Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae hithau a minnau wedi trafod natur rhai o'r posteri a'r cyfathrebiadau yr oedd pleidiau eraill yn eu hyrwyddo yn ystod y refferendwm fel rheswm pam y mae'r newid diwylliant hwn wedi datblygu. Yn sicr, mae'r gronfa bontio Ewropeaidd yn cael ei defnyddio i wneud y mathau o benderfyniadau ynghylch cyllid buddsoddi y cyfeiria atynt yn ei chwestiwn, a...
Jeremy Miles: Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â'u swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU mewn perthynas â chydnabod cymwysterau proffesiynol ar sail gilyddol, gan gynnwys y proffesiynau iechyd. Bydd cyd-Aelodau yn y Cabinet a minnau yn parhau i ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu ac nad effeithir ar weithwyr iechyd proffesiynol sydd...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae hwn yn faes pwysig iawn i'r proffesiwn iechyd a phroffesiynau eraill hefyd—mae gan filfeddygon, gweithwyr cymdeithasol ac athrawon bryderon mewn perthynas â'r maes hwn. Mae'r dull o weithredu sy'n cael ei drafod gyda Llywodraeth y DU yn ymwneud â gosod deddfwriaeth yn y Senedd a fydd yn sicrhau, pe ceid Brexit 'dim bargen' er enghraifft, y bydd...
Jeremy Miles: Wel, yn hollol. Mae'r Aelod yn disgrifio'r sefyllfa—sefyllfa drawmatig iawn i'r unigolion dan sylw—gydag angerdd, a hoffwn ategu ei sylwadau. Rwy'n ymwybodol fod ymateb wedi dod i law mewn perthynas â'r cwestiwn ynglŷn â statws preswylydd sefydlog a'r her i deuluoedd a ofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, ac yn anffodus nid yw hynny wedi mynd â ni gam...
Jeremy Miles: Mae'r Cabinet cyfan wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru drwy Brexit. Mynychais is-bwyllgor y Cabinet ar bontio'r UE ym mis Rhagfyr, lle y cyflwynodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bapur manwl ar baratoi busnesau ar gyfer Brexit, ac rydym yn parhau i ymgysylltu'n agos â busnesau ledled Cymru.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Lansiodd Gweinidog yr economi y porth yn ôl ym mis Medi, rwy'n credu, a phwrpas y porth yw darparu pecyn cymorth diagnostig i fusnesau i gwmpasu'r ystod gyfan o heriau posibl a allai godi yng nghyd-destun Brexit a'u cynorthwyo i fod yn barod ar gyfer byd ôl-Brexit, ac fel y noda'i chwestiwn, un o'r prif faterion sy'n codi yw cwestiynau ynglŷn...
Jeremy Miles: Yn hollol. Un o'r elfennau ar gyfer y gwaith paratoi oedd nodi meysydd lle y gallai nodweddion Cymru—yn y cyd-destun hwn, y nodweddion economaidd—fod ychydig yn wahanol i rannau eraill o'r DU, ac felly maent angen dull penodol o weithredu, ac yn amlwg, mae cael sector busnes sy'n cynnwys sector busnesau bach a chanolig mor fawr yn un o'r agweddau hynny. Yn ogystal â gweithio gyda...
Jeremy Miles: Yn hollol. Yn hollol. Wel, mae hynny'n hollol wir, ac mae hynny'n rhan annatod o'r cyngor sy'n cael ei ddarparu drwy'r porth. Realiti'r sefyllfa yw nad yw llawer o fusnesau'n mynd ati eto i gynllunio ar gyfer canlyniadau Brexit. Mae'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi, wedi galw'n ddiweddar ar fusnesau i sicrhau eu bod yn gwneud popeth a allant i gymryd rhan yn weithredol a mynd ati i...
Jeremy Miles: Llywydd, o ystyried yr anhrefn yn y Senedd yn Llundain, ac wrth i ni aros am ganlyniad y bleidlais ar y cynnig o ddiffyg hyder heno, nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni'n gweithio tuag at un nod unedig yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, gwneud yn siŵr bod buddiannau allweddol Cymru'n cael eu nodi'n glir a'u diogelu. Dyna fu ein prif amcan ers y refferendwm yn 2016. Rydw i'n ddiolchgar i Blaid...
Jeremy Miles: Lywydd, na foed inni fod dan unrhyw gamargraff ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa hon. Nodaf mai un peth na ddywedodd y Prif Weinidog neithiwr, er gwaethaf y grasfa ddifrifol a gafodd, oedd y byddai'n gofyn am ymestyn erthygl 50 i roi lle i anadlu ar gyfer y dull newydd o weithredu yr oedd yn ei gynnig. Yn wir, mae ffigyrau Llywodraeth wedi parhau i ddweud nad oes angen estyniad o'r fath. Yn y...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Rwy'n ymwybodol efallai bod yr holl sôn am Brexit heb gytundeb yn achosi syrffed erbyn hyn. Ond, wrth gloi'r gyfres hon o ddatganiadau y prynhawn yma, rwyf am ganolbwyntio ar yr effaith cyffredinol ar ein heconomi ac ar les pobl Cymru. Bydd Brexit heb gytundeb yn cael effaith negyddol ddifrifol ar weithwyr, ar fusnesau, ar addysg uwch ac addysg bellach ac ar yr economi yng...
Jeremy Miles: Rwy'n gwybod y bydd rhai Aelodau yn diystyru hyn fel codi bwganod, ond i'r rhai hynny sy'n credu bod cyfnod da ychydig rownd y gornel os symudwn ni i delerau Sefydliad Masnach y Byd, gadewch imi ddyfynnu Llywydd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, John Allan, a ddywedodd yr wythnos diwethaf: Mae'r syniad mai ni yw'r unig genedl o bwys ar y ddaear sy'n gweithredu dim ond ar delerau Sefydliad...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n gresynu at y difaterwch a'r optimistiaeth debyg i Pollyanna yn nhôn yr hyn y mae'r Aelod wedi'i gynnwys yn ei gwestiynau. Os yw'n credu bod economi sydd 2 y cant yn llai nag y byddai wedi bod fel arall yn unrhyw beth heblaw newyddion drwg i bobl Cymru, yna bydd yn canfod na fydd llawer o bobl yng Nghymru yn cytuno â'r safbwynt hwnnw, oherwydd, er ein bod ni'n trafod pethau yn y...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Y math o gefnogaeth ar gyfer addysg yw'r math o gefnogaeth ar gyfer y sector addysg y mae Llywodraeth Cymru wedi'i hamlinellu yn ei dogfennau polisi seiliedig ar dystiolaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oes cysylltiad â'r math o gymorth y mae Llywodraeth y DU yn ei ragweld yn y datganiad gwleidyddol nac unrhyw beth arall y maen nhw wedi'i wneud, ac rwy'n gwybod bod y...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran y gronfa rhannu ffyniant, fel y bydd yn gwybod, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir na ddylai Cymru dderbyn ceiniog yn llai o ganlyniad i Brexit ac y dylai'r holl benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyllid rhanbarthol, fel y mae, aros yn nwylo Llywodraeth Cymru. Y tro diweddaraf i mi wneud y pwyntiau hynny wrth yr...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Soniodd am y sector dur a'r sector moduron, ond ceir hefyd y diwydiant awyrofod, peirianneg uwch—mae pob un o'r sectorau hyn yn sectorau a fydd yn dioddef oherwydd rhwystrau tariff a di-dariff. Felly, yr ateb byr i gwestiwn yr Aelod yw, yng nghyd-destun ymadael heb gytundeb ac yng nghyd-destun cytundeb y Prif Weinidog, nid oes sicrwydd y gellir ei...
Jeremy Miles: A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau yna? Mae e'n taro'r hoelen ar ei phen, onid yw, pan ddywed bod cefnogwyr Brexit yn rhy aml yn bobl na fyddan nhw mewn unrhyw berygl o ran y naill ganlyniad na'r llall, pan fo'u hadnoddau a'u cyfoeth a'u hunan-ddiogelwch yn eu rhoi mewn sefyllfa, beth bynnag fydd y canlyniad, sydd yn gwestiwn o fodelu ariannol ac yn gwestiwn o symud eich asedau o un lle...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Cyn dechrau, rwyf am ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am y tri adroddiad yn edrych ar baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. A diolch, hefyd, am y cyfle i ymateb i’r drafodaeth hon. Rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, yn ein hymateb ffurfiol, wedi derbyn pob un o'r argymhellion ym mhob un...
Jeremy Miles: Rwy'n falch, felly, i allu dweud ein bod ni'n gweithio'n ddygn yn y maes hwn, a'n bod ni'n weddol ffyddiog na fydd tarfu ar ein porthladdoedd yn arwain at broblemau difrifol ar ein rhwydwaith ffyrdd. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn lleihau'r risg y bydd anhrefn ar y ffin yn effeithio'n andwyol ar ein busnesau a'n dinasyddion, gydag anhrefn posib yn Dover yn fygythiad mwy difrifol o lawer yn hyn o...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Mae digwyddiadau neithiwr yn Nhŷ’r Cyffredin yn hytrach nag egluro materion wedi cymhlethu pethau ymhellach. Wrth gwrs, rŷm ni’n croesawu’r ffaith fod Tŷ’r Cyffredin wedi dweud yn glir nad yw ymadael heb gytundeb yn ganlyniad derbyniol i’r trafodaethau Brexit, safbwynt a fynegwyd gan y Cynulliad hwn bythefnos yn ôl, sy’n dangos grym penderfyniadau yn y...