Caroline Jones: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51664
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, bu anhrefn mewn practisau meddygon teulu ac ysbytai ledled y wlad o ganlyniad i fethiant eang yn systemau TG y GIG, gyda llawer o feddygon teulu yn adrodd nad oeddent yn gallu cael gafael ar gofnodion cleifion. Disgrifiodd un meddyg teulu y sefyllfa fel un rwystredig iawn a braidd yn beryglus. Nid oedd ysbytai'n gallu cael gafael ar ganlyniadau...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru newydd gyhoeddi y bydd y contract newydd ar gyfer systemau a gwasanaethau clinigol meddygon teulu yn cael ei ddyfarnu i Vision Health Ltd a Microtest Ltd. Mae hyn wedi achosi pryder i nifer o bractisau meddygon teulu sy'n defnyddio systemau a ddarperir gan EMIS Health Ltd. Mae practisau meddygon teulu...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Beth bynnag yw'r rhesymau dros y penderfyniad yn erbyn EMIS Health Ltd, mae hyn yn effeithio ar nifer o bractisau meddygon teulu ledled Cymru sydd wedi bod yn defnyddio system EMIS ers blynyddoedd lawer. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn pryderu y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar feddygon teulu a chleifion oherwydd maint y newidiadau...
Caroline Jones: Ysgrifennydd Cabinet, yn ddiweddar cynhaliodd Cymdeithas Feddygol Prydain arolwg o feddygon teulu sy'n cynnig gwasanaethau y tu allan i oriau. Nid yw bron i hanner yr holl ymatebwyr yn darparu unrhyw wasanaethau y tu allan i oriau. Gofynnwyd i'r meddygon teulu hynny nodi'r prif rwystrau i ddarpariaeth y tu allan i oriau: dywedodd 64.3 y cant mai gorflinder o ganlyniad i bwysau dyddiol oedd y...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â'r Cadeirydd, am eu gwaith ar yr ymchwiliad hwn ac ar gyfer yr adroddiad. Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn gyffredin iawn, ac yn effeithio ar oddeutu 20 y cant o fenywod ar ryw adeg yn ystod y cyfnod amenedigol. Maent hefyd yn fater iechyd cyhoeddus pwysig, nid yn unig oherwydd eu heffaith niweidiol ar y fam, ond...
Caroline Jones: 3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r gronfa buddsoddi i arbed o fudd i Orllewin De Cymru? OAQ51705
Caroline Jones: Prif Weinidog, er y bu enghreifftiau da o'r cynllun yn cael ei ddefnyddio i wella bywydau etholwyr yn fy rhanbarth i, fel cyllid ar gyfer gofalwyr maeth ychwanegol yng Nghastell-nedd Port Talbot neu weithiwr cymorth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn Abertawe, defnyddiwyd y buddsoddiad mwyaf o bron i £1.5 miliwn i wella swyddfeydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Does bosib na ddylai'r cynllun...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fe hoffwn innau ddiolch hefyd i Dr Atherton am ei ail adroddiad blynyddol ers bod yn brif swyddog meddygol. Rwy'n falch bod Dr Atherton wedi dewis defnyddio ei adroddiadau blynyddol er mwyn taflu goleuni ar yr heriau cynyddol sy'n wynebu iechyd cyhoeddus. Y llynedd, amlygodd yr anghydraddoldebau iechyd sydd i'w gweld rhwng y rhai sy'n...
Caroline Jones: Yn olaf, diolch i chi. Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae technoleg ddigidol yn gweddnewid ein gwasanaeth iechyd. Mae'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn hanfodol i GIG gyfoes. Ni allwn fynd yn ôl i'r dyddiau o gofnodion papur nac adeg pan yr oedd canlyniadau profion yn cymryd wythnosau i gyrraedd drwy ein gwasanaeth Post Brenhinol. Rwy'n...
Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae polisïau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwella ffyniant economaidd Gorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Roedd hynna'n gyflym. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn barod. [Torri ar draws.] O, rwy'n barod, credwch chi fi. [Chwerthin.] Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ei gwneud yn glir ar y cychwyn nad wyf yn gwrthwynebu ehangu'r Cynulliad o ran ideoleg. Mae arbrawf cyfansoddiadol mawr y Blaid Lafur, sef cyflwyno systemau gwahanol o ddatganoli i'r tair gwlad ddatganoledig, yn dangos nad oedd ganddynt...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Suzy Davies a Dai Lloyd siarad yn y ddadl. Mae fy nadl ar rôl ysbytai cymunedol yn yr unfed ganrif ar hugain. Ddydd Iau 5 Gorffennaf eleni, bydd y GIG yn 70 mlwydd oed. Mae'r 70 mlynedd hynny wedi gweld datblygiadau aruthrol mewn gofal: dileu'r frech wen a polio, cyflawnwyd trawsblaniadau afu, calon ac ysgyfaint cyntaf y byd, ac nid yw...
Caroline Jones: Mae'r GIG wedi torri nifer y gwelyau 45 y cant, sy'n ffigur syfrdanol. Yn 1990, roedd bron i 20,000 o welyau yn GIG Cymru. Heddiw, ceir ychydig dros 10,000. Mae ysbytai cymunedol ledled y wlad wedi cau, mae wardiau wedi'u cau neu'u huno, a datgelwyd cynlluniau ar gyfer cau pellach. Rydym hefyd wedi gweld diffyg buddsoddi a chynllunio yn y sector gofal cymdeithasol, sydd wedi cyflymu dan...
Caroline Jones: 1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â thlodi yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51777
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Mae fy rhanbarth i yn un o ranbarthau tlotaf y DU erbyn hyn. Mae ganddi'r gyfradd cyflogaeth isaf yng Nghymru, lefelau uchel o anweithgarwch economaidd, a pheth o'r incwm gwario gros isaf yn y DU ymhlith ei haelwydydd. Ar ôl bron i 20 mlynedd o gynlluniau economaidd Llafur, mae pethau'n mynd i'r cyfeiriad anghywir. Nid tincran economaidd sydd ei angen ar fy rhanbarth...
Caroline Jones: —gallaf—eisoes yn cael ei gynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fy rhanbarth i. Dylem ni fod yn adeiladu clwstwr uwch-dechnoleg o gwmpas Pen-coed, a threth is yw'r catalydd sydd ei angen arnom ni. Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cyd-Aelod yr Ysgrifennydd dros gyllid am efelychu Iwerddon ac annog busnesau uwch-dechnoleg fel Intel ac Apple i sefydlu yng Nghymru...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r holl staff ymroddedig am y ffordd y maen nhw wedi trin pwysau'r gaeaf hwn. Mae'r gwanwyn rownd y gornel, ond mae ein GIG yn parhau i fod yn nyfnderoedd argyfwng gaeaf, gyda llawer o ganslo llawdriniaethau, ac felly ni allwn symud ymlaen. Dylwn aralleirio hynny, oherwydd bod y term 'pwysau gaeaf' yn...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, gall mesuryddion deallus fod yn offeryn hollbwysig i newid ymddygiad, gan ein galluogi i roi pris ar y golau sy'n cael ei adael ymlaen neu weld faint mae'n gostio i adael dyfais ar y modd segur. Fodd bynnag, gall mesuryddion deallus hŷn glymu cwsmeriaid at un cyflenwr gan eu bod yn ddiwerth wrth newid i gyflenwr newydd, ac yn aml, mae'n rhaid i gwsmeriaid dalu...
Caroline Jones: Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor yn ystod ein hymchwiliad, ac i'n Cadeirydd ymroddedig. Mae'n feirniadaeth drist ar ein cymdeithas pan ystyriwch fod tua un o bob pump o bobl Cymru yn unig. Mae dros hanner y bobl dros 25 oed yn byw ar eu pen eu hunain a chanfu ymchwil gan Age UK fod llawer o bobl hŷn yn gallu mynd am bump neu chwech o...