Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl heddiw hon ac i Angela am agor y ddadl ac am ei chyfraniad huawdl. Yn anffodus, nid yw iechyd meddwl yn cael y sylw y mae'n ei haeddu yn ein GIG o hyd. Rwy'n croesawu'r £20 miliwn ychwanegol i'r gyllideb a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl, sy'n codi'r cyfanswm i £649 miliwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon o hyd. Ar ôl...
Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, tynnodd arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru sylw at y ffaith nad meddygon a nyrsys yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth am iechyd, mae'n debyg oherwydd yr anhawster o gael apwyntiad gyda meddyg teulu neu nyrs practis. Mae'n sefyllfa'n cael ei gwneud yn llawer gwaeth gan benderfyniadau annoeth gan lywodraeth leol. Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu torri cymorthdaliadau bysiau,...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel llawer o'r ymatebwyr i'r papur ymgynghori, rwy'n cefnogi'r bwriad y tu cefn i'ch Papur Gwyn yn gyffredinol. Cefnogaf yn llwyr y bwriad i gyflwyno dyletswydd didwylledd cyfreithiol a fydd yn ymestyn hyd rannau eraill o'r system iechyd a gofal cymdeithasol, yr un codau ymddygiad sy'n berthnasol i feddygon a nyrsys. Bydd hyn hefyd yn...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym ni yn UKIP Cymru yn croesawu eich cyhoeddiad o £3 miliwn i gefnogi disgyblion disgleiriaf a mwyaf talentog Cymru. Mae'n bwysig meithrin talent a nodi pwy yw ein disgyblion disgleiriaf ar y cam cynharaf posibl. Felly, oherwydd bod angen gwneud hyn yn gynharach nag ar lefel y chweched dosbarth, mae'n fenter dda i rwydwaith Seren ddechrau...
Caroline Jones: 7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig? OAQ51794
Caroline Jones: A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella seilwaith digidol Cymru?
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ôl-groniad o waith atgyweirio ffyrdd yn effeithio'n niweidiol ar bobl yn fy rhanbarth, Gorllewin De Cymru. Mae un o fy etholwyr yn methu mynd â'i wraig sydd mewn cadair olwyn allan o’u cartref oherwydd cyflwr y palmentydd o amgylch eu cartref. Pan gysylltodd â’r cyngor, dywedwyd wrtho ei fod ar waelod rhestr hir iawn o atgyweiriadau. Felly, sut y mae...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae Cymru'n wynebu newid demograffig enfawr yn y dyfodol agos, gyda'r disgwyl y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu'n sylweddol, ac y bydd nifer y rhai sydd o oedran gweithio yn gostwng. Mae hyn yn creu heriau enfawr i wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol. Gall defnydd cynyddol o dechnolegau digidol helpu i ddatrys y...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ, oherwydd roeddwn ar fin sôn am delefeddygaeth, sy'n datblygu i fod yn ateb i ofal iechyd mewn ardaloedd gwledig ac yn cael ei weld yn eang fel ateb i'r diffygion sydd gennym ym maes gofal sylfaenol. Yn anffodus, darpariaeth wael sydd yna yn yr ardaloedd gwledig hynny o ran band eang a signal ffonau symudol. Felly, os ydym am fynd i'r afael ag...
Caroline Jones: Diolch i chi, unwaith eto, am yr atebion hynny, arweinydd y tŷ. Mae ein seilwaith digidol yn dibynnu ar geblau a throsglwyddyddion radio yn ogystal â phersonél wedi'u hyfforddi'n dda, yn arbennig ym maes rheoli data a diogelwch seiber. Mae ymosodiadau seiber a thoriadau yn y canolfannau data wedi creu anhrefn yn y GIG yn ddiweddar, gan amlygu'r ffaith bod gwyddonwyr cyfrifiadurol yr un...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Fodd bynnag, mae dioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru yn cael eu gwrthod gan rai llochesau oherwydd diffyg lle, ac mae'r newidiadau cyllido a orfodwyd gan Lywodraeth y DU yn bygwth cau llawer o lochesau ledled y wlad. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu llochesau yng Nghymru, a sut y byddwch yn cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael?
Caroline Jones: Diolch yn fawr, unwaith eto, Simon, am godi'r mater pwysig ynglŷn â phwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad. Yn dilyn ein hymrwymiad blaenorol i osod pwyntiau gwefru trydan, mae’n bleser gennyf gadarnhau bod y gwaith yn mynd ymlaen i osod pwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Mae nifer fach o ddefnyddwyr ar yr ystad ar hyn o bryd ac rydym yn...
Caroline Jones: Diolch i'r Aelod am ei ymateb cadarnhaol, a gobeithiaf y gallwn symud ymlaen o'r fan hon. Pan wnaethom yr arolwg, un person yn unig a oedd yn berchen ar gerbyd trydan, felly rydym bellach yn sefydlu dau bwynt gwefru a fydd, gobeithio, yn ein hannog i leihau'r ôl troed carbon a gallwn edrych ymhellach. Pan fyddwn yn gweld yr ymateb i'r pwyntiau hyn ar waith, gallwn edrych ymlaen at dderbyn...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod llawer o awdurdodau lleol yn cael anhawster o ran bodloni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Er enghraifft, mae llawer o ofalwyr ledled y wlad nad ydyn nhw wedi cael asesiadau gofalwyr. Mae diwedd y grant byw'n annibynnol yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Prif Weinidog, a...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Dangosodd y penwythnos diwethaf pobl mor rhyfeddol sydd gennym ni'n gweithio yn ein GIG a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol ehangach: meddygon a nyrsys yn gweithio shifftiau dwbl, meddygon teulu yn cysgu yn eu meddygfeydd, staff yn cerdded milltiroedd mewn storm eira, er mwyn sicrhau bod cleifion yn parhau i dderbyn gofal o'r radd...
Caroline Jones: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru? OAQ51861
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, diben y grant gwella addysg yw cynorthwyo'r consortia rhanbarthol i wella canlyniadau i bob dysgwr. Mae'r ysgol gyfun orau yng Nghymru, Pontarddulais, yn fy rhanbarth i, ond mae hefyd yn cynnwys un o'r ysgolion sy'n perfformio waethaf, ychydig filltiroedd yn unig i lawr y ffordd. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu cael gwared ar y fath wahaniaeth mewn...
Caroline Jones: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich llongyfarch ar eich gwaith gyda'r sector fferyllol yng Nghymru, a chroesawaf y cyhoeddiad a wnaethoch yn gynharach heddiw yng nghynhadledd BioCymru 2018. Nid gweithgynhyrchu cyffuriau yw dyfodol y sector fferyllol yng Nghymru, ond ymchwilio i feddyginiaethau newydd. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi rhagor o gysylltiadau rhwng y...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu gwaith ar y ddeiseb hon, i bawb a'i llofnododd ac i RSPCA Cymru am arwain ar y ddeiseb. Rwy'n llwyr gefnogi'r ddeiseb, fel y mae bron i dri chwarter y cyhoedd yng Nghymru. Mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt er pleser pobl yn farbaraidd ac angen ei wahardd cyn gynted â phosibl. Diolch byth, dwy syrcas yn unig yn y DU sydd â thrwyddedau...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch i'r unigolion sydd wedi dioddef ac ymgyrchu’n frwd ar y pwnc hwn. Rwy’n croesawu penodiad Mr Ustus Langstaff a'r ffaith y bydd yn gadeirydd llawn-amser ar yr ymchwiliad. Y sgandal gwaed halogedig yw un o'r cyfnodau tywyllaf yn hanes ein GIG. Mae’r ffaith bod pobl a oedd yn ceisio cymorth gan y gwasanaeth iechyd wedi dod i...