Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y datganiad heddiw ac rwy'n arbennig o falch o groesawu'r brand newydd Cymru Greadigol. Mae diwydiannau creadigol yn allweddol ac yn hanfodol bwysig yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol i Gymru. Bydd y brand rhyngwladol newydd cyffrous hwn yn helpu i hyrwyddo ein sector creadigol sy'n tyfu'n barhaus. Fel y gwnaethoch chi...
Rhianon Passmore: Weinidog, fis Ebrill eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cyllido £3 miliwn ar gyfer Sgiliau Bwyd Cymru, a fydd yn weithredol tan 2023, a thros y tair blynedd gyntaf, disgwylir i'r rhaglen hon gefnogi 650 o fusnesau. Weinidog, gyda sector bwyd a diod Cymru eisoes yn cynhyrchu £6.9 biliwn i economi Cymru, onid yw buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn arwydd o bwysigrwydd gwella sgiliau a'r...
Rhianon Passmore: Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos arweinyddiaeth strategol gref a sefydlog ar ran Cymru drwy ddatgan argyfwng hinsawdd, fel y cydnabu Greta Thunberg, yr ymgyrchydd newid hinsawdd. Yn ddiweddar, cafodd Llywodraeth Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a oedd yn argymell y gallai ac y dylai allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru ostwng 95 y cant dros y 30 mlynedd nesaf...
Rhianon Passmore: Mae hon yn ddadl bwysig yn wir. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwerthfawrogi'n fawr y rôl hanfodol y mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn ei chwarae yn cefnogi'r rhai y maent yn gofalu amdanynt, ac adlewyrchir hyn yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n darparu ar gyfer hawliau gwell i bob gofalwr yng Nghymru. Am y tro cyntaf, mae'r Ddeddf yn rhoi yr un hawliau i...
Rhianon Passmore: Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn rhagweithiol ar fater rhyddhad ardrethi’r stryd fawr ac mae'n amlwg fod stryd fawr brysur a chynhyrchiol yn hanfodol bwysig i fy etholaeth, gan gynnwys trefi Coed-duon, Rhisga, Trecelyn, Crosskeys a llawer o rai eraill ledled Islwyn. Yn wir, pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog...
Rhianon Passmore: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo busnesau yn Islwyn i baratoi at y dyfodol? OAQ53976
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, diolch. Mae dros 200 o fusnesau yng Nghymru wedi ymuno â chontract economaidd Llywodraeth Cymru yn ei flwyddyn gyntaf. Cynlluniwyd y contract economaidd gyda'r bwriad penodol i Lywodraeth Cymru ddatblygu perthynas newydd a chryfach â busnesau i ysgogi a meithrin twf cynhwysol ac ymddygiadau busnes cyfrifol. Prif Weinidog, onid yw hwn yn brawf dramatig bod Llywodraeth Lafur...
Rhianon Passmore: Mae llai o lawer o ddisgyblion yn cael eu gwahardd yng Nghymru nag yng nghanol y degawd diwethaf, o dros 450 yn 2004-05 i 150 yn unig yn 2016-17. Felly, Weinidog, a fyddech yn cytuno y dylid croesawu'r ffaith hon, a bod disgyblion yn cael eu gwasanaethu orau mewn amgylcheddau addysg meithringar a chefnogol, a bod canlyniadau cadarnhaol o'r fath yn dilysu'r canllawiau blaengar a gyhoeddwyd...
Rhianon Passmore: Weinidog, cyhoeddodd y Prif Weinidog, pan oedd yn gyfrifol am bortffolio'r Ysgrifennydd cyllid, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo £2.9 miliwn i ariannu gwasanaethau cyflogaeth a hyfforddiant arbenigol i bobl â nam ar eu synhwyrau, ac ar y pryd, dywedodd Rebecca Woolley, cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru 'Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian hwn. Bydd nid yn unig yn...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: O ran y sylwadau yn gynharach am gael gwead cymdeithasol a bod yn rhan o'ch cymuned, a ydych yn credu bod hynny'n bosibl mewn gwirionedd i rywun sy'n gweithio dau, dri, neu bedwar contract dim oriau weithiau?
Rhianon Passmore: Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod Llafur yng Nghymru, John Griffiths AC am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon gerbron y Siambr. Cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd gan y rhan fwyaf o'r Aelodau. Felly, gadewch inni fod yn onest: rydym yn byw mewn economi gyfalafol mewn byd sy'n cael ei ddominyddu gan gyfalafiaeth a'r pyramid economaidd ymrannol y mae'n ei gynhyrchu. Er bod hyn yn cynnig...
Rhianon Passmore: Cwnsler Cyffredinol, fe wnes i gwrdd â chynrychiolwyr Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sy'n parhau i ymgyrchu ar y mater tyngedfennol hwn yn stoïcaidd ac yn gadarn. Pa sicrwydd, yn ychwanegol at yr hyn yr ydych chi eisoes wedi ei roi i ni, allwch chi ei roi y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, yn rhinwedd ei swydd, yn parhau i wneud pob cynrychiolaeth gyfreithiol bosibl ac...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Yn hynny o beth, a gredwch fod gan y cyfryngau hefyd rôl elfennol a chanolog bwysig iawn yn hyn o ran y modd y caiff gwleidyddiaeth, gwleidyddion a chymdeithas sifil eu portreadu?
Rhianon Passmore: Mae'r sector addysg uwch, fel y gwyddom, yn chwarae rhan allweddol a hanfodol ym mywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru, ac felly mae cynnal a datblygu sector addysg uwch bywiog a llwyddiannus yn ganolog i weledigaeth Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu system addysg o safon fyd-eang. Yn anffodus, mae addysg uwch yng Nghymru, yn debyg i weddill y DU, yn wynebu pwysau ariannol...
Rhianon Passmore: Gwnaf, yn fyr.
Rhianon Passmore: Cytunaf yn llwyr fod pwysau gwirioneddol a heriau gwirioneddol, ond nid y sector addysg uwch yn unig, o gofio pwnc y ddadl hon, sy'n eu hwynebu. Mae'r diwygiadau radical y mae'r Llywodraeth hon a arweinir gan Lafur Cymru wedi'u rhoi ar waith mewn ymateb i adolygiad Diamond yn radical a byddant yn creu setliad ariannu cryf a chynaliadwy. Bydd y dull radical a blaengar hwn hefyd yn golygu...
Rhianon Passmore: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ansawdd aer yn Islwyn yn parhau i wella? OAQ54191
Rhianon Passmore: Diolch. Fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, a gaf i groesawu'r gwaith caled a phenderfynol gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r fwrdeistref sirol a arweinir gan Lafur Cymru wrth gydweithio i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol llygredd nitrogen deuocsid ar y A472 yn Hafodyrynys? Yn ddiweddar iawn, ymwelodd Mr Martin Brown, sy'n byw ar y stryd dan sylw, ag un o'm cymorthfeydd gyda'r cynghorydd...