Russell George: Rwy'n derbyn yr hyn rydych wedi'i ddweud, ac wrth gwrs, rydych yn gyfrifol am y cynllun gweithredu economaidd, busnesau bach a chanolig a'r cadwyni cyflenwi sy'n elwa hefyd. Ffurfiwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Pan wnaeth hynny, rhoddwyd benthyciad o £5.9 miliwn iddo, a phum mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol...
Russell George: Buaswn yn awgrymu bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn bolisi sydd wedi methu. Yn sicr, mae'n dreth barhaus ar bwrs y wlad. Byddaf yn dod at rai meysydd sy'n sicr yn rhan o'ch portffolio. Nid yw busnesau bach a chanolig Cymru a chadwyni cyflenwi Cymru yn elwa ar wariant caffael Llywodraeth Cymru. Yn 2015-16, 52 y cant yn unig o wariant Llywodraeth Cymru ar nwyddau a gwasanaethau a...
Russell George: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys ym Mhowys? OAQ51885
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddiolch i chi am eich ateb? Mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi gweld cynnydd sylweddol, ers mis Tachwedd, yn y pryderon a godwyd ynghylch oedi difrifol o ran yr amser y mae'n ei gymryd i ambiwlans gyrraedd yn dilyn galwad 999. Yn ôl y cwestiynau a ofynnwyd i chi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae'n ymddangos bod hynny'n cynyddu hefyd ymhlith...
Russell George: Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i annog Cymru gyfan i gefnogi'r Drenewydd yng nghystadleuaeth cymdogaethau gorau Prydain i gerdded. Y Drenewydd yw'r unig dref yng Nghymru sydd wedi cael lle ar y rhestr fer fel un o'r 10 tref orau yn y DU, a daw'r pleidleisio i ben am 11.59 p.m. heddiw. Rydym angen cynifer o bleidleisiau ag y bo modd i ennill gwobr Cymdeithas y Cerddwyr. Mae gan Gyngor Sir Powys...
Russell George: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ladd-dai annibynnol yng Nghymru?
Russell George: A gaf fi ddiolch yn fawr i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw? Yn sicr byddaf yn cefnogi'r cynnig. Rwy'n cefnogi'r cynnig yn llawn. Nawr, mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, neu PAVO fel y'u gelwir yn fyr, wedi bod yn lleisio pryderon wrthyf am y bygythiadau presennol i barhad trafnidiaeth gymunedol ym Mhowys. Diolch iddynt am ddarparu cyfarwyddyd ac adroddiad...
Russell George: 2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ladd-dai annibynnol yng Nghymru? OAQ51983
Russell George: Diolchaf i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Rwy'n gobeithio ein bod ni i gyd eisiau gweld safonau uchel o les anifeiliaid yn ein lladd-dai, ac mae hynny, wrth gwrs, yn wir am ladd-dai annibynnol hefyd. Gwn fod yr un yn fy etholaeth i yn falch iawn o'r modd parchus y maen nhw'n trin anifeiliaid. Rwy'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn dal i ystyried teledu cylch...
Russell George: Arweinydd y tŷ, a gaf i wneud dau gais, os oes modd? Yn gyntaf, o ran ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar reolaethau pysgota eogiaid a sewin. Codwyd nifer o bryderon o fy mlaen i, a gwn o flaen aelodau eraill hefyd, nad yw cynigion Cyfoeth Naturiol Cymru yn deg nac yn gymesur, ac y gallai fod yn amhosibl gorfodi cyfyngiad cyffredinol a hefyd nad ydyn nhw'n gwneud dim i wrthdroi'r dirywiad...
Russell George: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol?
Russell George: A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses gaffael ar gyfer cynllun olynol Cyflymu Cymru?
Russell George: Arweinydd y tŷ, ymddengys bod gan gynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru ddau nod—Cymru fwy cysylltiedig a Chymru fwy cyfartal. Nawr, fe gyhoeddoch ddiweddariad i'ch cynllun cynhwysiant digidol y bore yma, ac rwyf wedi ei ddarllen, ac mae'n nodi cynnydd da. Ond mae'n rhaid imi ddweud mai'r gwir amdani, wrth gwrs, yw bod cysylltedd band eang miloedd o fy etholwyr, yn Sir Drefaldwyn,...
Russell George: Mae'n ymddangos i mi, rwy'n credu, ei bod yn deyrnged briodol i nodi'r berthynas bwysig ac arbennig sydd gan Dywysog Cymru â'n cenedl drwy ailenwi'r bont ar achlysur ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain, ac i nodi hanner can mlynedd ers i'r Frenhines ei wneud yn Dywysog Cymru. Yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth y mae mwyafrif llethol y cyhoedd yng Nghymru yn ei groesawu. A fyddech yn cytuno...
Russell George: A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad cost a budd o wasanaeth TrawsCymru, ac a gaf i ofyn i chi sut y mae nifer y teithwyr yn cymharu â gwasanaethau eraill sy'n cael cymhorthdal? A gaf i ofyn pa asesiad y gallwch chi ei wneud o'r arbrawf teithio ar ar y bws am ddim dros y penwythnos ar rwydwaith TrawsCymru?
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud wrth Dai Lloyd na fydd yn synnu na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw? Rhaid imi ddweud ei bod yn rhyfedd gweld Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar fater sydd eisoes wedi'i gytuno a'i benderfynu mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Yr hyn y gallaf ei ddweud hefyd yw ei fod yn fy...
Russell George: Gwnaf mewn eiliad—i'r DU, cyfraniad a fydd yn rhoi hwb o £100 miliwn amcangyfrifedig y flwyddyn yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu'r tollau ar bont Hafren.
Russell George: Wel, ymgynghorwyd â Thywysog Cymru hefyd ar y mater ac roedd yn hapus ynglŷn ag enwi'r bont yn hyn o beth. Fe ddywedaf—ac mae gennyf Oscar yn eistedd wrth fy ochr yma yn ogystal—pan fyddwn yn meddwl am y £100 miliwn a'r penderfyniad i ddiddymu'r tollau ar bont Hafren wrth gwrs, mae Casnewydd bellach yn gartref i'r farchnad eiddo sy'n symud gyflymaf yn y DU, yn ôl Rightmove, ac rwy'n...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? A gaf i hefyd ddiolch a rhoi ar gofnod fy niolch i Huw Irranca-Davies a'i ragflaenydd Rebecca Evans am fod yn agored iawn i roi briff i Aelodau perthnasol a rhoi'r newyddion diweddaraf i ni am y sefyllfa, yn dilyn yr arolygiad o wasanaethau plant Powys? Hefyd, rwy'n gwerthfawrogi cynnig...
Russell George: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth sydd ar gael i fusnesau yng nghanolbarth Cymru i ehangu eu gweithrediadau? OAQ52066