Canlyniadau 381–400 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

9. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant (16 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Gwnaf mewn munud. Siân, fe wnaethoch chi hefyd grybwyll mater y grant ar gyfer gwisg ysgol. Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes wedi egluro ei bwriad i gyflwyno cynllun gwell o fis Medi 2018—cynllun a fydd yn fwy hyblyg, yn fwy perthnasol i anghenion dysgwyr dan anfantais. Mae fy swyddogion eisoes wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â datblygu'r cynllun newydd hwn...

9. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant (16 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n cytuno bod tlodi'n sgandal ar ba lefel bynnag, ond fe drof at rai o'r polisïau ymarferol sy'n newid hynny mewn gwirionedd yn hytrach na geiriau mawr mewn strategaethau a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd. Nid oes unrhyw ymdeimlad o hunanfodlonrwydd oherwydd mae angen inni wneud mwy. Felly, gadewch imi ddweud yn gyntaf oll lle y gallwn gytuno. Ein dyletswydd foesol eglur yw gwneud...

9. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant (16 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Iawn. Wel, gadewch imi droi at ddatganoli lles neu reolaeth weinyddol. Nid ydym yn cefnogi hyn ar sail egwyddor ac ymarferoldeb clir. O ran yr egwyddor, credwn y dylem oll gael hawl i hawliad cyfartal gan wladwriaeth les sy'n darparu cymorth pan fo angen ac yn mynd i'r afael â thlodi yn Abertawe ac yn Swindon, ym Mangor, ond hefyd yn Bognor. Yn ymarferol hefyd, mae system cymorth lles ar...

9. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant (16 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n cloi, Ddirprwy Lywydd. Ond mae torri'r cylch o amddifadedd a thlodi, Ddirprwy Lywydd, yn ymrwymiad hirdymor i'r Llywodraeth hon. Mae'n ategu ein strategaeth genedlaethol a'n cyfrifoldeb i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae'n rheidrwydd moesol hefyd, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan.

9. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant (16 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Pe baem yn meddwl y byddai datganoli'r gwaith o weinyddu neu rywbeth arall o ran hyn yn datrys y broblem yn syml, yna byddai'n rhywbeth gwerth mynd i'r afael ag ef. Ond a gytunwch, mewn gwirionedd, wrth edrych ar hynny, fod angen inni fod yn ofalus iawn o'r canlyniadau anfwriadol a'r costau a fyddai'n dod gyda hynny a'r perygl i'r undod cymdeithasol sy'n...

9. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant (16 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Ie, yn syml er mwyn helpu i egluro fel rhan o'r ddadl. Felly, mae'r dangosyddion perfformiad allweddol yn parhau i fod ar waith, ac un o'r pethau yr ydym yn edrych arnynt ar draws y Llywodraeth ac ar draws Gweinidogion y Llywodraeth yw cerrig milltir sy'n sail i'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny. Felly, rydym eisoes yn gwybod pethau megis nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r categori...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ers mis Ebrill 2016, rŷm ni wedi gweld y Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei rhoi ar waith drwy Gymru. Rwy'n gweld cynnydd da mewn rhai meysydd, ac rydw i'n gweld ar y llaw arall bod mwy i'w wneud mewn meysydd eraill. Wrth symud ymlaen, rydw i am inni ganolbwyntio ar helpu ein holl wasanaethau i gyrraedd y safonau uchaf. Hyd...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Yn gyntaf, rwy'n clywed ein rhanddeiliaid, megis y Comisiynydd pobl hŷn, yn dweud wrthym fod ein fframwaith statudol yn gywir ar y cyfan, ond dim ond os byddwn ni'n sicrhau y caiff ei weithredu'n briodol. Yn ail, rwy'n gweld fy hun fod y strwythurau y gwnaethom ofyn i'n partneriaid eu rhoi ar waith, megis byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r byrddau diogelu, yn ymwreiddio yn rhan o'n tirwedd...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: I gloi, hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth a'ch gwaith craffu gwerthfawr hyd yma. Nod pob un ohonom yw adeiladu system gynaliadwy o ofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n parchu a gwerthfawrogi pobl ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol. Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw trwy ymdrechion y rhai sy'n gwneud y polisïau, staff a rhanddeiliaid ym maes gofal cymdeithasol,...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Suzy, diolch yn fawr iawn am y gyfres honno o gwestiynau. Gadewch imi roi sylw iddyn nhw un ar y tro. Yn gyntaf, a ydym ni wedi sylwi ar unrhyw beth o ran yr ymgyrch i gynyddu safonau mewn sectorau preswyl—a yw'n cael unrhyw effaith, yn anecdotaidd? Rwyf yn cael gohebiaeth o bryd i'w gilydd, neu sylwadau, gan Aelodau Cynulliad unigol, ac mae'r arolygiaeth gofal yn ceisio ymdrin â'r rhain...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi ac Aelodau eraill sydd wedi dod ataf i â manylion darparwyr unigol sydd efallai'n wynebu anawsterau wrth ymateb i'r heriau? Rwy'n gobeithio ein bod ni wedi gweithredu'n gymesur ond yn ystyriol ac wedi ceisio eu rhoi mewn cysylltiad â'r bobl briodol i'w helpu gyda hynny. Felly, diolch i chi ac eraill am barhau â hynny, a hefyd am eich cefnogaeth yn y broses...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi, Caroline, a diolch hefyd am y gydnabyddiaeth a roesoch chi yn glir iawn i'r rhai sy'n gweithio yn y sector. Yn rhy aml, rydych chi ond yn gweld y penawdau gwael wrth iddynt ymddangos, ac rydym yn anghofio am y fyddin o bobl sy'n gwneud gwaith rhagorol bob un dydd. Felly, diolch ichi am hynny. Rydych chi hefyd yn ein hatgoffa o ba mor bell yr ydym ni wedi...

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18 (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar adroddiad effaith a chyrhaeddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18 (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Hoffwn ddechrau drwy longyfarch a diolch yn gyhoeddus i'r comisiynydd a'i thîm am yr holl waith gwerthfawr dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn wir dros y chwe blynedd diwethaf. Mae'r comisiynydd wedi ennill parch a ffydd pobl hŷn ledled Cymru, ac yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig, mae'r comisiynydd a'i thîm wedi cwrdd â 169 grwpiau a 3,300 o unigolion. Mae'r ymgysylltu helaeth hwn wedi...

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18 (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Os caf i barhau am eiliad yn unig. Dyna pam rwyf i'n hapus i gefnogi'r ail welliant, sydd hefyd wedi'i gyflwyno gan Paul Davies. Derbyniaf yr ymyriad.

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18 (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Gallaf weld y prif bwynt yr ydych chi'n ei wneud, Darren, ond byddwn yn eich cyfeirio'n ôl at y datganiad y gwnaeth y comisiynydd pobl hŷn yr wythnos diwethaf wrth lansio ei hadroddiad etifeddiaeth, lle roedd hi mewn gwirionedd yn croesawu'r dull yr oeddem ni'n ei ddefnyddio, oherwydd ei fod yn gwneud hawliau'n bethau go iawn. Nid yw'n chwilio am ddarn arall o ddeddfwriaeth oddi ar y silff...

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18 (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog mai fy nheitl o hyn ymlaen fydd Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Trwy wneud fy rôl yn fwy amlwg a chlir, byddaf yn gallu mynd ati i sefydlu dull o weithio ar draws y Llywodraeth ar faterion pobl hŷn. Rwy'n hyderus y bydd y rhaglen waith rŷm ni wedi cytuno arni gyda'r comisiynydd yn adeiladu ar ein deddfwriaeth drawsnewidiol ac...

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18 (22 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw am eu cyfraniadau adeiladol iawn, er ein bod efallai'n cytuno i fynd i gyfeiriadau ychydig yn wahanol wrth gyflawni'r hawliau yn arbennig? Ond gadewch i mi ddweud wrth Darren nad oes gennym ni fyth feddwl cwbl gaeedig; nid ydym ni'n bod yn afresymol o ystyfnig, ond yr hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Mai 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Suzy, am eich cwestiwn. Rwy'n falch o fabwysiadu cyfrifoldebau newydd penodol am bobl hŷn. Roedd yn wych bod yn y digwyddiad etifeddol yr wythnos diwethaf gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Yn wir, credaf fod fy swyddogion wedi cyfarfod gyda hi ar dri achlysur dros y mis diwethaf, gan weithio ar gyfres o gynigion, fel y dywedodd, ac fel rwyf am ailadrodd yma, i 'wneud yr hawliau...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.