Lesley Griffiths: Wel, nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda’r datblygwr. Byddaf yn holi fy swyddogion a ydynt wedi gwneud hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.
Lesley Griffiths: Yn sicr, credaf fod angen i ni edrych ar y mater, ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod.
Lesley Griffiths: Mae gan Lywodraeth Cymru hanes llwyddiannus o gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol. O ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae 11 o gynlluniau wedi eu sefydlu ac ar waith, ac yn darparu budd i’r ardal leol, ac mae pump arall wrthi’n cael eu datblygu.
Lesley Griffiths: Rwy’n fwy na pharod i gefnogi cynlluniau ynni lleol. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn, gan fy mod wedi agor cynllun ynni dŵr bychan ym Merthyr Tudful, ymwelais â’r un y cyfeiriwch ato, a soniais yn fy ateb cychwynnol i chi fod gennym 11 o gynlluniau ar waith o ganlyniad i waith y gymuned leol. Credaf fod yna rai pobl ddygn iawn sy’n teimlo’n hynod o angerddol ynglŷn â hyn. Mae’n...
Lesley Griffiths: Credaf fod yna gyfleoedd gwych i allu gwneud arbedion yn y meysydd yr ydych wedi’u trafod. Rwyf wedi annog pob corff cyhoeddus yng Nghymru i wneud y gorau o’r cyfle, ac yn sicr, bydd ein menter twf gwyrdd Cymru yn helpu i gyflawni’r prosiectau hyn drwy ddarparu nifer o wasanaethau, a chyllid sylweddol hefyd.
Lesley Griffiths: Mae’n bwysig iawn fod gan yr awdurdodau lleol yr arbenigedd hwnnw’n fewnol, neu os nad oes, gallant gydweithio ag awdurdod lleol cyfagos er mwyn sicrhau eu bod yn ei gael. Ni chredaf ein bod yn dymuno gweld tagfeydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y cynlluniau hyn yn cael eu sefydlu a’u rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Soniais yn fy ateb i Dai Lloyd fod rhai o’r bobl y cyfarfûm...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae argaeledd mannau gwyrdd a pharciau o safon yn bwysig i iechyd a lles pobl. Maent yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Dylai pawb gael mynediad at fannau gwyrdd o safon yn agos at eu cartrefi.
Lesley Griffiths: Wel, gobeithiaf mai cwestiwn rhethregol oedd hwnnw ac nad oeddech yn gofyn i mi roi ffigur i chi. Ydw, rwy’n fwy na pharod i longyfarch Parc Pont-y-pŵl. Efallai yr hoffai’r Aelod fy ngwahodd ar ymweliad.
Lesley Griffiths: Wel, na; ni fuaswn yn gallu cyfiawnhau hynny.
Lesley Griffiths: Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i drafod gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet os yw hynny’n briodol.
Lesley Griffiths: Diolch. Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Aberddawan, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am ostwng y terfyn uchaf ar gyfer allyriadau ocsidau nitrogen yn nhrwydded amgylcheddol Aberddawan, yn unol â dyfarniad y llys. Bydd yn rhaid i Aberddawan gydymffurfio â’r terfyn diwygiedig wedyn. Bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro’r cynnydd a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac RWE tuag at...
Lesley Griffiths: Dosbarthwyd y llythyr i Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n credu mai David Melding a wnaeth gais i’r Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Fel y dywedodd Simon Thomas, roedd yn nodi’r terfynau drwyddo draw. Bu gostyngiad, ond rydych yn gywir fod angen rhagor o waith er mwyn sicrhau bod Aberddawan yn gallu gweithredu o dan y terfyn uchaf o 500 mg /cu m ar...
Lesley Griffiths: Cytunaf yn llwyr, ac rwyf am sicrhau’r Aelodau fy mod wedi bod yn cael trafodaethau. Rwyf wedi cyfarfod â RWE, rwyf wedi cyfarfod ag Aberddawan, rwyf wedi cyfarfod â fy nghyd-Aelod, Jane Hutt mewn perthynas â hyn, ac rwyf wedi sicrhau bod swyddogion yn monitro’r sefyllfa’n ofalus iawn.
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Rwy’n croesawu'n fawr y cyfle i ni drafod y potensial ar gyfer morlynnoedd llanw yn y DU yn dilyn cyhoeddiad diweddar adroddiad Hendry. Er ein bod yn cefnogi egwyddor morlynnoedd llanw yng Nghymru, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r ystyriaethau a’r cymeradwyaethau allweddol y mae'n rhaid eu rhoi i unrhyw brosiect arfaethedig, gan gynnwys ystyriaethau amgylcheddol...
Lesley Griffiths: The Welsh Government provides significant levels of financial support for environmental projects which benefit the people of Wales both nationally and in their local communities. This includes core funding of over £21 million to successful applicants towards better management of our natural resources, increasing ecosystem resilience and delivery of commitments on biodiversity.
Lesley Griffiths: Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn creu llawer o ansicrwydd i’r sector amaeth yng Nghymru. Mae swyddogion wrthi’n defnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth er mwyn deall yn well y cyfleoedd allweddol sy’n bodoli a’r materion sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa fwy bregus. Mae’r gwaith dadansoddi yma eisoes wedi llywio ein safbwynt o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd a amlinellwyd ym...
Lesley Griffiths: The Welsh Government is working to support the agriculture sector in North Wales, as in all parts of Wales, to become more profitable, sustainable, resilient, and professionally managed. Almost 2,000 businesses in the region have signed up to Farming Connect, a vital element of our support to farming, food and forestry businesses.
Lesley Griffiths: Mae marchnadoedd da byw ar draws Cymru’n rhannau annatod o’r diwydiant amaeth ac maent yn cyflogi nifer uchel o bobl o fewn ardaloedd gwledig. Maent yn creu cystadleuaeth o fewn marchnad sy’n cael ei dominyddu i raddau helaeth gan ofynion yr archfarchnadoedd ac maent yn galluogi ffermwyr i brynu a gwerthu da byw magu, stôr a da byw wedi’u pesgi y mae modd eu holrhain.
Lesley Griffiths: Torfaen County Borough Council receives annual funding via the environment and sustainable development single revenue grant to help deliver against key environmental priority areas; this includes local environment quality issues. This programme encourages local authorities to work collaboratively with key partners and local communities to target local needs and conditions.
Lesley Griffiths: Our internationally recognised environment Act draws from the key international obligations on climate change and biodiversity. Delivery against the Act and the wider framework of the well-being of future generations Act will ensure we deliver on our global environmental responsibility.