Canlyniadau 401–420 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Targedau Ailgylchu
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn gwneud cynnydd rhagorol yn erbyn ein targedau ailgylchu. Dengys y ffigurau ailgylchu diweddaraf gynnydd o 62 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at fis Medi 2016, 4 y cant yn uwch na’r 12 mis blaenorol hyd at fis Medi 2015. Rydym ar y brig yn y DU, rydym wedi codi i’r ail safle yn Ewrop, ac mae hynny’n dyst i ymrwymiad cynghorau a thrigolion ledled Cymru.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Targedau Ailgylchu
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Wel, rwy’n adolygu ein targedau ailgylchu, ond rwyf ond yn gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn fwy uchelgeisiol hyd yn oed. Credaf fod angen i chi fod yn ofalus iawn wrth ddehongli’r cynnydd yn ffigurau 2015-16 mewn perthynas â thipio anghyfreithlon. Mae’n anodd dal y troseddwyr, ond rwyf am eu gweld yn cael eu herlyn pan fo’n digwydd. Ond, wyddoch chi, roedd nifer yr achosion o...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Targedau Ailgylchu
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Wel, cyrhaeddodd 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru y targed. Nid Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd oedd dau o’r tri na lwyddodd i wneud hynny. O ran y tri awdurdod lleol na lwyddodd i gyrraedd y targedau, rwyf bellach wedi cael cyfle i gyfarfod â hwy i weld pam na lwyddwyd i gyrraedd y targedau. A byddaf yn parhau i weithio gyda hwy, a bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda hwy er...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Targedau Ailgylchu
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Gwnaf, a chytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ganol Caerdydd. Rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion fy mod yn awyddus i’n gwlad fod ar y blaen, nid yn unig yn Ewrop, ond drwy’r byd. Ac rwy’n credu o ddifrif y gallwn gyflawni hynny. Credaf fod sicrhau ein bod ar y blaen drwy’r byd yn darged realistig iawn. Felly yn sicr, ni fyddwn yn tynnu ein troed oddi ar y targed. Mae...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Pren o Gymru
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau cynifer o gyfleoedd â phosibl i gynyddu gwaith plannu a rheoli coetiroedd. Dylai hyn sicrhau bod cyflenwad digonol o bren ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Bydd ein polisi adnoddau naturiol yn allweddol wrth gynllunio a blaenoriaethu’r defnydd o dir yn y dyfodol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Pren o Gymru
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Do, rwyf innau hefyd wedi ymweld â Clifford Jones Timber yn Rhuthun, a mynegwyd yr un pryderon wrthyf. Cyfoeth Naturiol Cymru yw darparwyr pren mwyaf Cymru, a chredaf fod hynny’n cyflenwi 60 y cant o holl ofynion y sector. Mae’n rhaid i ni gyflenwi mwy nag yr ydym wedi bod yn ei wneud. Bellach, mae gennym y cynllun marchnata pren, sy’n amlinellu argaeledd pren. Bydd hwnnw’n para am...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Pren o Gymru
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ydy, yn bendant, ac roedd enghreifftiau da iawn o sut y gellid defnyddio pren wrth adeiladu tai ym Mhentre Solar pan fu’r ddau ohonom yno. Rwyf wedi bod yn trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mewn perthynas ag edrych ar wahanol ffyrdd o adeiladu tai. Soniais yn fy ateb blaenorol i Darren Millar fod gennym gynllun marchnata pren...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Pren o Gymru
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ni allaf roi manylion penodol i chi ynglŷn â Chwm Afan, ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu atoch.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae’n amlwg i mi fod angen ymdrech gydunol arnom ar draws pob sector er mwyn mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Mae arnom angen atebion radical ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fod hyn yn un o fy mhrif flaenoriaethau yn fy mhortffolio. Fe fyddwch yn gwybod ein bod newydd gael ymgynghoriad diweddar ar ansawdd aer lleol, a byddaf yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig cyn diwedd y...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Mae’r trafodaethau hynny wedi digwydd, ac mae’n amlwg, fel y dywedwch, ei fod yn rhywbeth y gallwn edrych arno wrth iddo fynd drwy’r Cynulliad, gan nad oes dim yn bwysicach, mae’n amlwg, o safbwynt iechyd y cyhoedd, nag ansawdd aer. Fel y dywedwch, cawsom ein hatgoffa o hynny’n bendant ddoe.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Byddaf yn cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos nesaf—ar y pymthegfed, rwy’n credu—i drafod hynny, ond byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl y cyfarfod hwnnw.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Credaf ein bod wedi gweld cynnydd mewn perthynas â’r sector llaeth yn dilyn yr adolygiad hwnnw a gynhaliwyd gan fy rhagflaenydd, fel y dywedwch. Un o’r argymhellion a ddaeth o’r adolygiad oedd y dylem gael hyrwyddwr llaeth. Rwy’n awyddus iawn i fwrw ymlaen â hyn, ac ar hyn o bryd, rydym yn ceisio dod o hyd i’r unigolyn mwyaf addas a phriodol i wneud hynny.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ni allaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny ar hyn o bryd. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Yn wir, mae swyddogion o’r pedair gwlad yn cyfarfod ar hyn o bryd. Nid wyf yn siŵr a yw hyn ar yr agenda, ond yn sicr, mae swyddogion yn edrych ar hyn ledled y DU.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ie, mae’n faes yr ydym yn ei ystyried. Fe fyddwch yn gwybod am y cynllun grantiau bach newydd, ond byddwn yn eu galw’n ‘grantiau fferm’ er mwyn osgoi drysu rhyngddo a’r rhaglen datblygu gwledig. Mae hwn yn faes, efallai, lle y byddwn yn gallu helpu ffermwyr llaeth yn benodol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Ddim o gwbl, a chredaf y byddai’r sector amaethyddol yn dweud wrth yr Aelod pa mor fodlon ydynt ynglŷn â’n hymgysylltiad â’r rhanddeiliaid. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi dechrau cynnal digwyddiadau i randdeiliaid yn syth ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ar ddiwedd y mis, credaf y byddwn yn cynnal y chweched neu’r seithfed. Mae ymgysylltiad y gweinidogion...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Wel, bydd yn rhaid inni ei adolygu, oherwydd, yn amlwg, pan fydd yr holl bwerau o’r UE yn dychwelyd i Gymru, bydd gennym gyfle wedyn i sicrhau ein polisi amaethyddol ein hunain yng Nghymru. Yn amlwg, mae rheoliadau—os gofynnwch i nifer o ffermwyr a bleidleisiodd dros ‘adael’ pam eu bod wedi pleidleisio dros ‘adael’, mae rheoleiddio’n cael ei grybwyll fel un o’r rhesymau. Ni...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Credaf fod popeth ar yr agenda, i fod yn berffaith onest â chi. Rydym yn boddi o dan lawer iawn o reoliadau a deddfwriaeth mewn perthynas ag amaethyddiaeth a physgodfeydd yn unig. Yn fy mhortffolio i, mae 5,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth a rheoliadau. Felly, wyddoch chi, credaf ein bod—. Rwyf wedi dweud fy mod yn awyddus iawn i weithio’n agos iawn gyda’r sector i sicrhau bod y polisi...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad at Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ac i awdurdodau lleol ar gyfer mynediad cyhoeddus ledled Cymru. Yn ddiweddar, cyhoeddais fy mwriad i ddatblygu a chyhoeddi cynigion i ddiwygio deddfwriaeth er mwyn datblygu ymagwedd well a thecach at fynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad at Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Byddwn, rwy’n credu bod hwnnw’n syniad da iawn ac wrth gwrs, mae’r pumed pen blwydd eleni. Credaf nad yw’r cyfraniad at economi Cymru, er enghraifft, yn rhywbeth sy’n cael ei gydnabod bob amser. Ond rwy’n cytuno y dylem ei ddathlu. Fel y gwyddoch, rydym yn darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i wella a hyrwyddo’r llwybr ac rwy’n credu bod yna bethau y gallwn eu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad at Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Lesley Griffiths: Mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn ac rwy’n credu ei fod yn ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw’n iawn hefyd. Yn sicr, rydym wedi cael tua 5,800 o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ac ni fyddwch yn synnu clywed bod pynciau megis y rhai yr ydych newydd eu crybwyll wedi cael eu nodi yn hwnnw. Ond yn sicr, gallwn edrych i wneud yn siŵr fod—. Fel y dywedais,...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.