Huw Irranca-Davies: Yn wir. Byddaf yn edrych i weld a fydd yr adroddiadau hynny ar gael i'r cyhoedd, a byddaf yn ysgrifennu atoch chi ac at Aelodau eraill sydd â diddordeb yn hynny. O ran y gallu i olrhain yr arian, nid wyf yn siŵr a fyddant yn dweud a yw wedi dod o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu—y £3 miliwn sy'n cael ei neilltuo o'r £50 miliwn o arian TGCh—a yw'n dod o fathau eraill o gyllid sydd...
Huw Irranca-Davies: Credaf eich bod yn llygad eich lle; os oes gennym ddiddordeb gwirioneddol, gyda'r galwadau sydd gennym am weithlu amrywiol, mewn defnyddio sgiliau pob person o bob gwahanol oedran, gan gynnwys y rhai â chyfrifoldebau gofalu yn ogystal, yna mae gennym waith go iawn i godi ymwybyddiaeth a sicrhau cefnogaeth i gyflogwyr allu nodi anghenion y gofalwyr unigol hynny, ymateb iddynt, a'u galluogi i...
Huw Irranca-Davies: Yn wir. Fe ymatebaf, Caroline, os caf fi, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau, gofal a chymorth i bawb, gan gynnwys pobl anabl, gyda'r flaenoriaeth allweddol ar wella eu lles.
Huw Irranca-Davies: Caroline, credaf eich bod, mae'n debyg, wedi gwneud cymwynas mewn rhyw ffordd drwy godi'r mater heddiw, oherwydd mae'r awdurdod lleol, sy'n ceisio rhoi'r gofal a'r cymorth cywir gyda llaw, nid yn unig o ran gofal, ond hefyd o ran byw'n annibynnol, a rhan o fyw'n annibynnol hefyd yw'r gallu i ymgymryd â chwaraeon, hobïau a'r ffordd o fyw y dylai pawb fod â hawl iddi—. Nawr, gwn eu bod...
Huw Irranca-Davies: Diolch. Mae gennym ffordd o weithio yng Nghymru sy'n ymwneud ag eistedd gyda phobl a datrys pethau gyda'n gilydd. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod. Rwy'n adnabod Simon yn dda, yn bersonol ac yn unigol—gwn eich bod chi hefyd. Mae'n unigolyn gwych. Mae'n ymgyrchwr brwd iawn yn wir. Mae'n syniad diddorol ac rwy'n credu bod rhinweddau ynddo. Mae angen i ni feddwl drwyddo er hynny ac mae'n...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi am ildio. O fewn yr hyblygrwydd sydd yno ar hyn o bryd, mae'n ddiddorol nodi bod lleoedd fel Abertawe yn ei dargedu at grwpiau penodol y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, megis cymuned y Teithwyr ac ati. Yr anhawster gyda monitro'r effeithiolrwydd yw bod y data hydredol yr edrychwch amdano i weld y canlyniadau gydol oes—sut y gwnewch hynny? Sut y gallwn ddychwelyd ymhen...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn yn wir. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, y rhai ar y pwyllgor a'r rhai nad oeddent ar y pwyllgor, a hefyd i aelodau'r pwyllgor a'r Cadeirydd hefyd am daflu golau fforensig ar hyn? Mae hon yn rhaglen flaenllaw. Fel sydd newydd gael ei nodi, rwy'n credu, mae hi wedi cael sylw fel tystiolaeth...
Huw Irranca-Davies: Bydd cysylltiadau cyffredinol wedi'u trefnu gan ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol Plant Iach Cymru ar gyfer pob plentyn rhwng dim a saith oed ar gael ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Hydref, gyda gwell ymyriadau dwys yn cael eu darparu i'r teuluoedd a'r plant sydd â lefelau uwch o angen. Ac wrth gwrs, fel y gwyddom, mae pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at y cyfnod sylfaen, ac mae ein...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Llywydd, a diolch, Nick, hefyd. Mae'n dda gen i gael y cyfle i ymateb i'r ddadl fer hon. Un o bleserau—one of the pleasures—bod yn Weinidog plant yw cael cwrdd â phlant a'u rhieni ym mhob cwr o Gymru. Rwy'n gwybod bod y mwyafrif llethol o rieni—fel fi a chi hefyd, Nick, ac eraill—am sicrhau'r gorau posib i'w plant, a'u bod yn gweithio'n galed i'w cefnogi.
Huw Irranca-Davies: Nawr, mae'r pwyntiau a wnaethoch yn awr am bwysigrwydd cefnogi tadau yn eu rôl yn rhai da iawn. Bydd y sefydliad Dads Can yn falch fod ganddynt hyrwyddwr yma yn Senedd Cymru i dynnu sylw at eu cyflawniadau, i ddathlu eu gwaith yn Senedd Cymru ac i ddadlau hefyd, fel rydych newydd ei wneud, dros eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol yn ogystal. Mae'n hyfryd eu cael yn yr oriel yma heno....
Huw Irranca-Davies: I gloi, Dirprwy Lywydd, rwyf am ailadrodd fy mod yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw'r gwaith y mae mamau a thadau yn ei wneud, a dyna pam y mae'r Llywodraeth yn darparu amrywiaeth o ymyriadau i'w cefnogi i gyflawni'r gwaith hollbwysig hwn. Rydw i'n gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau gorau posib i deuluoedd ledled Cymru.
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Nick, am ddod â hyn i sylw'r Senedd.
Huw Irranca-Davies: Yn ffurfiol.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, ac fe hoffwn i ddiolch i'm cyd Aelodau Cynulliad am eu holl gyfraniadau. Mae cryfder y drafodaeth yn dangos yn glir bod rhaid i'r Llywodraeth hon roi blaenoriaeth i sicrhau bod gofalwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i fyw yn dda.
Huw Irranca-Davies: Fe wnaf fy ngorau i fynd i'r afael â'r prif bwyntiau a godwyd, er mai amser, fel arfer, yw'r gelyn yma, gan fod yna lawer o welliannau a nifer o bwyntiau wedi cael sylw. Hoffwn ddechrau gyda gwelliant 4. Gofalwyr di-dâl, yn wir, sy'n darparu 96 y cant o'r gofal yng Nghymru ac mae'n werth dros £8 biliwn. Mae hyn yn hollol anghredadwy; mae'n dangos y gwerth economaidd cudd sydd wedi'i...
Huw Irranca-Davies: Yn wir. Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi am yr ymyriad hwnnw. Nawr, y llynedd—. Gyda llaw, mae'r asesiad hwn hefyd yn cynnwys y cyfeiriad at ofal seibiant ym mhwynt 5 y cynnig gwreiddiol, ac rwyf wedi bod yn rhoi camau ar waith i sicrhau bod yr hawliau ehangach hyn yn cael eu gwireddu, a dyna yw hanfod hyn. Nawr, y llynedd, cyhoeddais £3 miliwn o gyllid cylchol newydd i gynorthwyo...
Huw Irranca-Davies: Dirprwy Lywydd, ni allwn fforddio eistedd yn ôl ar y mater o gefnogi gofalwyr. Ni ddylai llesiant corfforol a meddyliol y bobl sy'n cyfrannu fwyaf i'r gymdeithas fod ar waelod ein rhestr o flaenoriaethau.
Huw Irranca-Davies: Ni ddylent fod ar waelod y rhestr; dylent fod ar frig y rhestr. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r syniadau y mae'r Aelodau wedi eu cyflwyno heddiw—syniadau yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd, a grŵp cynghori'r Gweinidog—i wneud y ffordd yr ydym yn cefnogi gofalwyr, yn ifanc a hen, yn real wrth inni symud ymlaen, oherwydd gwyddom fod eu tosturi, eu cariad, a'u gofal yn...
Huw Irranca-Davies: Yn sicr. A chredaf y byddai pawb yma yn ymuno â chi, Caroline, i ddymuno pob lwc i Paul. Mewn rhai ffyrdd, gallaf ddweud ei fod yn fachgen lleol, yn ddyn lleol, yn fy ardal i, fymryn y tu allan i fy etholaeth. Ond rydym wrth ein bodd fod yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol wedi dod ynghyd, i raddau helaeth, mae'n rhaid imi ddweud, ar sail y syniad a grybwyllir gennym yn rheolaidd yma...
Huw Irranca-Davies: Yn hollol. A Caroline, os caf ailadrodd fy sylwadau cynharach, sef bod y fframwaith statudol yng Nghymru yn wahanol iawn i'r hyn a geir dros y ffin yn Lloegr; mae'n seiliedig i raddau helaeth—gyda chefnogaeth yr Aelodau yma, a sicrhaodd fod y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio—ar ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle dylai'r unigolyn hwnnw benderfynu ar y cyd ar eu pecyn cymorth...