Bethan Sayed: Diolch ichi am y datganiad yma heddiw. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig am y rhan yn y datganiad o ran y gofrestr troseddwyr anifeiliaid yma yng Nghymru, yn arbennig o ystyried eich bod wedi gwneud datganiad heb unrhyw wybodaeth gefndirol inni ynghylch beth ddigwyddodd mewn gwirionedd yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Rwy'n arbennig o siomedig o ddarllen y credwch chi, oherwydd...
Bethan Sayed: 5. A wnaiff y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd ystafelloedd a mannau cyfarfod ar ystâd y Cynulliad? OAQ52357
Bethan Sayed: Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddarparu i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol i gefnogi cynlluniau etifeddiaeth ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf?
Bethan Sayed: Fe wnes i roi'r cwestiwn ger bron oherwydd roeddwn i eisiau erfyn arnoch chi, fel Comisiynydd, i newid y polisi lle mae Aelodau'r Cynulliad dim ond yn gallu bwcio 10 sesiwn ar yr ystâd mewn cyfnod o flwyddyn. Rydw i'n credu bod hyn yn discrimineiddio yn erbyn Aelodau'r Cynulliad sydd yn bod yn proactif yn trefnu digwyddiadau. Er enghraifft, os ydw i yn trefnu 10 digwyddiad a bod Aelod...
Bethan Sayed: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i fenywod yng Nghymru y mae'r heddlu cudd ('spycops') wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol? OAQ52395
Bethan Sayed: Diolch am yr ymateb yna. Y rheswm pam yr oeddwn i'n gofyn y cwestiwn hwn oedd oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn estyn allan at rai o'r menywod o Gymru sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr ymgyrch hon—yr uned sgwad arddangos arbennig o fewn yr heddlu a ymdreiddiodd grwpiau gweithredu, ac yna, yn amlwg, fe wnaeth y swyddogion yr heddlu hynny...
Bethan Sayed: Yr wythnos diwethaf, cwrddais i â Docs Not Cops, a gwn eich bod chithau wedi cwrdd â nhw, fel y mae Mike Hedges. Codwyd y mater hwn yn y cyfarfod llawn rai wythnosau yn ôl ynglŷn â gofyn am ddatganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Mewnfudo 2014. Fe wnaethoch chi ymateb, ond fe wnaethoch chi ymateb yng nghyswllt y polisi presennol yn ymwneud â cheiswyr lloches. Felly, rwyf...
Bethan Sayed: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ar y fframwaith anhwylderau bwyta?
Bethan Sayed: Bûm yn gwneud peth ymchwil, cyn y cwestiwn heddiw, a chyflawnwyd adroddiad gan Ipsos MORI a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ar y grant datblygu disgyblion, ac yn ôl yr adroddiad hwnnw, er bod y grant datblygu disgyblion wedi cyflawni llawer o bethau cadarnhaol, roedd hi'n anodd gweld a wnaed cynnydd o ganlyniad i'r grant datblygu disgyblion ynddo'i...
Bethan Sayed: Diolch i chi am yr adroddiad hwn. Rwyf wedi bod yn ymwneud â'r maes hwn ers amser hir, ynghyd ag ACau eraill, gan fy mod wedi cadeirio Cymru yn Erbyn Cloddio Glo Brig yma yng Nghymru, felly mae hynny'n fy rhoi mewn sefyllfa unigryw o bosibl i siarad am y rhai yn fy ardal i, ond rwyf hefyd yn gwybod cryn dipyn am lo brig mewn ardaloedd eraill. Yn fy ardal fy hun, er enghraifft, mae gennym...
Bethan Sayed: Dim ond i ymhelaethu ar y pwynt hwnnw, nid wyf i'n gwbl argyhoeddedig ei fod mor rhwydd â dweud y dylai'r cwmni rheoli dalu, gan fod rhai o'r cwmnïau rheoli hyn wedi eu cyfansoddi yn y gorffennol o gymdeithasau preswylwyr, ac mae hynny'n golygu, trwy rinwedd trefn a chyfansoddiad y cyrff rheoli hynny, mai'r preswylwyr eu hunain yw'r rhai a fydd yn talu. Felly, er enghraifft, yn Prospect...
Bethan Sayed: Mae David Rees wedi achub y blaen arnaf ynghylch Tata. Hoffwn ofyn am ddatganiad ar y materion o ran Thyssenkrupp, ond hefyd ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei addo eisoes rhwng Plaid Cymru a Llafur. Gwn fod cam 1 wedi mynd rhagddo. Hoffwn i gael sicrwydd ynghylch y camau eraill, ond hefyd, hoffwn ddatganiad cyffredinol a fydd yn dangos inni beth sy'n digwydd o ran cymorth...
Bethan Sayed: Rwy'n credu bod y gyd-fenter, ar yr wyneb, yn ymddangos fel cam cadarnhaol ymlaen ar hyn o bryd, ond mae yna gwestiynau allweddol i'w gofyn i sicrhau ein bod yn symud ymlaen gan graffu'n ofalus. I'r gweithlu y mae ein dyletswydd gyntaf, wrth gwrs—y gweithlu medrus iawn sydd gennym ym Mhort Talbot. Fel y soniais ddoe yn ystod y cwestiynau i arweinydd y tŷ, bydd rhan fawr i Brexit yn...
Bethan Sayed: A gawn ni ddatganiad ar fater pensiynau Dur Prydain, y cafodd gweithwyr eu twyllo ohonynt gan Celtic Wealth Management a'u partneriaid? Rwyf wedi codi hyn gyda'r Prif Weinidog, ond ymddengys ei fod yn osgoi ymateb. Rydym ni'n gwybod nad yw Celtic yn gwmni cyngor ariannol, felly nid ydynt yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac felly nid yw ceisio honni bod yr FCA yn...
Bethan Sayed: Ceisiaf fod yn gryno. [Chwerthin.] Yn eich maniffesto 2011, roedd adran lle'r oedd Llafur yn amlinellu'r hyn yr oeddent am ei wneud i wneud cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn realiti ac arwain at newidiadau sylweddol o ran diwylliant, nid yn unig o fewn y Llywodraeth, ond hefyd yn y sector preifat. Dwi ddim yn teimlo bod hyn wedi'i wneud i lefel ddigon sylweddol. Rwy'n gwerthfawrogi eich...
Bethan Sayed: Diolch. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd mae hi yn bwysig ein bod ni yn dadansoddi sut y mae'r adolygiad hwn yn mynd i ddatblygu ac archwilio rhai o'r materion presennol o ran tai fforddiadwy. Rwyf wedi bod yn awyddus i gydweithredu ar yr agenda tai ehangach gan fy mod yn teimlo bod y Gweinidog tai yn rhannu llawer o'n pryderon ac rwy’n ddiolchgar...
Bethan Sayed: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella ffyrdd o warchod anifeiliaid anwes? OAQ52499
Bethan Sayed: Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn ynglŷn â pha drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael â'r Gweinidog tai ynglŷn â cheisio gwneud tai cymdeithasol a thai cyngor yn fwy adnewyddadwy o ran ynni adnewyddadwy. A fyddai modd i chi, er enghraifft, ddweud bod angen i gynghorau gwneud hyn a hyn o waith i wneud eu tai yn fwy cynaliadwy cyn iddyn nhw gael mwy o arian grant gennych chi fel...
Bethan Sayed: Diolch, ac rwy'n gofyn y cwestiwn hwn oherwydd eich datganiad llafar. Fel y gwyddoch, yn y datganiad hwnnw fe nodoch chi nad ydych yn bwriadu cyflwyno cofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru, ar sail y ffaith nad oes digon o dystiolaeth ar gyfer y DU. Wel, holl bwynt rhoi hyn ar waith oedd creu sylfaen dystiolaeth yn y wlad hon. Gwyddom fod tystiolaeth ryngwladol i gefnogi cofrestr...
Bethan Sayed: Un wythnos. [Chwerthin.]