Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i bob Aelod sy'n rhan o gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel yr amlygwyd gan y cynnig, mae canser y coluddyn yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Dyma'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn y DU, gydag un o bob 14 o ddynion ac un o bob 19 o fenywod yn datblygu'r canser yn ystod eu hoes. Mae bron i 16,000 o bobl yn marw o ganser y coluddyn yn y DU bob blwyddyn, a gellid atal...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penodwyd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru i'r bwrdd cyfiawnder troseddol cenedlaethol ac mae wedi addo brwydro i gael plismona wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ddweud bod yr amser yn iawn a bod y polisi yn cael ei gefnogi gan bob comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru. A ydych chi'n cefnogi'r safiad hwn a gymerwyd gan eich...
Caroline Jones: Diolch.
Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Ers eu creu, mae cyllideb y comisiynwyr heddlu a throseddu wedi cynyddu'n aruthrol. Yn wir, mae gan gomisiynydd heddlu a throseddu Llafur de Cymru gyllideb o £1.3 miliwn a 28 aelod o staff, yn ogystal â dirprwy gomisiynydd. Felly, mae hyn wedi golygu cynnydd o 40 y cant i'r gyllideb a dwbl y nifer o staff, ac eto, yn y tair blynedd diwethaf, bu cynnydd o...
Caroline Jones: Diolch. Roedd swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu i fod i ddod ag atebolrwydd lleol i wasanaeth yr heddlu, ond mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru wedi ymddieithrio yn y bythau pleidleisio, a phrin y mae'r ffigurau yn cyrraedd ffigurau dwbl pan fydd pobl yn pleidleisio dros gomisiynwyr heddlu a throseddu. Bydd etholiadau mewn llai na dwy flynedd, felly beth y...
Caroline Jones: Ie, mae hynny'n wir, ond pe byddai hyn yn cael ei ddatganoli.
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ehangach ymysg cyflawniadau mwyaf y sefydliad hwn. Dylai'r Ddeddf Arolygu Gofal Cymdeithasol sicrhau na all y cam-drin ofnadwy a ddatgelwyd gan Operation Jasmine fyth ddigwydd eto. Rydym yn sicrhau bod gan bawb sy'n gweithio yn y...
Caroline Jones: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae polisi gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru'n cefnogi pobl anabl? OAQ52233
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, bythefnos yn ôl, rhybuddiodd cyn-bennaeth gwasanaeth gwrth-dwyll y GIG nad oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â thwyll yn ein GIG, a bod cymaint â £200 miliwn y flwyddyn, neu 3 y cant o'r gyllideb, yn cael ei golli oherwydd twyll. Mae graddfa'r broblem yn warthus o ystyried, bob blwyddyn, ein bod yn colli swm sy'n cyfateb i ddwywaith a...
Caroline Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ffaith nad oes unrhyw oddefgarwch tuag at dwyll yn y GIG yng Nghymru. Y mis diwethaf, dyfarnwyd dau gyn-weithiwr meddygfa yng Nghasnewydd yn euog o ffeilio presgripsiynau yn dwyllodrus a gorchmynnwyd iddynt ad-dalu miloedd o bunnoedd i'r GIG. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau pellach y gellir eu cymryd i atal y math hwn o...
Caroline Jones: Rwy'n falch o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y gorffennol, rwyf wedi codi mater twyll mewn perthynas â chardiau yswiriant iechyd Ewropeaidd, ac ar y pryd, dywedasoch nad oeddech yn credu bod hynny'n effeithio ar ein GIG. Fodd bynnag, dangosodd newyddiadurwyr a oedd yn gweithio i bapurau newydd cenedlaethol pa mor hawdd oedd cael cerdyn yn enw rhywun arall. Cafwyd cardiau yn enw...
Caroline Jones: Diolch i chi, Weinidog. Fel y byddwch yn ymwybodol, mae un o fy etholwyr, Paul Davies, paralympiad ysbrydoledig, yn brwydro i hyfforddi ar gyfer Tokyo 2020 oherwydd diffyg cefnogaeth gan adran gwasanaethau cymdeithasol ei awdurdod lleol. Oni bai bod Paul yn cael y cymorth y mae ei angen i fynychu sesiynau hyfforddi, ni fydd yn ennill lle yn y tîm, ac nid yn unig y bydd Cymru'n colli un o'i...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad a'r 7,171 o bobl a lofnododd y ddeiseb ynghylch trwydded forol 12/45/ML. Fel y deisebwyr a miloedd o bobl eraill ledled Cymru, rwy'n pryderu'n fawr am y cynlluniau gan y cwmni ynni niwclear Ffrengig i ollwng gwaddodion arbelydredig oddi ar ein glannau. Mae arfordir de Cymru yn ecosystem bwysig iawn—mae'n gartref i amrywiaeth eang o...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r cynlluniau ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a'r gororau yn addawol iawn ac yn arwydd eglur o'r hyn sy'n bosibl trwy bartneriaeth cyhoeddus-preifat wirioneddol. Ni allai'r buddsoddiad a fydd yn cael ei wneud yn ein rhwydwaith rheilffyrdd dros y degawd nesaf gael ei gyflawni gan y sector cyhoeddus yn unig. Bydd y newid byd mwyaf yn y de-ddwyrain, gyda'r...
Caroline Jones: Diolch yn fawr iawn. Diolch am nodi sut y bydd Cymru gyfan yn elwa. Gan aros gyda'r fasnachfraint newydd, rwy'n falch o weld yr ymrwymiad i gadw toiledau ar yr holl drenau presennol, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gwbl hygyrch. Ychydig iawn oedd yn natganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet am hygyrchedd gwasanaethau rheilffyrdd ac eithrio ar fetro'r de-ddwyrain. Mae'n rhaid i ni roi...
Caroline Jones: Diolch am hynna, Prif Weinidog. Mae deiliaid y fasnachfraint newydd, KeolisAmey, wedi nodi y bydd hanner yr holl drenau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, a gofynnaf: a fyddan nhw'n cael eu hadeiladu gyda dur Cymru? Gyda thariffau gweinyddiaeth Trump ar ddur, mae'n debygol y bydd gwaith dur Port Talbot yn colli 10 y cant o'i fusnes, ac ar ôl troi cefn ar drydaneiddio i Abertawe, a'r...
Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r manteision a fydd yn dod i deithwyr yng Ngorllewin De Cymru o ganlyniad i'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd?
Caroline Jones: Yn ôl y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, mae bron draean o'r holl raddedigion, a dwy ran o dair o'r rhai sy'n astudio'r gyfraith, yn mynd i swyddi sy'n talu llai nag £20,000 y flwyddyn, ac er bod graddedigion yn llai tebygol o fod yn ddi-waith, mae llawer ohonynt yn y pen draw yn gweithio mewn sectorau lle mae eu gradd yn amherthnasol. Rhaid inni sicrhau nad yw'r costau sy'n...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, roedd rhai sylwadau yn y cyfryngau ynghylch carcharorion o Loegr yng ngharchardai Cymru. Fel rheol, ni fyddwn yn codi hwn fel mater gan nad yw'r mater o garchardai wedi ei ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, honnir bod y sylwadau hyn wedi dod gan aelod o'ch Llywodraeth. Credir bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau...
Caroline Jones: Diolch am egluro hynny, Prif Weinidog. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn briodol, nid oes gennym ni garchar i fenywod yng Nghymru a dim un carchar categori A. A dweud y gwir, mae'r carchardai yng Nghymru wedi eu gorlenwi'n ddifrifol. Mae gan Gymru 4,747 o garcharorion a chapasiti gweithredol o ddim ond 3,700 ar draws y pum carchar. Felly, mae nifer fawr o garcharorion o Gymru wedi eu...