er enghraifft yr effaith ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant'. O gofio bod ymgynghoriad ar y cynllun tai mewn cymunedau Cymraeg wedi'i drefnu ar gyfer yr...
Samuel Kurtz: Brif Weinidog, a gaf fi groesawu'r cyhoeddiad heddiw, ond rwyf am ofyn am rywfaint o eglurhad yn dilyn eich datganiad a'ch sylw ar eich cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r ffaith nad oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl a all gwrdd yn yr awyr agored, a hynny heb gadw pellter cymdeithasol? A yw hyn yn golygu y gellir rhoi'r golau gwyrdd i ddigwyddiadau, megis digwyddiad poblogaidd Ironman...
Samuel Kurtz: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig? OQ56836
Samuel Kurtz: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i reoleiddio bridio cŵn yng Nghymru? OQ56814
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Caiff nifer o hysbysiadau cosb benodedig eu cyhoeddi gan awdurdodau lleol nad ydynt o'r farn fod unrhyw rwymedigaeth i fuddsoddi arian a godir drwy ddirwyon er mwyn atal troseddau o'r fath rhag digwydd eto. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sydd ar gynnydd yn ddiweddar ledled Cymru ac mae wedi bod yn broblem mewn sawl rhan o fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Weinidog, roedd yn dda eich croesawu i orllewin Cymru ym mis Awst ar gyfer Sioe Sir Benfro. Gwn y bydd pwyllgor y sioe a'r arddangoswyr wedi gwerthfawrogi eich presenoldeb, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i longyfarch y tîm ar eu llwyddiant yn cynnal y sioe, ar ôl iddi gael ei gohirio y llynedd. Rwy’n siŵr hefyd y bydd y Gweinidog yn dymuno talu teyrnged i...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Do, fe sonioch chi am y brechlyn a allai fod ar gael ymhen pedair blynedd, ond mae'r prawf newydd hwn, Enferplex, eisoes yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad, felly mae hynny o ddifrif yn dangos bod y gymuned amaethyddol yn awyddus i ddatrys y mater hwn unwaith ac am byth. Fodd bynnag, ceir nerfusrwydd yn y diwydiant o hyd ynghylch dyfodol cytundebau Glastir Organig, Tir Comin...
Samuel Kurtz: Bydd hynny'n siom i ffermwyr ledled Cymru. Yn olaf, Weinidog, rwy'n disgwyl y byddai llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth gan etholwyr ynghylch pryderon ynglŷn â bylchau yn neddfwriaeth adnabod ceffylau Cymru. Er bod fy nghyd-Aelodau a minnau wedi croesawu'r gofyniad gorfodol i ficrosglodynnu ceffylau yng Nghymru, ceir pryderon o hyd ynghylch cywirdeb y...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r rheolau newydd, a elwir yn anffurfiol yn gyfraith Lucy, a ddaeth i rym ddydd Gwener diwethaf, mewn perthynas â bridio cŵn a chathod bach yng Nghymru, ac rwy'n talu teyrnged i’r nifer fawr o sefydliadau, unigolion, gan gynnwys fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, a llawer ar draws y Siambr hon sydd wedi ymgyrchu dros y gwelliannau a'r newidiadau hyn. Er...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Heddiw yw diwrnod blynyddol Cefnogi Ffermwyr Prydain Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, sy'n gyfle gwych i gydnabod, cefnogi a diolch i'n ffermwyr gweithgar o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ffermio yng Nghymru yw conglfaen diwydiant y gadwyn gyflenwi bwyd a diod yng Nghymru sy'n werth £7.5 biliwn, ac mae'n cyflogi dros 229,500 o weithwyr ac yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i...
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau, a'r Gweinidog, sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Ar ôl y golygfeydd erchyll a welwyd ar y teledu rhyngwladol yn ystod gêm Denmarc yn erbyn y Ffindir fis Mehefin diwethaf yn ystod yr Ewros, cefais fy ysgogi, fel cynifer o rai eraill, i weithio gydag Aelodau o bob rhan o'r Siambr i hyrwyddo'r angen am fynediad cyffredinol at...
Samuel Kurtz: Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gael gweld datganiad heddiw ymlaen llaw, ac mae'n un amserol iawn hefyd, Llywydd, gan fy mod i wedi gofyn i'r Gweinidog am eglurder ynghylch dyfodol cyllid Glastir ddydd Mercher diwethaf, ac er na chynigiwyd unrhyw ymrwymiad bryd hynny, mae'r gymuned ffermio a minnau'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw yn fawr. Serch hynny, fe fydd yna rai sy'n...
Samuel Kurtz: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i leihau troseddau gwledig? OQ56909
Samuel Kurtz: Diolch, Prif Weinidog. Mae troseddu yng nghefn gwlad yn achosi gofid difrifol i'n cymunedau gwledig, ac mae dwyn cerbydau amaethyddol, aflonyddu defaid a fandaleiddio ardaloedd nythu bywyd gwyllt i gyd wedi cael eu hadrodd yn ystod y misoedd diwethaf. Fel aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru, mae'r rhain yn faterion yr wyf i'n ymwybodol iawn ohonyn nhw, ac, fel yr ydych chi'n sôn, rydym ni'n...
Samuel Kurtz: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog twf diwydiannol yng ngorllewin Cymru? OQ56910
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Rwy'n ymwybodol o'r cyfleoedd cyffrous niferus sy'n gysylltiedig â'r daith sero-net sy'n bodoli o fewn fy ardal i yn sir Benfro, ac yn arbennig y cyfle enfawr sydd gan Ddyfrffordd y Ddau Gleddau i gefnogi datgarboneiddio diwydiannau yn ne Cymru, a de'r DU yn gyfan hefyd. Mae clwstwr diwydiannol de Cymru yn elfen allweddol o ddarparu'r cyfleoedd hyn, a deallaf fod y clwstwr...
Samuel Kurtz: Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofnod yn y gofrestr buddiannau. Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog Newid Hinsawdd am roi o'i hamser i ateb fy nghwestiynau ysgrifenedig ynglŷn â gwrthbwyso carbon a chyfrif allyriadau net Cymru—yr NWEA. Ac rwy'n siŵr y bydd y Trefnydd yn rhannu fy nychryn ynglŷn â'r ffaith bod busnesau rhyngwladol yn gwrthbwyso eu hallyriadau carbon eu hunain ar...
Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd. Weinidog, cysylltodd mudiad Mercher y Wawr â mi yn ddiweddar, yn mynegi pryder bod siaradwyr Cymraeg yn wynebu heriau o ran cynnal busnes bancio wyneb yn wyneb ac ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau ar draws Cymru yn gweithredu'n ddwyieithog? A pha gymorth ychwanegol sy'n cael ei gynnig i'r busnesau hynny sy'n...