Sarah Murphy: 3. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddarparu cyllid ychwanegol i bortffolio'r economi i gefnogi twristiaeth? OQ57195
Sarah Murphy: Diolch. I etholaethau fel Pen-y-bont ar Ogwr, mae twristiaeth wedi chwarae rhan annatod yn ein heconomi a'n hanes yn lleol—daw ymwelwyr o etholaethau y tu hwnt i'n ffiniau drwy gydol y flwyddyn i fwynhau ein traethau, lletygarwch ac atyniadau i dwristiaid, ac mae buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol i lawer o'r llwyddiant hwnnw, rhywbeth sydd bellach dan fygythiad, gyda...
Sarah Murphy: Gan mai hon yw fy nadl gyntaf, ers cael fy ethol, ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r nifer fawr o bobl a wnaeth i hyn ddigwydd, yn enwedig llawer o'r bobl y tu ôl i'r llenni, na fydd eu henwau byth yn hysbys i'r cyhoedd, mae'n debyg, ond a fu'n chwysu i greu'r ddeddfwriaeth arloesol hon. Ac nid wyf yn defnyddio'r ymadrodd hwnnw'n ysgafn, gan fy mod o...
Sarah Murphy: Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei gwaith parhaus ar y strategaeth hon, a hefyd i'r Gweinidog am sicrhau nad yw merched yn gorfod ysgwyddo'r cyfrifoldeb am drais yn erbyn menywod drwy orfod addasu eu hymddygiad. Ers gormod o amser yn ein hanes, mae'r naratif wedi canolbwyntio ar weithredoedd y dioddefwr a dim digon ar sut yr ydym yn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, oherwydd nid oes...
Sarah Murphy: Dirprwy Lywydd, yn y gymdeithas orllewinol fodern, mae consensws cyffredinol bod gwahaniaeth amlwg rhwng plant ac oedolion, sy'n deillio o'r ffaith bod plant yn cael eu diffinio'n llai aeddfed yn gorfforol ac yn feddyliol. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser wedi digwydd, oherwydd, drwy gydol gwahanol gyfnodau mewn hanes, mewn gwahanol wledydd a diwylliannau, mae barn ar yr hyn y dylai plant ei...
Sarah Murphy: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella mannau gwyrdd? OQ57320
Sarah Murphy: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y targedau carbon sero net ar gyfer adeiladau ysgolion a cholegau newydd yng Nghymru? OQ57312
Sarah Murphy: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidogion am eu hymrwymiad i wella mannau gwyrdd ledled Cymru. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, mae etholwyr o bob oed a chefndir yn mynegi'r angen am fwy o fannau gwyrdd yn eu cymunedau ac i ddiogelu a gwella'r mannau presennol. Yn ddiweddar, cefais syniadau gan ddisgyblion yn Ysgol Gynradd West Park, Ysgol Gynradd Porthcawl ac Ysgol Gynradd Nottage ynglŷn â'u...
Sarah Murphy: Diolch, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ymrwymiad i sicrhau bod sero net yn flaenoriaeth i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n ymrwymiad datblygu hollol wych. Fel y dywedodd ein Gweinidog newid hinsawdd yn gynharach, mae gallu siarad â disgyblion o bob oed ar draws ein hetholaethau yn rhan wych o'n swyddi, a chaf fy ysbrydoli'n gyson gan eu hawydd i ddiogelu ein...
Sarah Murphy: 9. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud tuag at wneud Cymru'n genedl cyflog byw gwirioneddol? OQ57404
Sarah Murphy: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar ynghylch gweithredu'r maniffesto ac ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i gyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol. Rwy'n falch iawn fod fy nghyngor i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, hefyd yn mabwysiadu hyn. Mae'n arwydd pendant ac ystyrlon o'n gwerthfawrogiad o'n gweithwyr gofal cymdeithasol, ac mae hefyd...
Sarah Murphy: Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n falch mai hwn oedd ein hymchwiliad cyntaf, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelod o'r pwyllgor, Sioned Williams, ynghyd ag ymchwil Sefydliad Bevan, am awgrymu hyn, a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y clercod a'r tîm cyfan sydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i'n helpu. Mae mynd i'r afael â dyled aelwydydd yn gwbl...
Sarah Murphy: Mae'r ddadl hon yn gyfle amserol i drafod y pryder a achoswyd gan y cyhoeddiad diweddar am newidiadau i sgrinio serfigol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i archwilio yn ei gyd-destun ehangach. Rwy'n derbyn bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydnabod y dylid bod wedi ymdrin â'r cyhoeddiad yn well, a bod Cancer Research UK wedi dweud, er bod y cyhoeddiad wedi cyrraedd y penawdau, fod llawer mwy i'r...
Sarah Murphy: Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi awdurdodau lleol gyda phecynnau gofal i ganiatáu i gleifion adael yr ysbyty?
Sarah Murphy: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll twristiaeth? OQ57569
Sarah Murphy: Diolch, Weinidog. Gallwn ddeall pe baech wedi cael llond bol o gwestiynau am ardoll twristiaeth bosibl, yn enwedig fel y dywedoch chi, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad sy'n dechrau'r hydref hwn. Fodd bynnag, mae'r mater yn parhau i gael ei wleidyddoli a'i ddefnyddio i ledaenu gwybodaeth anghywir yn fy nghymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Byddaf yn cefnogi fy...
Sarah Murphy: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ57675
Sarah Murphy: Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n croesawu'r pecyn cymorth y mae mawr ei angen a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Lafur Cymru, oherwydd yr wythnos diwethaf ymwelais â Splice Child and Family yn y Pîl, sy'n rhedeg banc babanod, a phantri cymunedol Baobab ym Mracla. Tra oeddwn yno, rhannodd y gwirfoddolwyr stori dorcalonnus gyda mi am fam a oedd wedi ymweld yn ddiweddar, yn gyndyn, yn gofyn am...
Sarah Murphy: Mae fy etholwr, Evelyn, a'i mam, Jacqui, wedi cysylltu â mi, ar ôl cael sioc a bod yn hynod siomedig o ddarganfod y bydd Undeb Rygbi Cymru, o fis Medi 2022, yn atal merched rhag chwarae rygbi cymysg dan 12 oed a dan 13 oed. Mae Evelyn yn chwaraewr rhagorol, ac yn gapten chwaraeon dan 12 oed Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â chwarae i Ysgol Gyfun Brynteg. Gwnes i gyfarfod ag Undeb Rygbi...
Sarah Murphy: Rwy'n croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru o ran mabwysiadu dull synhwyrol o lacio cyfyngiadau COVID ar sail y dystiolaeth, oherwydd, fel dywedodd y Gweinidog eisoes, nid yw COVID wedi diflannu ac mae hi'n dal i fod yn anodd iawn rhagweld ei gwrs. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i fod yng Nghymru, fel llawer un arall, drwy gydol y pandemig, lle mae'r rheolau hunanynysu yn parhau. A yw'r Gweinidog...