Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am ei ohebiaeth gynharach unwaith eto ar y mater pwysig hwn? O ran mynd i'r afael â hyn, a gwneud yn siŵr ein bod yn lleihau ac yn atal effaith unrhyw lygredd o unrhyw fath neu unrhyw achos yn ein basnau afonydd ledled Cymru, lle bynnag y bo hynny, mae'n bwysig ein bod yn cydweithio â rhanddeiliaid, gyda Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy a gyda...
Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig hwn. Mae Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019 yn gweithredu gofynion y cytundeb ar safonau trapio heb greulondeb rhyngwladol rhwng y gymuned Ewropeaidd, Llywodraeth Canada a Llywodraeth Ffederasiwn Rwsia. Mae'r cytundeb yn ceisio gwella safonau lles anifeiliaid drwy wahardd y defnydd o drapiau nad ydyn nhw'n cydymffurfio â safonau...
Hannah Blythyn: Mark Drakeford.
Hannah Blythyn: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Jenny Rathbone am gyflwyno'r cynnig hwn ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Credaf fod fy nghyd-Aelod Hefin David yn gywir i ddweud y gallwch fesur cryfder cynnig yn ôl faint o bobl sydd am gyfrannu ato. Mae'n drueni, ar yr achlysur hwn, nad oes gennym lawer o amser i'w drafod. Ond rwy'n siŵr y bydd hyn yn rhywbeth a gaiff ei ailystyried...
Hannah Blythyn: Yn ffurfiol.
Hannah Blythyn: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon ac i bawb sydd wedi cyfrannu? Nid oes dim yn well i ddynodi ei bod hi'n Nadolig na dadl ar flocio carthffosydd, ond o ddifrif, gwyddom fod cynnydd sylweddol yn y defnydd o hancesi gwlyb a chynhyrchion hylendid eraill yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at gynnydd mewn eitemau o'r fath sy'n cael eu fflysio i...
Hannah Blythyn: The Minister for Housing and Local Government wrote to the Secretary of State for Work and Pensions in December, expressing our deep ongoing concerns regarding the impact of the UK Government’s welfare reform policies, particularly the roll-out of universal credit, and our opposition to their damaging two-child limit cap.
Hannah Blythyn: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod, Hefin David, am gyflwyno'r ddadl fer hon ar bwnc sy'n ennyn llawer o sylw yn awr, fel y dywedasom, yn ymwybyddiaeth y cyhoedd a'r ymwybyddiaeth wleidyddol, ond hefyd o ran problem llygredd plastig. Fel y mae pawb ohonom wedi'i ddweud yn y Siambr, mae plastig ym mhob man a byddwn yn ei ddefnyddio bob dydd, ac mewn rhai...
Hannah Blythyn: Rydym yn gwybod—a gwn fy mod yn ailadrodd hyn o hyd—ein bod yn arwain y ffordd yn y DU ar ailgylchu, felly rydym yn dod at hyn o fan cychwyn gwahanol i'n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr, ond nid ydym yn hunanfodlon. Rydym am fod yn gyntaf yn y byd ar ailgylchu drwy ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yma ac adeiladu ar hynny gyda system sy'n gweithio i bawb ohonom yng Nghymru. Ar...
Hannah Blythyn: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn ymwybodol iawn o'r angen dybryd i fynd i'r afael â llygredd aer, ar gyfer cenedlaethau'r presennol ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau hanfodol mewn ansawdd aer i gefnogi cymunedau iachach a gwell amgylcheddau. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon ar ddeddfwriaeth ansawdd aer heddiw, ac rwy'n croesawu ac...
Hannah Blythyn: Mae angen i unrhyw bolisïau neu dargedau yn y dyfodol gael eu hategu gan dystiolaeth i sicrhau eu bod yn darparu’r newid mwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys asesu'r pethau ymarfeol sy'n gysylltiedig, megis yr effeithiau cymdeithasol, economaidd a thechnegol. Mae angen inni gasglu tystiolaeth i sicrhau ein bod yn targedu'r meysydd cywir yn y ffordd gywir. Bu bron i’r Aelod achub y blaen...
Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ar gyfer y Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019. Bydd y rheoliadau hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Chyfoeth Naturiol Cymru roi cosbau penodol ar gyfer troseddau dyletswydd gofal o ran gwastraff cartref. Mae gan ddeiliaid tai gyfrifoldeb i sicrhau, pan fyddant yn trosglwyddo eu...
Hannah Blythyn: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n synnu mewn gwirionedd. O'r hyn a ddywedwch, rydych yn cydnabod bod problem â thipio anghyfreithlon, eto i gyd nid ydych yn cefnogi'r rheoliadau, sy'n ceisio nid yn unig orfodi ond rhwystro hyn. Rydym yn falch o'n record ailgylchu yng Nghymru; dyna pam mai ni sy'n gyntaf yn y DU a thrydydd yn y byd. Ac rydym eisiau adeiladu ar hynny, a dyna pam y byddwn yn...
Hannah Blythyn: I am extremely concerned by the devastating impact that the UK Government’s welfare reforms are having on low-income families, particularly those with children, in the south Wales Valleys and elsewhere. We have repeatedly expressed our concerns to the UK Government calling for a halt to rolling out of universal credit.
Hannah Blythyn: Mae darparu cartrefi ychwanegol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, fel y nodir yn y strategaeth genedlaethol. Rydym yn defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni er mwyn annog adeiladu tai ac rydym yn buddsoddi mwy nag erioed mewn tai yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Hannah Blythyn: Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod polisi cynllunio cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Cymru eisoes wedi'i gyhoeddi, gyda'r bwriad o helpu i fynd i'r afael â materion cyflenwi tai drwy gyflwyno mwy o drylwyredd a her i'r broses o wneud cynlluniau mewn perthynas â dyrannu safleoedd tai. Cyfarfu'r Gweinidog a minnau â'r ffederasiwn yn ddiweddar, i drafod y pryderon a godwyd gennych, ond hefyd,...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiwn, Mike Hedges. Rydych yn gwneud pwyntiau dilys a diddorol iawn. Fel rwyf wedi'i grybwyll eisoes, mae'r fersiwn ddiweddaraf o 'Polisi Cynllunio Cymru', yn benodol, yn ei gwneud yn ofynnol yn awr i awdurdodau cynllunio lleol gadw cofrestr o safleoedd bach. Ac fel y soniais eisoes, rydym wedi cyhoeddi £40 miliwn i gefnogi cynlluniau Hunanadeiladu Cymru newydd ac arloesol,...
Hannah Blythyn: Diolch, Vikki Howells. Yn sicr, croesawaf ymdrechion a gwaith Rhondda Cynon Taf ac awdurdodau eraill o ran sut rydym yn creu cartrefi newydd drwy ddod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd. Ac mae'n rhywbeth rwy'n teimlo'n arbennig o angerddol yn ei gylch yn fy rôl arweiniol mewn perthynas ag adfywio, sut y gallwn gysylltu hynny mewn modd cyfannol, nid yn unig adfywio ac adfywhau cymuned a...
Hannah Blythyn: Cefnogir ein hymrwymiad i fynd i'r afael â digartrefedd, gan gynnwys cysgu allan, â buddsoddiad ychwanegol sylweddol o £30 miliwn. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad ar gyfer Tai yn Gyntaf a chymorth i amrywiaeth o fentrau fel rhan o'n cynllun gweithredu cysgu allan.
Hannah Blythyn: Fel Llywodraeth, ein prif amcan yw cefnogi ymyrraeth gyda'r bwriad o gefnogi pobl i osgoi cysgu allan fel cam gweithredu cyntaf. O'r £30 miliwn ychwanegol, darperir £12 miliwn i'r awdurdodau lleol i gynyddu eu cymorth i bobl sy'n dweud eu bod yn ddigartref. Fel y dywed yr Aelod yn gwbl gywir, ceir llawer o resymau pam nad yw pobl yn teimlo ei bod yn iawn iddynt, neu'n briodol iddynt yn wir,...