Delyth Jewell: Iawn, diolch ichi am hynny, Weinidog. Fy nghwestiwn olaf: hoffwn eich holi am rai o'r newidiadau mwy pellgyrhaeddol i'r system gynllunio sy'n sicr o fod eu hangen ar ein cymdeithas. Rwy'n sylweddoli bod cynllunio'n rhychwantu gwahanol bortffolios, ond mae'n amlwg fod cysylltiad â lles trigolion, ac ansawdd tai a'r cymunedau y mae'r tai hynny'n eu cynnal. Oherwydd ar hyn o bryd, yn nwylo'r...
Delyth Jewell: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus?
Delyth Jewell: Prif Weinidog, ni allaf orbwysleisio pa mor ddwfn yr wyf i'n anghytuno â phopeth y mae Mark Reckless yn sefyll drosto erbyn hyn. Mae'n ymddangos i mi mai un o'r prif rwystrau i gysylltiadau rhynglywodraethol da rhwng Cymru a Lloegr yw swyddogaeth ddi-rym, i raddau helaeth, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'r deiliad, Simon Hart, wedi dweud yn ddiweddar y dylai Llywodraeth Cymru roi'r gorau i...
Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda, ynghylch pwysigrwydd hanfodol helpu pobl ifanc i ymadfer o'r argyfwng, yn enwedig eu hiechyd meddwl a'u lles. Rwyf wedi siarad yn y Senedd o'r blaen am y gwaith gwych y mae Canolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd—neu SYDIC—yn ei wneud i ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd i bobl ifanc. Rwyf wedi siarad â Dave Brunton,...
Delyth Jewell: Bydd Plaid Cymru'n pleidleisio yn erbyn y prif reoliadau i sefydlu'r cydbwyllgorau corfforedig heddiw. Byddwn ni'n galw ar bob Aelod i wneud yr un peth. Mae Plaid Cymru yn credu y dylai llywodraethiant Cymru i'r dyfodol barhau i gynnwys haenau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn cytuno bod angen y strwythurau cywir mewn lle i gefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol ar y lefel iawn a...
Delyth Jewell: 7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa lefelu? OQ56458
Delyth Jewell: 1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd y DU yn ei chael ar ddiogelwch menywod yng Nghymru? TQ548
Delyth Jewell: Onid yw’n rhyfeddol? Mae’r gronfa codi’r gwastad yn sarhad uniongyrchol i setliad datganoli Cymru, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, ac mae'n mynd heibio i'n sefydliadau democrataidd. Nid yn unig y mae'r Senedd wedi'i heithrio o benderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud yn Whitehall, ond mae'r gronfa'n clymu llwyddiant prosiectau cymunedol â sylwadau a wnaed gan Aelodau Seneddol...
Delyth Jewell: Cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae Lynne Neagle wedi bod yn ei ddweud am bwysigrwydd canolbwyntio ar rymuso pobl ifanc a rhoi gobaith iddynt. Mae gan bobl ifanc—. Rwy'n ceisio ailgyflunio'r ffordd rwy'n mynd i eirio hyn, mewn gwirionedd, oherwydd roeddwn yn mynd i ddweud, 'Maent wedi colli cynifer o brofiadau.' Ond mewn gwirionedd, mae gan bobl ifanc gymaint o brofiadau y mae angen iddynt eu...
Delyth Jewell: Mae hyn mor bwysig, i gael pobl ifanc yn gallu pleidleisio, ond mae fe'n bwysig hefyd ar gyfer y genhedlaeth sydd ar eu hôl nhw. Mae swyddfa'r comisiynydd plant yn rhedeg etholiad seneddol amgen ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 15 mlwydd oed. Mae hyn yn rhoi cyfle i bawb fydd yn gallu pleidleisio yn yr etholiad yn 2026 i gael profiad realistaidd o'r profiad o bleidleisio. Mae 85 o ysgolion...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Mae hwn yn fater personol iawn i mi, yn anad dim gan fy mod yr un oedran â Sarah Everard, a gafodd ei lladd mewn modd mor erchyll ger Llundain yn ddiweddar, ac y cafodd yr wylnos i gofio amdani ei drin mewn ffordd mor ofnadwy gan yr heddlu. Lladdwyd o leiaf saith o fenywod gan ddynion yng Nghymru eleni yn unig. Rydym yn dal i gyfrif menywod sydd wedi marw, gan gynnwys...
Delyth Jewell: Mae'r sefyllfa ail gartrefi mewn rhai mannau o Gymru yn argyfyngus. Mae hon yn ddadl rŷn ni wedi dod gerbron y Senedd ar gymaint o achlysuron dros y blynyddoedd a misoedd diwethaf, ac mae'r sefyllfa yn un sydd yn gwaethygu. Hyd yn hyn, yn rhy aml, ymateb Llywodraeth Cymru ydy dweud bod angen mwy o ymchwil. Wel, mae hen ddigon o ymchwil wedi digwydd erbyn hyn nes ein bod yn mynd bron yn...
Delyth Jewell: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol yr undeb?
Delyth Jewell: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau heintio COVID-19 yn Nwyrain De Cymru? OQ56500
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Mae’r gyfradd achosion wedi bod yn syfrdanol o uchel ym Merthyr Tudful dros yr wythnosau diwethaf, er fy mod yn falch o weld y niferoedd yn gwastatáu. Gwn fod y bwrdd iechyd wedi nodi mai rhai rhesymau tebygol pam ein bod wedi gweld y cynnydd hwnnw fyddai am fod rhai aelwydydd estynedig wedi bod yn cymysgu a phobl heb fod yn dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol. Un o...
Delyth Jewell: Mae'n bleser gen i siarad yn fyr yn y ddadl hon ac i dalu teyrnged i'm cyd-aelodau o'r pwyllgor, ein Cadeirydd a'r tîm clercio am y gwaith pwysig gyda'r ymgynghoriad hwn a thrwy gydol y blynyddoedd diwethaf. Mae'n syndod mawr taw dyma oedd y tro cyntaf i'r Senedd graffu ar weithrediad y Ddeddf, Deddf sydd mor bwysig, mor uchelgeisiol, ond nad yw wedi cael y cymorth angenrheidiol ers iddi...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am bopeth dros y blynyddoedd ac am eich cyfeillgarwch chi.
Delyth Jewell: Rwy'n cynnig gwelliannau ein grŵp. Mae'n briodol inni gau'r Senedd hon gyda dadl sy'n edrych tuag at ein dyfodol. Mae'r dyfodol hwnnw'n llawn posibilrwydd os dewiswn gredu ynom ein hunain fel cenedl, a rhoi'r gorau i roi ein ffydd yn ninistrwyr anhydrin San Steffan a grymuso ein pobl yn lle hynny. Rhaid imi gymeradwyo haerllugrwydd y grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r cynnig hwn, y blaid sydd...
Delyth Jewell: A Chymru fawr yn sefyll o hyd. Cymru fawr sy'n wynebu dyfodol gyda statws cryfach, gorwelion ehangach, dyfalbarhad sy'n ddyfnach nag ymdrechion unrhyw blaid arall i'w chefnogi. Mae'r hyn fydd yn ein diffinio o'n blaenau, nid y tu ôl. A gwnaf i gloi, Dirprwy Lywydd, trwy ddyfynnu geiriau'r anfarwol John Davies ar ddiwedd ei lyfr Hanes Cymru pan mae'n trafod y ffaith bod nifer o haneswyr...
Delyth Jewell: Trefnydd, croeso i'ch rôl newydd.