Bethan Sayed: Diolch. Mae tlodi plant yn bla ar ein gwlad. Nid wyf yn mynd i roi siwgr ar y bilsen i unrhyw un yma heddiw, ac nid wyf yn mynd i geisio camarwain neb ynglŷn â'i achos na'i effeithiau. Nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi agor y ddadl hon heddiw mewn gwirionedd, i drafod yr un sgandal o dlodi sy'n bodoli yng Nghymru, tlodi sydd ond wedi gwaethygu yn ystod y degawd diwethaf. Yn syml, mae...
Bethan Sayed: Cefais fy magu yn y 1980au ym Merthyr Tudful ac rwyf wedi byw drwy Thatcheriaeth a'r dinistr a achosodd i fy nghymuned a chymunedau eraill ledled Cymru. Yn rhy aml, gwelsom fod cenhedlaeth o blant a gafodd eu magu mewn tlodi yn ystod y cyfnod hwnnw wedi aros yn dlawd wrth iddynt dyfu'n oedolion ac wedi dod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol. Roeddwn yn ceisio meddwl am enghraifft o...
Bethan Sayed: Diolch. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yma heddiw. Hoffwn ddechrau ar y pwynt a wnaed mewn perthynas â datganoli'r gwaith o weinyddu lles a'r pwyntiau a wnaed mewn ymyriadau gan Rebecca Evans a Huw Irranca-Davies. Nid wyf yn deall y rhesymeg, oherwydd mae i'w weld yn awgrymu—. Rydym mewn sefyllfa lle bydd y toriadau diwygio lles hyn yn digwydd beth bynnag ac yn sicr, os ydym yn...
Bethan Sayed: Rwyf wedi rhoi sylw i'r costau nes fy mod yn goch yn fy wyneb yn y Siambr hon, ac nid wyf am fynd dros fater y gost, a dweud y gwir. Rydym wedi egluro'r fframwaith cyllidol yn glir iawn ac roedd Llafur yr Alban i'w gweld yn cefnogi hynny. Mae'n un arf; nid wyf yn dweud ei fod yn ateb i bopeth, ond yn sicr mae'n un arf yn y blwch o faterion ehangach y gallwn gael rheolaeth drostynt yma yng...
Bethan Sayed: Llyr, rydym ni'n gweld—
Bethan Sayed: Beth? A ydym am gael dadl am hynny yma yn awr? Nid wyf yn meddwl bod hynny'n briodol.
Bethan Sayed: Fe wnaeth Llyr Huws Gruffydd siarad am sgiliau cyfathrebu diffygiol sydd yn dod o'r system addysg os nad yw pobl yn cael yr un cyfleon a'i gilydd, gyda 60 y cant o bobl ifanc yn y system gyfiawnder yn cael problemau cyfathrebu. Eto, dyna pam rydym ni'n dweud fel plaid fod angen i ni gael y pŵer yma yng Nghymru, er mwyn ceisio ymdrin â'r sefyllfa yma. Yng nghyd-destun gofal plant, rydym...
Bethan Sayed: David Rowlands, fe ddywedoch chi nad diwygio lles oedd prif achos tlodi ac mai esgus tila yw beio diwygio lles. Credaf y byddai'n dila i ni beidio â bod eisiau gwneud dim amdano, a dweud y gwir. Felly, ni fuaswn ond yn cytuno â chi hyd at bwynt, sef lle rydym wedi dweud ar sawl achlysur yr hoffem geisio cael rhywfaint o reolaeth dros y system honno. Ond rwy'n cytuno â chi, er nad wyf...
Bethan Sayed: Siân Gwenllian yn dweud nad oes fframwaith clir o ran trechu tlodi, eu bod nhw'n methu â chyrraedd targedau, ac efallai dyna pam nid ydynt yn rhoi’r targedau hynny yn eu lle rhagor. Roeddwn i’n sylwebu ar dlodi plant pan ges i fy ethol yn gyntaf, ac roedd y targedau yna am reswm er mwyn ein bod ni’n gallu tracio'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Heb y targedau hynny, nid yw...
Bethan Sayed: Rwy'n credu fy mod am orffen gyda'r ddogfen yr ydym wedi sôn amdani. Ie, wyddoch chi, gallwn drafod sawl gwaith y sonnir am dlodi, ond y ffaith amdani yw, nid oes unrhyw ffordd ddiriaethol o olrhain sut y symudwn ymlaen o fewn y ddogfen hon. Mae'n darllen yn dda ac mae'n darllen fel dogfen Llywodraeth dda iawn, ond wedyn ni allwn weld sut y gallwn ddefnyddio unrhyw dargedau i ysgogi ein...
Bethan Sayed: Iawn. Diolch yn fawr iawn. Dyna'r cyfan roeddwn am ei ddweud. Diolch.
Bethan Sayed: Hoffwn wneud tri chais ar gyfer datganiadau, os yw hynny'n iawn; fe geisiaf fod yn gryno. Rwyf wedi clywed gan drigolion a chynghorwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr nad ydyn nhw wedi gallu mynd ar borth cynllunio'r cyngor ers nifer o fisoedd bellach, ac mae wedi bod ar-lein ac all-lein mewn modd ad-hoc iawn. Rwy'n codi hyn yma oherwydd bod yr etholwyr yn dod ataf i yn dweud bod arnynt eisiau edrych...
Bethan Sayed: Byddai diddordeb gen i weld y peilot yr oeddech chi'n sôn amdano—
Bethan Sayed: O'r gorau. Byddai diddordeb gennyf—. A yw'n gweithio?
Bethan Sayed: A ydy e'n gweithio nawr? Ydy hynny'n ocê?
Bethan Sayed: Byddai diddordeb gen i glywed am y peilot roeddech chi’n sôn amdano wrth Lee Waters, oherwydd rydw i wedi bod yn gofyn, am nifer o flynyddoedd nawr, am waith mewn ysgolion yng nghyd-destun hunanhyder, yn sgil y gwaith rydw i’n ei wneud ar y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta. Ar y sail honno, rydw i eisiau gofyn pa waith rydych chi wedi bod yn ei wneud gyda’r Gweinidog iechyd ar...
Bethan Sayed: Diolch i chi am gyflwyno'r cwestiwn heddiw. Credaf fod angen i ni ofyn a yw'r system yn addas ar gyfer y dyfodol. Roedd yn amlwg yn Grenfell nad oeddent ddigon o ddifrif ynglŷn â risgiau ag y dylent fod a bod diogelwch wedi dod yn ail i'r gost mewn rhai ffyrdd allweddol. Hoffwn ofyn sut y bydd y £400 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer tynnu cladin ac uwchraddio adeiladau yn...
Bethan Sayed: Hoffwn i groesawu'r datganiad yma heddiw. Pan ges i fy ethol yn 2007 fel yr Aelod ifancaf ar y pryd—mae Jack a Steffan wedi cymryd y fantell honno oddi wrthyf i—gwnes i gychwyn yn syth i geisio ymgyrchu am senedd ieuenctid go iawn i Gymru, oherwydd roeddwn i'n parchu'r ffaith bod Funky Dragon yn gweithredu, ond roeddwn i eisiau cael rhywbeth ar ochr seneddol y Senedd yma—strwythur ar...
Bethan Sayed: Ynghylch yr orsaf bŵer yr oeddwn i eisiau holi ymhellach oherwydd, wrth gwrs, cefais gyfarfod â Tata a dywedasant eu bod yn amlwg wedi cwblhau cam 1, ond mae ganddyn nhw dri cham arall i'w cwblhau o ran disodli'r orsaf bŵer, ac rydym ni'n sôn yn y fan yma am dariffau dur yr Unol Daleithiau. Siawns bod buddsoddi nawr yn hollbwysig yn yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot i sicrhau ein bod ni'n...
Bethan Sayed: Yn ystod y toriad, gwelsom y cwmni Lush yn mynegi ei gefnogaeth i'r ymgyrch Spy Cops, sef ymgyrch i ddatgelu'r ffaith bod llawer o swyddogion yr heddlu, yn y 1980au hyd heddiw, yn treiddio i grwpiau ymgyrchu yma yng Nghymru a ledled y DU, yn cael merched yn feichiog ac yn cael perthynas rhywiol â merched heb iddynt wybod bod hyn yn wir. Nawr, roeddwn i eisiau deall beth yw barn Llywodraeth...