Huw Irranca-Davies: Diolch am eich cwestiwn. Efallai yr hoffai fy nghyd-Aelodau wybod bod ein bod wedi cynnull cyfarfod ffurfiol cyntaf grŵp cynghori’r Gweinidog ar ofalwyr heddiw. Cyfarfûm â hwy yng nghanol Caerdydd. Mae'r holl randdeiliaid perthnasol yno, o amrywiaeth eang o sefydliadau. Ac mewn ffordd debyg i'r gwaith a wneir gan ein cyd-Aelod yma, David Melding, ar y grŵp gweithredu gweinidogol dros...
Huw Irranca-Davies: Ein blaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru yw helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd lle y bo'n bosibl, gan osgoi'r angen am ofal. Felly, mae rhaglenni fel Dechrau'n Deg a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn darparu cymorth cynnar, cymorth emosiynol a chymorth ymarferol i'r teuluoedd hynny fel y gall pob plentyn yng Nghymru fwynhau'r un cyfleoedd mewn bywyd.
Huw Irranca-Davies: Rwy'n falch o nodi, Mike, fod ein cyllid awdurdod lleol tuag at wariant gwasanaethau i blant a theuluoedd wedi cynyddu 24 y cant, mewn gwirionedd, dros y cyfnod o bum mlynedd rhwng 2012-13 a 2016-17. Mae wedi cynyddu o £467 miliwn i £577 miliwn, ond wrth gwrs, mae hynny ochr yn ochr â'r buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn pethau megis Dechrau'n Deg, ac agweddau eraill ar gyllid yn ogystal....
Huw Irranca-Davies: Llywydd, diolch yn fawr iawn am y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y rhaglen gwella bywydau ar ôl cyhoeddi'r adroddiad yr wythnos diwethaf.
Huw Irranca-Davies: Mae'r adolygiad traws-Lywodraeth hwn o bolisi, gwasanaethau a chyllid anabledd dysgu yn deillio o'n hymrwymiad i wella bywydau ein dinasyddion ac ymdrin ag anghydraddoldebau lle bynnag y maen nhw'n bodoli. Comisiynwyd y gwaith hwn gan sawl un o'm cyd-Weinidogion, ac rydym wedi ymdrin â'r mater gan edrych ar hyd y cwrs bywyd cyfan, sy'n cwmpasu blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol,...
Huw Irranca-Davies: Yn gwbl ganolog i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a 'Ffyniant i bawb', mae'r angen i ganoli ein gwasanaethau ar yr unigolyn ac i feithrin gallu ein cymunedau i gefnogi gwell iechyd a lles. Fel Llywodraeth, mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl i gael eu cynnwys yn fwy helaeth yn eu...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Mark. Rwy'n credu bod efallai tua saith neu wyth pwynt yma, felly rwy'n mynd i geisio, os gallaf, ymdrin â nhw cyn gynted â phosibl. Yn gyntaf, o ran adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy'n gwneud rhai argymhellion yn ôl themâu fel cartrefi mwy hygyrch a hyblyg, gosod addasiadau yn y cartref, paru pobl â'r bobl iawn y mae eu hangen arnyn nhw, a...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Dai.
Huw Irranca-Davies: Ceir rhai pwysig pwyntiau yma. Yn gyntaf oll, diolch i chi ac i eraill sydd yn gweithio gyda sefydliadau sy'n cynrychioli pobl ag anableddau dysgu—eich swyddogaeth gyda Phobl yn Gyntaf Abertawe. Ond ceir llawer o rai eraill ledled y wlad, mewn gwirionedd, sy'n gwneud gwaith aruthrol hefyd, ac roeddech yn iawn i dalu teyrnged nawr i'r holl wirfoddolwyr a'r sector elusennol, y trydydd sector,...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, Michelle. Nid wyf am fod yn achos unrhyw ddicter i chi, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn ceisio bod yn gyflym iawn, iawn, ond roedd yna tua saith o gwestiynau yn hwn hefyd. A gaf i droi at y rhai craidd yma—
Huw Irranca-Davies: Nid wyf yn bwriadu gwneud hynny. Fel arall byddwn yn y fan hon—. Ond rwyf am geisio ymdrin â'r rhai allweddol. Yn gyntaf, o ran dysgu'r gwersi o Loegr neu o rywle arall, rydym yn sicr yn gwneud hynny. Yr adroddiad LeDeR a oedd yn edrych ar faterion ynglŷn ag adolygiad o farwolaethau pobl ag anableddau dysgu—rydym yn ymwybodol iawn o hwnnw. Felly, mae gan y gwaith gwella bywydau y...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Rwyf innau hefyd yn cydnabod gwaith y sefydliad hwnnw, Autistic Spectrum Connections Cymru, a rhai eraill. Y mater a godwyd gennych chi yw mai'r hyn sydd ei angen yw dull gydol oes—sef y meysydd eang y tu hwnt i edrych ar y cyflwr drwy sbectrwm meddygol yn unig. Y model cymdeithasol yw hwnnw i raddau helaeth iawn. Mae hon yn ffordd newydd o weithio, ac...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn i chi, Julie. Yn wir, prif waddol y strategaeth gynharach honno yw meddylfryd hyn wrth ei ddatblygu. Felly, mae'n drawsbynciol, a chaiff ei gyrru i raddau helaeth iawn gan randdeiliaid, mae'n cymryd y dull profiad bywyd yn hytrach na'i fod wedi ei yrru gan Lywodraeth o'r brig i lawr sy'n dweud, 'Dyma'r atebion hawdd'. Y meddylfryd o weithio, a datblygu'r ffrydiau gwaith ar...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. O ran Hijinx yn benodol, ni allaf wneud sylw uniongyrchol ynglŷn â hynny, yn amlwg, ond mae disgwyliad wrth gyflawni hyn, y rhwymedigaeth statudol a roddwn ar ddarparwyr, ond hefyd y rhai sydd ag arian ar gael yn rhwydd iddyn nhw, yw eu bod mewn gwirionedd yn ei ddefnyddio i gyflawni'r canlyniadau hyn yr ydym ni'n canolbwyntio arnynt. Ac, ie, o ran datblygu hyn, mae...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru). Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r tri phwyllgor sy'n ymwneud â chraffu ar y Bil hwn am eu hamser a'u gwaith caled. Er mwyn cydnabod eu hymdrechion ysgrifennais at y tri phwyllgor, cyn y ddadl heddiw, yn nodi'n fanwl fy meddyliau mewn ymateb i'w...
Huw Irranca-Davies: Diolch Dirprwy Lywydd, ac fe ddechreuaf drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, yn enwedig Cadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ond hefyd rwy'n llongyfarch Janet ar ei swydd newydd, a hefyd yr holl Aelodau eraill sydd wedi cymryd rhan hefyd ac sydd wedi siarad yn fanwl iawn am y Bil sydd...
Huw Irranca-Davies: Os gwnaf hynny, bydd yn bwyta i mewn i'r amser, ond rwy'n hapus i gymryd un.
Huw Irranca-Davies: Credaf, yn rhyfedd iawn, o ran sylwadau Mark yn y fan yna, mewn byd delfrydol, pe byddai gennym ni gyllidebau diderfyn, pe byddai cyni yn dod i ben, rwy'n credu ein bod yn gwybod beth y byddem ni yn ei wneud, a chredaf fy mod yn gwybod lle mae'r dystiolaeth yn mynd â ni, ond, yn anffodus, nid ydym ni yn y sefyllfa honno. Felly, rhywfaint o'n her yn y fan yma fel Aelodau Cynulliad cyfrifol...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Os caf i droi at y sylwadau am rieni ac addysg a hyfforddiant, rwy'n ymwybodol iawn, ac yn cydymdeimlo'n fawr, o ran yr heriau y mae pob rhiant yn eu hwynebu wrth gael gafael ar ofal plant fforddiadwy pan fydd arnynt ei angen, ond ar gyfer rhieni sy'n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed y mae'r cynnig hwn. Ac, mewn gwirionedd, bydd fy nghyd-Aelodau o amgylch...
Huw Irranca-Davies: Iawn.