Lesley Griffiths: Ie, credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ac wrth inni ystyried Brexit, nid yw’n ddu i gyd—mae cyfleoedd i’w cael. Credaf mai un o’r cyfleoedd yw y gallem, o bosibl, edrych ar wahanol ddefnyddiau posibl ar gyfer tir, os mynnwch, ac rydym wedi dechrau cwmpasu’r gwaith hwnnw. Yn amlwg, penderfyniad y tirfeddiannwyr yw’r hyn y dymunant ei wneud gyda’u tir, ond credaf fod cyfle...
Lesley Griffiths: Yn sicr nid oes rhaid inni aros tan ar ôl Brexit—dyna lle roeddwn yn siarad yn benodol am y gwaith a wnawn wrth edrych ar ddefnyddio tir mewn ffordd wahanol. Yn sicr, rydym wedi bod yn edrych ar y drefn gaffael bresennol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hynny. Mae gennyf Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, ac yn amlwg, cynllun gweithredu’r diwydiant bwyd a diod, a chredaf fod hynny’n...
Lesley Griffiths: Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud lawer gwaith na allaf ddychmygu adeg pan nad oes angen i ni gynorthwyo ein sector amaethyddol. Yn amlwg, lansiwyd y maniffesto, roedd pennod bwysig yn y maniffesto ynglŷn ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd, ar draws fy mhortffolio. Rydym wedi dweud o’r dechrau na wyddom pa gyllid a fydd gennym ar ôl Brexit, ond os cofiwch, yn ystod yr ymgyrch ar gyfer...
Lesley Griffiths: Mae hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid edrych arno. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â Llywodraeth y DU, ac rwyf wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr i sicrhau ein bod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen ag ansawdd aer. Gwyddoch fod hynny’n flaenoriaeth bersonol i mi. Credaf ei fod yn bwysig iawn, ac rwyf wedi ysgrifennu at DEFRA yn ddiweddar yn ei gylch. Byddwch yn gwybod bod...
Lesley Griffiths: Mewn gwirionedd, cefais drafodaeth ynglŷn â hyn y bore yma gan fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno. Ar lefel bersonol, rwy’n gwneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gosod rhai pwyntiau gwefru cyn gynted ag y bo modd. Yn anffodus, am sawl rheswm nad wyf am eich diflasu â hwy, staff yn unig fydd yn gallu eu defnyddio i gychwyn, ond credaf ei fod yn bwysig iawn. Byddwch yn...
Lesley Griffiths: Nid wyf yn siŵr am bolisïau penodol, ond rwy’n sicr wedi eu cefnogi’n ariannol. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r buddsoddiad sylweddol rydym wedi’i roi i ffermwyr ifanc. Er enghraifft, mae gennym yr Academi Amaeth, sy’n llawn o ffermwyr ifanc, dynamig sy’n barod iawn i roi cymorth i mi wrth lunio polisïau ar gyfer y dyfodol, ac rwyf wedi eu cyfarfod yn rheolaidd. Rwyf hefyd wedi...
Lesley Griffiths: Gall hynny fod yn rhan o’n rhaglenni. Fe fyddwch yn gwybod am y grantiau busnes i ffermydd a gyflwynwyd gennym. Maent ar gael nid yn unig i ffermwyr ifanc, ond i bob ffermwr, a phan gawsant eu lansio’n ddiweddar, gwn fod ffermwyr ifanc wedi dweud wrthyf eu bod yn llawer o gymorth iddynt, oherwydd os oeddent yn awyddus i gael darn o gyfarpar na allent ei fforddio, nid oedd yn rhaid iddynt...
Lesley Griffiths: Nid wyf yn gyfarwydd â’r ffigurau hynny. Nid wyf yn siŵr a oeddech yn dweud mai ffigurau DEFRA oeddent, gan nad wyf yn credu bod hynny’n wir yng Nghymru—y gostyngiad sylweddol hwnnw. Nid wyf yn hoffi’r gair ‘argyfwng’. Rwy’n deall ei bod yn anodd iawn i ffermwyr ifanc os nad ydynt yn rhan o deulu sy’n ffermio—os ydynt yn awyddus i ddod i mewn i’r byd ffermio o’r...
Lesley Griffiths: Wel, rwyf wedi rhoi’r sicrwydd hwnnw i ffermwyr. Rwyf wedi bod yn y swydd hon ers blwyddyn bellach, ac yn sicr, rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn na allwn ragweld adeg pan na fydd angen y cymorth hwnnw ar ein sector amaethyddol. O ran sut olwg fydd ar gynllun y taliad sylfaenol ar ôl Brexit, fel y dywedais, mae hynny’n dibynnu ar y cyllid a gawn, ond fel chithau, credaf y dylem gael pob...
Lesley Griffiths: Wel, rwy’n ceisio ystyried y gwydr hanner llawn, yn hytrach na’r gwydr hanner gwag, felly rwy’n ceisio gwneud yn fawr o’r cyfleoedd y credaf eu bod yno pan fyddwch yn chwilio amdanynt. Roeddwn yn angerddol o blaid aros yn yr UE, ac ni fydd unrhyw beth yn gwneud i mi gredu bod gadael, bod Brexit yn dda i ni, ond mae’n rhaid inni chwilio am y cyfleoedd hynny. Roedd rheoliadau yn un...
Lesley Griffiths: Cyn i mi sôn am unedau cwarantin, i nodi eich pwynt cyntaf ynglŷn â hygyrchedd, yn sicr, rwy’n awyddus i gael y trafodaethau hynny gyda’r sector ac un o’r rhesymau pam y sefydlais y grŵp rhanddeiliaid yn syth ar ôl y refferendwm fis Mehefin diwethaf—credaf inni gyfarfod am y tro cyntaf ar 4 Gorffennaf—oedd er mwyn sicrhau ein bod yn dod â’r sector amaethyddol a sector yr...
Lesley Griffiths: Diolch. Er bod ansawdd aer yng Nghymru yn gwella, mae ambell i ardal yn parhau i beri problemau. Wrth i ni weithio i gwblhau fframwaith parth aer glân newydd i Gymru, caiff pob sector a phob corff cynrychiadol—yn enwedig yn y sector preifat—eu hystyried yn rhanddeiliaid gweithredol. Bydd eu hymgysylltiad â’r gwaith hwn yn hanfodol.
Lesley Griffiths: Mae iechyd pobl ac amgylchedd Cymru yn mynd law yn llaw ac rwyf wedi ymrwymo i ddiogelu pobl ac amgylchedd Cymru. Mae fy swyddogion, a swyddogion iechyd yn sicr, ac yn enwedig swyddogion y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd, ac rydym wedi adolygu’r canllawiau newydd, y gwyddoch amdanynt mae’n siŵr, ar reoli ansawdd yr aer yn lleol. Rydym yn...
Lesley Griffiths: Fel y dywedwch, mae angen i ni wneud cryn dipyn o waith ar hyn, a byddwch wedi fy nghlywed yn dweud bod hyn yn flaenoriaeth i mi. Gwyddoch ein bod wedi cael ymgynghoriad yn ddiweddar, ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod, yn gyffredinol, yn cefnogi’r camau rydym yn eu cymryd. Rydym yn ailadrodd pwysigrwydd lleihau cysylltiad y cyhoedd â llygredd aer drwy sicrhau bod crynodiad cyfartalog...
Lesley Griffiths: Diolch. Nod Llywodraeth Cymru yw atal sbwriel rhag cael ei ollwng yn y lle cyntaf. Rydym yn cefnogi ac yn ariannu ystod o raglenni sy’n canolbwyntio ar addysg, gwella camau gorfodi, ac ymgysylltiad a chyfranogiad y gymuned. Trwy annog pobl i ymfalchïo yn eu hamgylchedd, byddwn yn sicrhau gwelliannau a fydd yn para’n hirach.
Lesley Griffiths: Rwy’n siŵr y bydd y rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr yn gyfarwydd â’r hyn a ddywedwch. Mae ein bagiau post yn aml yn llawn cwynion o’r fath, ac rwy’n sicr yn llongyfarch Sir Benfro ar gael y strydoedd glanaf, ac mae’n bwysig iawn fod yr arferion gorau hynny’n cael eu rhannu. Byddwch yn gwybod am y sawl cynllun sydd gennym. Rydym yn cefnogi Cadwch Gymru’n Daclus, er...
Lesley Griffiths: Yn sicr, credaf fod angen inni leihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir, ac roeddwn yn arswydo wrth weld—prynodd fy merch rywbeth gan gwmni adnabyddus iawn nad wyf am eu henwi, a chredaf fod yr eitem oddeutu’r maint hwn ac roedd y deunydd pacio’n gwbl enfawr, a gwnaeth hynny i mi gysylltu â swyddogion ar unwaith i’w hatgoffa bod hyn yn rhywbeth y credaf fod gwir angen inni ei...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae defnydd gwell a rheolaeth well ar ein cyfoeth o adnoddau naturiol, ynghyd â defnydd mwy effeithlon o’r adnoddau sydd mewn cylchrediad, yn elfen allweddol o’n dull economi gylchol a’n hymrwymiad i dwf gwyrdd a lleihau ôl troed ecolegol Cymru.
Lesley Griffiths: Ie, rwy’n cytuno â’r datganiad hwnnw. Yn sicr, roeddwn yn edrych ar lwybr beicio yn fy etholaeth yn Wrecsam a dôi i ben yn ddisymwth; nid oedd yn parhau. Felly, tybed beth fyddai rhywun yn ei wneud wrth feicio ar hyd y llwybr—i ble y byddent yn mynd? Felly, credaf fod angen i bob awdurdod lleol edrych yn ofalus iawn ar eu darpariaeth ar gyfer beicwyr, a gwneud popeth yn eu gallu i’w...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am asesu perygl llifogydd o afonydd a’r môr. Mae’r cynllun rheoli perygl llifogydd lleol yn nodi ymhellach sut y bydd risgiau’n cael eu rheoli. Cwblhawyd cynllun gwerth £7 miliwn ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn 2015, gan leihau’r perygl i Gwm Tawe isaf yn sylweddol.