Jeremy Miles: Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Roeddwn yn ymwybodol o'r digwyddiad ddydd Gwener 11 Ionawr, a fynychwyd gan y Prif Weinidog, a Gweinidog yr economi, a sylwais ei bod yn drafodaeth ddiddorol iawn ac yn gyfle da i glywed o lygad y ffynnon y math o bryderon y mae cyflogwyr mawr a bach yn eu teimlo yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Gwn am y gwaith y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei etholaeth ei hun o...
Jeremy Miles: Mae Gweinidogion Cymru wedi trafod materion yn ymwneud â Brexit gyda Llywodraeth Iwerddon, a hynny'n bennaf trwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a fynychais i ar 9 Tachwedd 2018. Rwyf hefyd wedi cysylltu â'm Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth Iwerddon i gychwyn rhagor o ddeialog ac adeiladu ar y cysylltiadau agos sy'n bodoli yn barod.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwn. O ran erthygl 50, rŷm ni'n cymryd pob cyfle, wrth gwrs, i sicrhau bod Llywodraethau yn deall ein safbwynt ni ynglŷn â hynny. Roedden ni'n galw mwy yn ddiweddar ar y Prif Weinidog yn San Steffan i sicrhau estyniad o hynny i ganiatáu i'r trafodaethau ymhelaethu. O ran y berthynas gydweithredol rhwng Cymru ac Iwerddon, mae'r Aelod yn sôn am INTERREG; mae...
Jeremy Miles: Rydym wedi aros am ddwy flynedd i glywed beth yw barn Llywodraeth y DU ynglŷn ag ar ba sail y dylem adael yr Undeb Ewropeaidd—dwy flynedd. Ddwy flynedd yn ôl, lansiodd y Llywodraeth hon, ynghyd â Phlaid Cymru, bapur a nodai, gyda sylfaen dystiolaeth glir iawn, y math o berthynas y dylai Cymru ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit. Roeddem yn gallu gwneud hynny ddwy flynedd yn...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Un o'r pwyntiau y mae angen eu hegluro yng nghynigion Llywodraeth y DU yw ei chyfeiriad at gynnal archwiliadau yn y ffordd leiaf ymwthiol sy'n bosibl. Mae angen deall hynny'n well. Ond wrth gwrs, pe bai'r math o gynigion rydym wedi dadlau drostynt yma yn cael eu mabwysiadu, ni fyddai mater yr ôl-stop yn codi. Ac er bod yr ôl-stop yn bryder hollol ddilys i'r...
Jeremy Miles: Wel, fel y dywed yr Aelod, mae cynnig o ddiffyg hyder gerbron Tŷ’r Cyffredin heddiw. Rwyf wedi darllen yr un dyfaliadau ag yntau o ran pa un a fydd y cynnig yn llwyddo neu'n methu. Dylwn ddweud y byddai'n rhyfeddol pe bai Llywodraeth y DU yn methu cael ei phrif bolisi wedi'i fabwysiadu a'i gefnogi yn Nhŷ'r Cyffredin ac yna'n parhau i fod mewn grym. Byddai hynny fwy neu lai'n ddigynsail yn...
Jeremy Miles: Fe geisiaf amlinellu ein safbwynt eto. Rydym wedi galw ar Brif Weinidog y DU i estyn allan ar draws Tŷ'r Cyffredin i geisio dod o hyd i sail ar gyfer cytuno ar gytundeb gwell. Mae hi wedi dweud ddoe ei bod hi'n bwriadu gwneud hynny. Dylai wneud hynny, a chynnwys meinciau blaen y gwrthbleidiau i wneud hynny. Dylai anghofio'r llinellau coch y mae wedi eu mynnu—yn ddi-fudd mewn llawer o...
Jeremy Miles: Mae'r amserlen ar gyfer deall beth yw'r cytundebau amgen posibl yn dal i fod yn aneglur ar hyn o bryd. Rwyf wedi dweud—ddwywaith bellach, rwy'n credu, mewn ymateb i gwestiynau'r Aelod—y gallai pleidlais gyhoeddus, yn rhoi'r gair olaf ar hyn i'r cyhoedd, fod yn ffordd o ddatrys hyn. Buaswn yn cefnogi hynny fel gair olaf. Ond ar ôl galw am gynnal y trafodaethau hyn, a bod Prif Weinidog y...
Jeremy Miles: Yn wir. Wrth ffurfio ei Gabinet newydd, mae Prif Weinidog Cymru, wedi cynnwys portffolio newydd mewn perthynas â chysylltiadau rhyngwladol yn gyffredinol, ac mae rhan o'r portffolio hwnnw'n ymwneud â datblygu cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y byd a gwella ymhellach fyth y gwaith a wnawn mewn perthynas â gwneud Cymru'n ddeniadol fel cyrchfan masnachu.
Jeremy Miles: Mae yna eisoes rwydwaith o bresenoldeb mewn tiriogaethau allweddol ledled y byd. Mae hynny wedi bod ar waith ers peth amser. Yn amlwg, mae wedi'i gryfhau'n ddiweddar. Credwn yn gryf mai'r cysylltiadau masnachu gorau yn y dyfodol i Gymru yw rhai sy'n deillio o gyfranogiad llawn yn undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd, aliniad â'r undeb hwnnw, ac aelodaeth ohono. Ond rydym yn awyddus iawn i sicrhau...
Jeremy Miles: Rydym yn amlwg bob amser yn croesawu marchnadoedd allforio ychwanegol i gynnyrch o Gymru ac felly mae hynny i'w groesawu. Sylwaf fod y symiau allforio a ddisgrifiwyd yn y cyhoeddiad yn sylweddol, ond rhaid imi ddweud hefyd fod defnyddwyr yn Japan yn mynd i orfod bwyta llawer iawn o gig oen a chig eidion i wneud iawn am y cyfyngiadau ar y farchnad y byddem yn eu dioddef o ganlyniad i Brexit.
Jeremy Miles: Tra oeddwn yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, cefais gyfle i gyfarfod â'r ddirprwyaeth o Ganada i'r Undeb Ewropeaidd a chlywed ganddynt yn uniongyrchol am eu profiad yn negodi'r Cytundeb Economaidd a Masnach Cynhwysfawr â'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cael ei ddisgrifio gan sawl un fel rhywbeth syml iawn i'w wneud yn ei hanfod, ond maent hwy'n disgrifio prosiect hynod o...
Jeremy Miles: Nid wyf yn hollol siŵr fy mod yn deall beth oedd safbwynt yr Aelod. Roeddwn wedi meddwl ei fod wedi treulio ymgyrch y refferendwm yn dadlau dros yr hyblygrwydd mwyaf posibl a pheidio â gorfod cydymffurfio â rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd. Ymddengys ei fod bellach yn dadlau dros hynny fel budd cadarnhaol.
Jeremy Miles: Wel, mae'n rhaid imi ddweud na fyddai busnesau ledled Cymru sy'n pryderu am eu hallforion ar ôl Brexit yn rhannu barn yr Aelod. O edrych ar ffigurau Llywodraeth y DU ei hun hyd yn oed, fel y soniais yn gynharach, maent yn dangos bod unrhyw werth ychwanegol posibl i'r economi yn sgil mwy o hyblygrwydd, fel y byddent yn ei ddisgrifio, yn ddim o gymharu â'r ergyd i'r economi o ganlyniad i...
Jeremy Miles: Dengys yr holl dystiolaeth synhwyrol fod manteision economaidd posibl unrhyw gytundebau masnach newydd yn ddim o gymharu ag effaith negyddol cynnydd sylweddol yn y rhwystrau i fasnachu gyda'r UE. Rydym yn parhau i alw am y berthynas economaidd agosaf sy'n bosibl gyda'r UE, fel y nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.
Jeremy Miles: Wel, wrth gwrs, un o'r problemau yw sut y caiff rheolau eu dehongli, ac yn aml, mae ganddynt fwy o ryddid nag y mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Felly, yr her yw sicrhau, wrth inni—. Ein barn ni yw mai'r sefyllfa orau i economi Cymru yw cysondeb rheoleiddiol cyffredinol gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond mae lle o fewn hynny i geisio'r dehongliad mwyaf hyblyg o'r rheolau a ganiateir. O ran...
Jeremy Miles: A gaf fi gymeradwyo sail y cwestiwn gan yr Aelod, mewn gwirionedd, sef y gwerth i Gymru sy'n deillio nid yn unig o'r berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd fel y cyfryw, ond hefyd o ranbarthau a gwledydd ledled yr Undeb Ewropeaidd, a'r gwahanol sefydliadau ledled Ewrop lle y cawn ein cynrychioli? Ac rwy'n ymwybodol o'i waith ef, er enghraifft, ar Bwyllgor y Rhanbarthau ers blynyddoedd lawer. Mae'n...
Jeremy Miles: Rwyf wedi cael trafodaeth ragarweiniol ynglŷn â'r materion hyn gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, a byddaf yn cyfarfod â hi eto yr wythnos nesaf i'w trafod yn fanylach. Rydym eisoes yn gweithredu ein rhaglen i fynd i'r afael â throseddau casineb ac yn ehangu ein gwaith ar gydlyniant cymunedol i geisio lliniaru unrhyw gynnydd mewn troseddau casineb.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth ynghylch y cynnydd sydyn mewn troseddau casineb, sy'n rhywbeth rydym wedi'i drafod yn y Siambr hon yn y gorffennol, ac mae'n gwbl arswydus fod hynny'n codi yng nghyd-destun y dadleuon rydym yn eu cael yn awr. Yn bendant, fe roddaf y sicrwydd y mae'n gofyn amdano y byddwn yn rhoi arwydd clir iawn nad oes unrhyw le i droseddau...
Jeremy Miles: Mae angen inni fod yn ymwybodol bob amser o'r ffordd orau o gyflawni'r amcanion hyn. Ymddengys i mi mai un o'r materion pwysig yw ein bod yn cadw digon o hyblygrwydd i allu ymateb i agweddau ar droseddau casineb sy'n dod i'r amlwg. Yn anffodus, ymddengys ei fod yn un o'r meysydd hynny sydd i'w gweld yn dod o hyd i allfeydd newydd mewn gwahanol gyd-destunau, fel y nodwyd yng nghwestiwn Leanne...