Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Yn dilyn ein hadroddiad yn y Pwyllgor, mae llawer o sefydliadau wedi ysgrifennu ataf, ynghyd ag etholwyr, â phawb yn gwrthwynebu'r isafbris uned. Felly, ni allaf rannu yn y cynsail mai cyflwyno isafbris uned yw'r ffordd gywir i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Ni fydd...
Caroline Jones: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol yng Nghymru? OAQ51899
Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion iechyd personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr?
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl papur sefyllfa Cancer Research UK ar y gweithlu diagnostig yng Nghymru, prinder gweithwyr yn y gweithlu diagnostig sy'n rhannol gyfrifol am y ffaith bod Cymru wedi methu cyflawni targedau amseroedd aros ar gyfer cleifion canser ers 2008. A ydych yn cytuno â'r dadansoddiad hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a oes gennych unrhyw gynlluniau i fynd...
Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros gydag adroddiad Cancer Research UK, maent yn tynnu sylw at y wybodaeth anghyson sydd ar gael ynglŷn â'r gweithlu diagnostig, sy'n ei gwneud yn anodd i fyrddau iechyd lleol wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â chynllunio'r gweithlu. Gwyddom fod cyfradd swyddi gwag o oddeutu 13 y cant mewn radiotherapi diagnostig ac mae gennym...
Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o argymhellion adroddiad Cancer Research UK yw archwilio'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer profion diagnostig. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y grŵp Reform adroddiad ar ddeallusrwydd artiffisial yn y GIG, sy'n nodi potensial deallusrwydd artiffisial i leihau bylchau yn y ddarpariaeth iechyd. Er bod adroddiad Reform yn canolbwyntio ar y GIG yn...
Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae camddefnyddio cyffuriau yn broblem enfawr yn ein carchardai—y prif reswm pam mae carcharorion yn troseddu yn y lle cyntaf ac un rheswm pam mae llawer yn aildroseddu. Er gwaethaf ymdrechion gan staff y carchardai, sy'n gweithio'n galed iawn i ddarparu profion cyffuriau gorfodol a chynorthwyo carcharorion i roi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau, mae'r gwaith...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae nifer fawr o apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer profion diagnostig, lle y gwelwn restrau aros enfawr. Ym mis Rhagfyr, gwelsom dros 20,000 o gleifion yn aros mwy nag wyth wythnos, a dros 1,000 o gleifion yn aros mwy na 24 wythnos. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi bod hyn yn annerbyniol ac y bydd yn gwaethygu oherwydd galw cynyddol yn y blynyddoedd i ddod. Prif...
Caroline Jones: Weinidog, mae goresgyniad rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid, yn enwedig clymog Japan, wedi bod yn broblem wirioneddol yn fy rhanbarth i. Mae trigolion yng Ngorllewin De Cymru wedi gweld eu heiddo'n cael ei ddinistrio gan y clymog, a chroesawaf y gwaith a wneir gan Brifysgol Abertawe a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwared ar y rhywogaeth oresgynnol hon. Yr haf diwethaf, gwelsom...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. [Torri ar draws.]
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n hen bryd i ni godi'r cap ar gyflogau staff y GIG sy'n gweithio o dan bwysau aruthrol, yn arbennig mewn perthynas â phrinder staff. Mae'r cytundeb yn Lloegr yn cynnwys staff ar y contract Agenda ar gyfer Newid, nad yw'n cynnwys meddygon. Felly, er fy mod yn croesawu'r cynnydd a gyhoeddwyd yn flaenorol yng nghyflogau ein meddygon teulu,...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’r adolygiad a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn canmol y gweithlu iechyd rhywiol yng Nghymru yn gwbl briodol. Mae’r nifer sy’n defnyddio’r gwasanaethau wedi dyblu yn y pum mlynedd diwethaf. Yn ddi-os, bydd y cynnydd hwn yn golygu bod angen...
Caroline Jones: 6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn trethi cyngor ar drigolion Gorllewin De Cymru? OAQ51993
Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae trigolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cynnydd o 4.5 y cant, Castell-nedd wedi cael 3.7 y cant ac Abertawe wedi cael cynnydd syfrdanol o 4.9 y cant. Ar yr un pryd ag y mae fy etholwyr yn gorfod talu'r codiadau hyn sy'n uwch na chwyddiant, nid yw cyflogau ond wedi codi hanner cymaint â'r symiau hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gellir cyfiawnhau'r...
Caroline Jones: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau gwastraff plastig untro ar yr ystâd. Rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i leihau'r swm o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi i sero erbyn 2018. Ym mis Ionawr, gwnaethom ymrwymiad i ddefnyddio dewisiadau amgen yn lle plastig untro, lle bo'n bosibl, o fewn chwe...
Caroline Jones: Diolch i'r Aelod eto, a hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar un neu ddau o bethau. Rydym bellach wedi cael gwared ar gwpanau coffi untro, ac rydym yn defnyddio cynwysyddion diodydd alwminiwm yn awr. Mae'r hidlyddion dŵr o gwmpas yr ystâd yn lleihau'r defnydd o boteli dŵr—poteli plastig. Mae prydau poeth ac oer mewn cynwysyddion y gellir eu compostio bellach. Mae nifer helaeth o...
Caroline Jones: Wel, yn amlwg, Simon, mae gennym rywfaint o stoc y mae'n rhaid i ni ei ddefnyddio. Ni fyddai'n ymarferol i daflu stoc, felly rydym yn lleihau ein stoc ar hyn o bryd, ac rydym bob amser yn edrych ar gyflenwyr amgen sy'n cynhyrchu'n union beth rydym ei eisiau i leihau ein hôl troed carbon yma, ac i leihau'r plastig rydym yn ei ddefnyddio. Felly, byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i...
Caroline Jones: Diolch, Simon. Mae'r Comisiwn yn falch o fanteisio ar y cyfle hwn i gyhoeddi ein bod wedi ennill ardystiad yn ddiweddar i'r safon ryngwladol ar gyfer rheoli amgylcheddol, ISO 14001. Fel rhan o'r system amgylcheddol hon, mae gennym darged lleihau carbon hirdymor o ostyngiad o 30 y cant yn ein hôl troed ynni erbyn 2021. Mae hyn yn adeiladu ar darged blaenorol oedd gennym am ostyngiad o 40 y...
Caroline Jones: Diolch, Simon, ac rydych yn nodi pwynt dilys iawn am gysylltu â meysydd eraill, megis y cyngor, i egluro ein bod yn ceisio lleihau ein hôl troed carbon, ac yr hoffem edrych ar y gwahanol ffyrdd drwy deithio llesol, ac ati, o ddod i'r Senedd a mynd oddi yma, a hoffem annog ffyrdd amgen i Aelodau, teuluoedd yr Aelodau ac ymwelwyr â'r Senedd i ddod yma drwy ddulliau eraill o deithio, neu...
Caroline Jones: Un eiliad. Diolch ichi am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau ar gyfer rheoli asbestos, ac mae'n cadw cofrestr asbestos ar gyfer pob adeilad ar ei ystâd. Cynhaliwyd arolygon ac adolygiadau asbestos manwl yn 2002 a 2014, ac mae'r cofrestr asbestos yn cadarnhau nad oes deunydd asbestos yn bresennol ar yr ystâd. Adolygir y gofrestr yn flynyddol a...