Canlyniadau 421–440 o 3000 ar gyfer speaker:Rhun ap Iorwerth

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol (17 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Rwy'n croesawu'r ymyriad, ond hoffwn nodi mai'r hyn y byddem yn siarad amdano yma yw canabis amrwd wedi ei reoleiddio o bosibl, a fyddai'n fwy diogel o lawer, wrth gwrs, a byddai modd ei roi ar bresgripsiwn. Dyna holl bwynt yr hyn rydym yn sôn amdano. Rwyf am ymdrin â phwynt a wnaed mewn ymyriad hefyd gan yr Aelod UKIP dros Orllewin De Cymru, a siaradodd am ysmygu canabis. Pwy sy'n...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol (17 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Mae'r dystiolaeth yn glir, rydw i'n credu, neu yn sicr mi ydw i wedi cael fy argyhoeddi. Yn 2016, fel rydym ni wedi clywed, mi gyhoeddwyd canlyniadau saith mis o ymchwil gan bwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan. Mae'r ymchwiliad hwnnw, yn ei dro, wedi ei seilio ar adolygiad byd-eang o dystiolaeth, a'r argymhelliad clir iawn oedd y dylid cyfreithloni canabis at ddibenion meddygol. Mae hi yn...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol (17 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol (17 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Yn fyr iawn—a diolch am dderbyn yr ymyriad—oni fyddai dileu rhwystr cyfreithlondeb yn helpu i hwyluso'r ffordd tuag at ddod o hyd i ddulliau o ddefnyddio canabis mewn ffordd feddyginiaethol?

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol (17 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Yn sicr, fe wnes i ddysgu llawer iawn yn ystod yr ymchwiliad yma. Mae gen i brofiad yn fy etholaeth, fel Aelod Cynulliad Ynys Môn, o weld clwstwr ar waith—clwstwr effeithiol iawn fel rydw i'n ei ddeall. Rwyf wedi eistedd i mewn ar gyfarfod clwstwr a gweld y gwaith amlddisgyblaethol yn tynnu at ei gilydd mewn ffordd rydw i'n credu oedd yn effeithiol iawn ar ran fy etholwyr i yn Ynys Môn....

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol (17 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod pump o argymhellion y pwyllgor. Dyna bron i draean. Rwy'n siomedig ynglŷn â hynny fel aelod o'r pwyllgor. Nid wyf yn meddwl ei fod yn arbennig o dderbyniol, gan nad wyf yn meddwl bod yr un o'r pump yn arbennig o ddadleuol. Nid wyf yn ystyried bod iddynt oblygiadau ariannol enfawr, ond wrth gwrs, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Seilwaith yng Ngogledd Cymru (23 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Rwy'n edrych ar fap o fy mlaen i yn y fan hyn o'r pwyntiau gwefru ceir trydan ar draws Prydain. Ac rydym yn gweld ar draws gogledd Cymru mor dila ydy'r ddarpariaeth o fannau pwyntiau gwefru cyflym. Rydw i'n edrych ymlaen am y chwyldro mewn defnydd o geir trydan, ond nid ydy'r chwyldro yna am allu digwydd heb fod y Llywodraeth wirioneddol yn dangos uchelgais ac yn rhoi strategaeth mewn lle er...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd o ran y Gronfa Triniaethau Newydd (23 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Yn gyntaf, dylid croesawu unrhyw dystiolaeth fod pobl yn ei chael hi'n haws erbyn hyn i gael cyffuriau y mae ganddyn nhw'r hawl iddynt, ond dyma ychydig o gefndir: efallai y cofiwch chi, yn 2014, fod Plaid Cymru wedi cyhoeddi polisi o geisio cael cronfa driniaeth newydd a'i bwriad yn benodol oedd ariannu cyffuriau a gafwyd drwy geisiadau cyllido cleifion unigol. Rwy'n falch iawn ein bod gam...

QNR: Cwestiynau i Arweinydd y Ty a'r Prif Chwip (Julie James) (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am bwysigrwydd mynediad at wasanaethau 3G/4G mewn ardaloedd gwledig?

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn absenoldeb y llefarydd ar gyllid, rydw i'n gobeithio y gwnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet faddau i fi am grybwyll iechyd. Ond peidiwch â phoeni—yng nghyd-destun dyraniad cyllidebau mae fy nghwestiynau i. Ysgrifennydd Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru, wrth ddyrannu arian i gyrff cyhoeddus mawr fel y gwasanaeth iechyd, yn sicrhau bod yr arian yna yn cael ei...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Rydw i yn gweld yr ateb yna yn ddefnyddiol. Mae hi yn nod, er enghraifft, gan y Llywodraeth i gynyddu gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned, ond mae hi'n anodd gwirio a ydy hynny'n digwydd o ran lle mae'r arian yn mynd oherwydd mai un llinell gyllid yr ydym ni'n ei chael gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet. Onid ydych chi'n credu bod yna le i roi rhagor o is-linellau...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Mae cyfrifoldeb, wrth gwrs, arnoch chi fel Ysgrifennydd Cabinet i wneud yn siŵr bod yr arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario mor effeithiol â phosibl, ac rydw i'n gwerthfawrogi, o'ch ateb cynharach chi, eich bod chi yn cael cyfarfodydd efo'r Ysgrifenyddion Cabinet yn y gwahanol feysydd er mwyn trio pwyso a mesur a ydy pethau yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Ond mae yna un enghraifft arall...

7. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: A wnewch hi dderbyn ymyriad? Yn gyflym iawn—diolch i chi am dderbyn ymyriad. A yw'r Aelod yn ymwybodol—a sylwaf eich bod wedi galw Pwerdy'r Gogledd yn Bwerdy Gogledd Lloegr— a ydych yn ymwybodol fod gogledd Cymru wedi'i gynnwys mewn deunydd cyhoeddusrwydd ar gyfer Pwerdy'r Gogledd, nid fel partner i Bwerdy Gogledd Lloegr weithio gyda hwy?

7. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Ar y pwynt hwnnw, beth oedd y ffigur pan oedd Llafur yn Llywodraeth?

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 'Ffyniant i Bawb' (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Yn absenoldeb fy nghydweithiwr a llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, fy mhleser i ydy cael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ac i wneud ychydig o sylwadau. Mae yna, heb os, rai elfennau o'r strategaeth sydd i'w croesawu: y pwyslais newydd ar yr economi sylfaenol, datgarboneiddio, er enghraifft, a'r penderfyniad hefyd i hybu busnesau i fod yn fwy cyfrifol os ydyn nhw am dderbyn cefnogaeth gan...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 'Ffyniant i Bawb' (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Gyda chaniatâd y Llywydd, gwnaf.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 'Ffyniant i Bawb' (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Dyma'r pwynt a wnaf: mae cydweithredu agos yn bwysig tu hwnt. Gallwch edrych ledled y byd ar bwysigrwydd cydweithredu trawsffiniol, ond gadewch inni gofio beth yw'r ffocws yma, a bod yn realistig am y ffaith nad buddiannau Cymru sydd wrth wraidd rhai o'r datblygiadau hyn, fel y rhai y bu mawr sôn amdanynt gan Alun Cairns yr wythnos hon. Rwy'n credu bod y ffaith ei fod yn cael ei alw'n...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 'Ffyniant i Bawb' (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Nid yw'r ffigurau'n dangos hynny, a charwn eich atgoffa, yn y blynyddoedd hynny, fod Cymru wedi cymryd rhai o'r camau y methodd Llywodraeth y DU eu cymryd i wrthsefyll y problemau gwaethaf a achoswyd gan y dirywiad ariannol.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 'Ffyniant i Bawb' (24 Ion 2018)

Rhun ap Iorwerth: Pa ran o 'mae'r cysylltiadau hynny ar draws y ffin yn hanfodol' nad oeddech yn ei deall?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.