Lesley Griffiths: Diolch. Yn ein hymgyrch i sicrhau dyfodol wedi’i ddatgarboneiddio, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae ein cyfoeth o adnoddau naturiol yn ein galluogi i elwa o ystod eang o gyfleoedd, o brosiectau mawr megis môr-lynnoedd llanw i gynlluniau cynhyrchu ynni ar raddfa gymunedol.
Lesley Griffiths: Wel, rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau i hyrwyddo buddsoddi ym mhob un o ranbarthau Cymru. Yn y sector ynni adnewyddadwy, rydym yn denu buddsoddiad drwy gynadleddau, drwy arddangosfeydd, megis digwyddiadau holl-ynni ac ynni’r tonnau a’r llanw RenewableUK. Mae’n bwysig iawn fod gennym gwmnïau cadwyn gyflenwi o Gymru ar ein stondinau Llywodraeth Cymru, er mwyn iddynt allu...
Lesley Griffiths: Wel, Lywydd, bydd yr Aelodau’n deall fy mod yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, ac mae hynny’n cynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer Bae Abertawe, o ystyried fy rôl statudol. Fodd bynnag, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael trafodaethau—Ken Skates a minnau—gyda Charles Hendry. Rydym yn cefnogi, mewn egwyddor, y bwriad i ddatblygu...
Lesley Griffiths: Mae gennym nifer sylweddol o brosiectau ynni yn y gymuned yn cael eu datblygu bellach. Rwy’n credu bod gennym oddeutu 11 wrthi’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Byddaf yn cyfarfod â’r Grid Cenedlaethol, os nad yr wythnos nesaf, yr wythnos wedyn, a hwnnw fydd fy nghyfarfod cyntaf, ond fel y dywedais, mae swyddogion wedi cael cyfarfodydd hefyd.
Lesley Griffiths: Diolch. Ers y bore yma, mae 1,198 o hawliadau arwynebedd Glastir i’w prosesu o hyd. Yn 2016, cafodd hawliadau cynllun y taliad sylfaenol eu blaenoriaethu, oherwydd gwerth a nifer sylweddol y busnesau fferm a oedd yn derbyn y taliadau hynny. Erbyn heddiw, mae dros 99.2 y cant o fusnesau fferm wedi cael eu talu, cyfanswm o £220.60 miliwn o gynllun y taliad sylfaenol. Ers mis Ionawr, mae...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych yn hollol gywir—ers i gwestiwn ysgrifenedig, rwy’n credu, gael ei roi i Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae 563 o hawliadau pellach wedi’u talu, ac rwyf wedi egluro’r sefyllfa bresennol i chi heddiw. Rhoesom wybod i ffermwyr y byddai hyn yn digwydd, oherwydd y ffordd roeddem yn gwneud cynllun y taliad sylfaenol ar ôl y newidiadau y llynedd, felly nid wyf yn derbyn bod...
Lesley Griffiths: Rwy’n credu bod Glastir wedi bod yn hynod o lwyddiannus mewn gwirionedd. Yn wir, eleni, gwelsom gynnydd yn nifer y contractau a hawliadau Glastir i’w prosesu. Rwy’n credu ein bod wedi cael 543 o geisiadau Glastir llwyddiannus ychwanegol. Felly, rwy’n credu ei fod wedi bod yn gynllun hynod o lwyddianus. Byddwch hefyd yn deall bod symleiddio polisi amaethyddol cyffredin yr UE yn golygu...
Lesley Griffiths: Diolch. Gallaf, cyn belled ag y gwn, maent eisoes wedi cysylltu â’r holl bobl, a hynny fis neu ddau yn ôl mae’n debyg, i ddweud mai camgymeriad oedd anfon y llythyrau. Mewn perthynas â chael gwybodaeth ynglŷn â phryd y byddant yn cael eu talu, rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt teg iawn. Yn sicr, cefais gyfarfod heddiw gyda staff Taliadau Gwledig Cymru i ddweud y gallant o leiaf gael...
Lesley Griffiths: Arbennig, ysbrydoledig, didwyll, gwych, gwreiddiol, unigryw: pob un yn ansoddeiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio Rhodri yn y cannoedd o deyrngedau i mi eu darllen yn ystod y dyddiau diwethaf, a phob un yn ddisgrifiad cywir ohono. Fe wnes i gwrdd â Julie a Rhodri 20 mlynedd yn ôl yn yr ymgyrch 'Ie dros Gymru'. Yna gweithiais ar ddwy ymgyrch arweinyddiaeth Rhodri yn ôl ym 1998 a 1999, ac...
Lesley Griffiths: In March, I committed the final tranche of the 2014-20 rural development programme to make full use of the current UK Treasury guarantee. However, what is clearly needed is for the UK Government to honour the commitment that Wales would not lose a penny as a result of EU exit.
Lesley Griffiths: Since 2011, we have invested over £217 million in Welsh Government Warm Homes Nest and Arbed schemes, improving the energy efficiency of over 39,000 homes. We are investing a further £104 million over the next four years to improve an additional 25,000 homes.
Lesley Griffiths: Footpath and bridleway maintenance is primarily the responsibility of local authorities. Paths connect communities, provide opportunities for healthy recreation and support tourism. The Welsh Government provides financial support to local authorities to deliver path improvements. This funding has made over 9,000 km of paths easier to use.
Lesley Griffiths: TB is a very complex disease. The information on the dashboard comes directly from our epidemiology team, who are experts on the disease. The dashboard shows the disease situation at a national and regional level and presents data in a visual way to make the information easier to understand.
Lesley Griffiths: Mae ceir trydanol yn cynnig ateb hirdymor posibl o ran gwella ansawdd aer mewn trefi a dinasoedd. Rydym yn cydweithio’n agos â swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru er mwyn asesu’r holl opsiynau ar gyfer gwella allyriadau.
Lesley Griffiths: Progress has been made on the biocontrol of Japanese knotweed using psyllid stocks from Japan. An improved delivery method has resulted in better survival of the psyllids, which is a key development in tackling Japanese knotweed. Further releases of the psyllid are planned later in 2017.
Lesley Griffiths: Diolch. Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella ein safonau amgylcheddol, ac rydym yn cydnabod bod ein hadnoddau naturiol yn hanfodol i ddyfodol Cymru ar ôl gadael yr UE. Mae deddf yr amgylchedd a deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol eisoes wedi rhoi sylfaen gref ar waith sy’n seiliedig ar ymrwymiadau rhyngwladol na fydd yn cael eu heffeithio gan Brexit.
Lesley Griffiths: Ydw, yn sicr, rwyf wedi bod yn cael y trafodaethau hynny, ac rwy’n sicr yn cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â materion sy’n ymwneud â materion pontio yr UE, a Gweinidogion o’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Roedd y cyfarfod diwethaf ar 20 Ebrill. Nid oes un gennym y mis hwn, yn amlwg, oherwydd yr etholiad, a byddwn yn cyfarfod nesaf ar 21 Mehefin. Rydym...
Lesley Griffiths: Diolch.
Lesley Griffiths: Mae’n rhywbeth y gallwn ei ystyried. Mewn gwirionedd, mae rhywbeth ar fy nesg i fyny’r grisiau ynglŷn â llamidyddion. Felly, byddwn yn sicr yn ei ystyried, ac yn amlwg, byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwydiant amaethyddol a’r diwydiant bwyd mewn partneriaeth ag Amaeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Mae yna botensial i ddatblygu garddwriaeth a chyfle wrth i Gymru addasu i Brexit. Rydym yn cydnabod y manteision i iechyd o fwyta ffrwythau a llysiau ac wedi cymryd camau i’w hyrwyddo.