Caroline Jones: Hoffwn ddweud wrth Dawn fod y gofrestr asbestos yn cael ei hadolygu'n flynyddol fel rhan o gydymffurfiaeth a gweithdrefnau statudol, felly credaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn. Yn ôl yr adolygiadau a'r arolygon manwl a gynhelir, y diweddaraf yn 2014, ni chanfuwyd unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos naill ai yn Nhŷ Hywel nac yn y Senedd, nac mewn unrhyw ddeunyddiau adeiladu chwaith....
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Rhaid imi ddatgan buddiant ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd: rwy'n fenyw yr effeithiwyd arni'n annheg gan y newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth, ac yn un o'r menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI). Yn 1995, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd...
Caroline Jones: A wnewch chi dderbyn ymyriad? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Caroline Jones: Wrth gynnal cymhorthfa ym Maesteg, gofynnodd rhieni i mi ynglŷn â chau ysgolion yn eu hardal. Dywedasant nad oedd digon o blant yn byw yn yr ardal leol i lenwi lleoedd yr ysgol fawr newydd sy'n cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot, ac o ganlyniad i hynny, fod plant yn dod o ardaloedd llawer pellach a disgwylir iddynt lenwi'r lleoedd hyn. Roeddent yn bryderus y byddai rhai o'r plant...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru 2016-17, mae gordewdra yn waeth yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ystyrir bod 59 y cant o oedolion dros bwysau, a bod 26 y cant o blant sy'n dechrau yn yr ysgol gynradd yn ordew neu dros bwysau. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant yng Nghymru, ac...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n destun pryder fod gwaith ymchwil a wnaed gan Brifysgol Southampton wedi dangos mai 15 y cant yn unig o ysgolion sy'n darparu dwy awr o ymarfer corff bob wythnos ar gyfer plant rhwng saith ac 11 mlwydd oed, ac mae rhai'n teimlo y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu ag ysgolion, maethegwyr a rhieni i wrthdroi'r cynnydd mewn gordewdra...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol clywed bod ymgysylltu â theuluoedd yn flaenoriaeth i chi, a buaswn hefyd yn hoffi pe baech yn archwilio ffyrdd o gynyddu'r ystod o weithgareddau allgyrsiol. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith yn y maes hwn. Mae 48 y cant o'r disgyblion ym mlynyddoedd 3 i 11 yng Nghymru yn cymryd rhan mewn...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae llwyddiant y fargen ddinesig yn ddibynnol ar seilwaith o'r radd flaenaf, boed hynny'n gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol neu, yn bwysicach, rhwydweithiau telathrebu cyflym iawn sydd wedi'u diogelu ar gyfer y dyfodol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyflwyno band eang gigabit a chyfathrebu symudol 5G ledled rhanbarth bae Abertawe?
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Jane a Jenny am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Rwy'n cefnogi ymdrechion yr Aelodau i dynnu sylw at y mater, ac yn llwyr gefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw. Oherwydd chwiw ein bioleg, mae hanner y boblogaeth yn wynebu her fisol. Oherwydd tlodi, i lawer o ferched ifanc, mae'r her honno'n ymdrech. Mae llawer gormod o ferched ifanc yn colli ysgol oherwydd na allant...
Caroline Jones: Prif Weinidog, y cymorth gorau y gallwn ni ei roi i'r rhai sy'n gadael gofal yw sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i'w paratoi ar gyfer bywyd annibynnol fel oedolyn, sgiliau a addysgir i'r rhain fwyaf ohonom ni gan ein rhieni. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod rhieni corfforaethol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen yn ddiweddarach mewn bywyd i'r...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â'ch datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Er nad oeddwn yn aelod o'r Cynulliad hwn pan gyhoeddwyd adroddiad Ockenden, rwy'n cofio'r sioc a'r dicter a deimlais pan ddysgais am yr hyn yr oedd y bobl hyn wedi ei ddioddef ar ward Tawel Fan. Wrth wrando, hyd yn oed yr wythnos diwethaf, ar y radio ar deuluoedd yn ail-fyw'r...
Caroline Jones: Diolch i chi am hwn ac am eich datganiad cynharach, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cymhlethdodau sy'n ymwneud â mewnblaniadau rhwyll y wain wedi gadael miloedd o fenywod, ledled y byd, yn byw mewn poen cyson, gwanychol a chronig. Felly mae croeso i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o'r defnydd o fewnblaniadau o'r fath. Hoffwn ddiolch i'r Athro Emery a'i dîm am eu hadroddiad....
Caroline Jones: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52125
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau tâl ac amodau teg ar gyfer y gweithlu llywodraeth leol?
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'n siŵr, Port Talbot, yn fy rhanbarth i, yw'r dref neu ddinas fwyaf llygredig yn y DU, gyda lefelau uwch o lawer na'r dinasoedd mwyaf llygredig eraill—bron i ddwywaith cymaint â'r lefelau yn Llundain. Yn anffodus, un o brif achosion y llygredd yw cyflogwr mwyaf yr ardal. Weinidog, beth y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad yw'r diwydiant...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf am ymddiheuro am ailadrodd llawer o'r pethau sydd eisoes wedi cael eu dweud, ond gan fod yr 800 o bobl hyn yn fy rhanbarth i, mae'n bwysig pwysleisio fy mod yn cydymdeimlo â'r bobl hyn sydd wedi colli eu swyddi ac sydd eisiau gwybod yn union beth rydym yn ceisio ei wneud a beth rydym yn bwriadu ei wneud i ddod o hyd i waith arall ar eu cyfer. Mae Abertawe wedi...
Caroline Jones: Prif Weinidog, nid yn unig y mae Port Talbot yn un o rannau tlotaf fy rhanbarth i ond mae hefyd un o rannau tlotaf y DU. Mae'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol hefyd wedi dyfarnu mai Port Talbot yw'r ardal waethaf yng Nghymru ar gyfer symudedd cymdeithasol. Mae hyn er gwaethaf buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae dyfrffordd Port Talbot wedi creu llai na 100 o swyddi, ac rydym ni...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Ychydig dros wythnos yn ôl, roeddwn i'n falch o sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ag aelodau'r gymuned LGBT yng Ngŵyl Pride y Gwanwyn Abertawe. Cafodd y grŵp a oedd gyda mi ddiwrnod gwych hefyd. Rwy'n falch o gefnogi pobl yn bod yr hyn y maen nhw eisiau ei fod heb ofni dial. Dydd Iau yw Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Trawsffobia a...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod cyllideb Cymru yn darparu gwerth am arian?
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi sawl gwaith yn y gorffennol ac rwy'n falch eich bod wedi cyflwyno'r cynllun hwn yng Nghymru. Mae'n helpu i fynd i'r afael ag un o bryderon mawr llawer o'n meddygon teulu gweithgar. Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch yn eich datganiad ysgrifenedig y bydd cynllun Cymru yn cyd-fynd â'r cynllun yn Lloegr cyn belled ag...