Canlyniadau 401–420 o 800 ar gyfer speaker:Delyth Jewell

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (26 Mai 2021)

Delyth Jewell: Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar ddiogelwch tomenni glo yng nghymoedd y de. Yn gynharach eleni, adroddwyd bod bron i 300 o domenni glo yng Nghymru wedi eu dosbarthu fel rhai â risg uchel, a bod y nifer mwyaf, mewn unrhyw ardal awdurdod lleol, yng Nghaerffili, yn fy rhanbarth i. Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd llawer o'r rhain ar dir preifat—nid ydyn nhw i gyd o dan reolaeth awdurdodau...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 8 Meh 2021)

Delyth Jewell: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno brechlyn COVID-19 yn Nwyrain De Cymru?

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Meh 2021)

Delyth Jewell: Ar gychwyn haf o bêl-droed, rwy'n gofyn am ddatganiad ar bwysigrwydd y gêm ar lawr gwlad. A hoffwn ofyn hefyd am safbwynt y Llywodraeth ar yr ailstrwythuro a gafwyd i bêl-droed menywod yng Nghymru yn ddiweddar. Mae dau dîm yn fy rhanbarth i—Clwb Pêl-droed Menywod y Fenni a Cascade Ladies—wedi'u symud i lawr o brif gynghrair menywod Cymru. Bydd effaith ganlyniadol yr ailstrwythuro...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymorth Seibiant i Ofalwyr Di-dâl ( 9 Meh 2021)

Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth seibiant i ofalwyr di-dâl yn Nwyrain De Cymru? OQ56572

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymorth Seibiant i Ofalwyr Di-dâl ( 9 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Fel y dywedoch, mae'n Wythnos Gofalwyr, ac rwy'n croesawu eich pecyn cymorth seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl, ond mae arnaf ofn nad yw hynny'n cyd-fynd â'r oedi cyn ailagor gwasanaethau gofal dydd. Y gwasanaethau hyn yw un o'r prif ffyrdd i ofalwyr di-dâl gael seibiant, ac mae rhai cynghorau eto i'w hailagor yn llawn. Deallaf fod Caerffili wedi dweud y byddant yn agor...

6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd ( 9 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Beth yw diben pŵer? Pam ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi defnyddio ein dadl gyntaf yn y chweched Senedd i siarad am gylch gwaith ein deddfwrfa? Wel, mae pŵer yn gyfrwng. Mae'n cynnig gallu i wneud rhywbeth. Mae'n cynnig gallu i newid. Yn ein cynnig, rydym yn nodi meysydd eang eu cwmpas lle byddwn yn llithro'n ôl os na chawn y pwerau hyn gan San Steffan oherwydd...

6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd ( 9 Meh 2021)

Delyth Jewell: Un o'r meysydd lle yr hoffem ni weld symudiad fyddai trwy ddatganoli Ystâd y Goron. Buasai hynny nid yn unig yn rhoi hwb i'n heconomi, buasai'n rhoi mwy o reolaeth dros yr adnoddau fydd mor bwysig inni fuddsoddi ynddynt fel rhan o'n hadferiad gwyrdd ac yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn dilyn y refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn 2014, wrth gwrs, datganolwyd Ystâd y Goron i'r...

8. Dadl Fer: Effaith y newid yn yr hinsawdd ar iechyd meddwl ( 9 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Newid hinsawdd yw'r argyfwng unigol mwyaf dybryd sy'n wynebu ein gwareiddiad a'n planed. Mae honno'n ffaith anochel, fel y mae effeithiau newid hinsawdd sydd eisoes yn effeithio'n niweidiol ar iechyd meddwl pobl ym mhobman, o donnau gwres sy'n cynyddu cyfraddau hunanladdiad i lifogydd a thanau gwyllt sy'n creu trawma i'r bobl yr effeithir arnynt, gan adael straen,...

8. Dadl Fer: Effaith y newid yn yr hinsawdd ar iechyd meddwl ( 9 Meh 2021)

Delyth Jewell: Nawr, nid yw pryder am yr hinsawdd neu eco-bryder yn ddiagnosis clinigol eto, ond mae'n derm cydnabyddedig sy'n cael ei ddefnyddio i siarad am emosiynau negyddol sy'n gysylltiedig â'r canfyddiad o newid hinsawdd. Gall hyn amlygu ei hun drwy byliau o banig, methu cysgu a meddwl obsesiynol. Gall waethygu anhwylderau gorbryder ac iselder eraill. Ond mae ymchwil yn brin ac mae ei hangen yn fawr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llygredd Aer (15 Meh 2021)

Delyth Jewell: Mae stryd yn fy rhanbarth i, yn Hafodyrynys, a adnabyddir fel y stryd fwyaf llygredig yng Nghymru. Y tebygolrwydd yw bod llawer o strydoedd eraill fel yr un yn Hafodyrynys ond nad ydym ni'n gwybod am y llygredd gan nad yw'r monitro ar gael yno. Nawr, dylai'r Ddeddf aer glân yr ydych chi wedi ei chrybwyll, Prif Weinidog, yr ydym ni i gyd yn aros amdani, roi cyfle i gynyddu monitro aer, i...

9. Dadl: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (15 Meh 2021)

Delyth Jewell: Mae cyllid yr UE wedi cyfoethogi'r cymunedau yr wyf i yn eu cynrychioli. O ddatblygiadau yng nghanol trefi i ariannu prosiectau seilwaith, mae wedi creu cyfleoedd. Pan wnaethom ni adael yr UE, addawyd inni nid ceiniog yn llai gan Lywodraeth y DU, ond, Llywydd, mae digonedd o dystiolaeth eisoes i awgrymu y bydd fy ardal i ar ei cholled yn sgil y cynlluniau olynol. Yn gynharach eleni,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysgu Plant am Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Delyth Jewell: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu plant am newid yn yr hinsawdd mewn ysgolion? OQ56613

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Gweinidog, byddaf i'n gofyn fy nau gwestiwn cyntaf yn Gymraeg. Gaf i eich croesawu chi i’ch rôl newydd? Rwy’n edrych ymlaen at allu cydweithio â chi ar y pwnc hollbwysig yma. Mae’n glir bod argyfwng hinsawdd yn wynebu Cymru, a datganwyd argyfwng hinsawdd yn ystod y pumed Senedd. Ond dydy’r argyfwng sy’n ein hwynebu ddim yn un sy’n ymwneud â hinsawdd yn unig....

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog. Bydd cydweithio yn rhywbeth rili pwysig yn y maes yma, rwy'n siŵr, ar draws y Llywodraeth ond hefyd ar draws pleidiau. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd yna bethau lle byddwn ni yn gallu cydweithio. Yn sicr, bydd yna lefydd lle byddaf i'n gwthio ichi fynd ymhellach, rwy'n siŵr. Rwy'n falch hefyd eich bod chi newydd siarad am y straeon a sut rydyn ni'n rhoi stori newid hinsawdd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Meh 2021)

Delyth Jewell: A gaf i ofyn i chi felly, Weinidog, beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i ymateb i'r pryderon hyn am orlenwi ar drafnidiaeth gyhoeddus? 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Yn olaf, hoffwn ofyn am aelodaeth Llywodraeth Cymru—neu’n hytrach, absenoldeb, mae'n debyg—o bwyllgor llywio Canolfan Ymchwil Ynni'r DU. Mae'r pwyllgor hwnnw'n cynnal adolygiad o fodelau ynni sy'n cael eu defnyddio ledled y DU gan gyrff cyhoeddus, prifysgolion a'r diwydiant ynni. Mae absenoldeb Llywodraeth Cymru o'r pwyllgor hwnnw’n nodedig, gan mai hwy fyddai'r unig...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysgu Plant am Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Delyth Jewell: Diolch ichi am yr ymateb yna. Rwy'n awyddus iawn i fynd i'r afael â phryder hinsawdd, neu climate anxiety, sydd yn effeithio ar fwy a mwy o blant ysgol. Mae yna berygl ein bod ni fel cymdeithas yn achosi y pryder hwn fel canlyniad i'r ffordd rydym ni'n ymdrin â newid hinsawdd yn y cyfryngau, ond hefyd yn yr ystafell ddosbarth—siarad am newid hinsawdd, hynny yw, fel rhyw grisis anochel a...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Delyth Jewell: Dirprwy Weinidog, diolch am eich datganiad ac am rannu nifer o adroddiadau gyda ni heddiw. Mae'n hollol glir bod yn rhaid i ni daclo'r argyfwng natur ar y cyd â'r argyfwng hinsawdd, fel sydd wedi cael ei drafod, gan ein bod ni'n methu datrys yr un argyfwng heb inni ddatrys y llall. Ond er hyn, mae grwpiau amgylcheddol a natur yn pryderu am ariannu projectau a pholisïau natur y Llywodraeth...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Delyth Jewell: Gan droi at rywbeth sydd eisoes wedi codi mewn gwirionedd, mae'r pwyslais yn uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd yn canolbwyntio'n bennaf ar atebion sy'n seiliedig ar y tir a llawer ar greu coetiroedd. Wrth gwrs, rwy'n croesawu hyn, ond fel y crybwyllwyd eisoes mewn gwirionedd, credaf fod angen rhoi mwy o bwyslais ar ein hamgylchedd morol. A fyddech cystal â gwneud...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Chwaraeon (16 Meh 2021)

Delyth Jewell: Yn gyntaf, hoffwn ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed dynion Cymru ar gyfer y gêm heno yn erbyn Twrci. Efallai fod gan Dwrci rywbeth yn agos at dorf gartref, ond mae gobeithion ein gwlad y tu ôl i chi, fechgyn. Beth bynnag sy'n digwydd, gwyddom y byddwn yn falch ohonoch. Pob lwc i chi i gyd. Mae'n drydanol sut y gall y twrnameintiau enfawr hyn godi hwyliau pobl, rhoi rhywbeth i ni i gyd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.