Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad yn esbonio penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i fynychu Ffair Arfau Ryngwladol Offer Amddiffyn a Diogelwch. Dywedodd y Prif Weinidog yn 2019 y byddai'n adolygu presenoldeb y Llywodraeth yn y digwyddiad hwn, ar ôl i Leanne Wood alw ei chyfranogiad yn 'wrthun', ond adroddodd y BBC yr wythnos hon y byddai Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y digwyddiad eleni....
Delyth Jewell: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd sylweddol mewn prisiau nwy a'r cynnydd cydamserol mewn prisiau ynni ar ddefnyddwyr Cymru? TQ565
Delyth Jewell: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am godi'r mater pwysig yma. Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am gomisiwn cyfansoddiadol ers peth amser. Ein syniad ni oedd comisiwn yn ymgynghori â dinasyddion ynglŷn â'r gwahanol opsiynau cyfansoddiadol am ein dyfodol fel cenedl. Nawr, Gweinidog, dyw cylch gorchwyl comisiwn y Llywodraeth heb ei gyhoeddi eto, felly rwy'n credu bod hwn yn amser...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog, a diolch, Lywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol hwn. Mae'r argyfwng hwn yn fyd-eang ei natur wrth gwrs, ond mae'r DU mewn sefyllfa arbennig o beryglus oherwydd cronfeydd nwy anarferol o isel, colli'r rhyng-gysylltydd IFA, gan lesteirio ein gallu i fewnforio trydan o Ewrop, a chynhyrchiant ynni gwynt ar lefel is na'r arfer. Rydym yn gweld argyfwng yn digwydd o fewn llawer o...
Delyth Jewell: Mae Cymru a'r Senedd hon wedi cyhoeddi argyfyngau hinsawdd a natur, ond mae'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i ategu'r brys a'r argyfyngau—mae'r llywodraethu amgylcheddol, targedau adfer natur, targedau aer glân—i gyd ar goll, Dirprwy Lywydd. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar y materion hyn, ac rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai'r Senedd hon yw'r corff priodol ac angenrheidiol...
Delyth Jewell: Mae ein tirweddau'n gwisgo creithiau gorffennol Cymru. Pennau pyllau, traphontydd yn dadfeilio, pontydd sy'n arwain at unman, a thomenni glo sy'n staenio ochrau ein mynyddoedd, tomenni o gyfnod o huddygl a thwrw, o danau gwyllt dan ddaear, a bywydau wedi'u claddu yn y pridd. Talodd ein Cymoedd yn hir ac yn galed am ysbail cloddio am lo, ac mae'n wallgof meddwl, Dirprwy Lywydd, na chafodd...
Delyth Jewell: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y rheoliadau diogelwch yn y gweithle y disgwylir i gyflogwyr yn Nwyrain De Cymru eu dilyn? OQ56929
Delyth Jewell: Diolch am eich ateb cychwynnol, Weinidog. Cefais lythyr gan undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn mynegi, ac rwy'n dyfynnu, 'pryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch yn cael ei beryglu gan reolwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghasnewydd, gan roi staff a hawlwyr mewn perygl yng nghanolfan waith Casnewydd mewn modd byrbwyll'. Mae'r llythyr yn nodi cyfres o faterion pryderus,...
Delyth Jewell: Mae amseroedd aros ambiwlansys yn y de-ddwyrain yn destun pryder mawr, Weinidog, a chaiff hyn ei ddwysáu gan amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae ffigurau a ryddhawyd yr wythnos hon yn dangos mai ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân sydd wedi perfformio waethaf, yn anffodus, o bob ysbyty yng Nghymru, gyda dim ond pedwar o bob 10 claf yn cael eu gweld o fewn pedair awr yno. Mae...
Delyth Jewell: Mae'r meddwl dynol yn beth gwerthfawr a bregus. Rydym yn byw gyda'n hatgofion a phan gânt eu dwyn oddi wrthym a chyflwr fel dementia yn gafael, gall fod yn greulon ac yn wanychol. Fel y clywsom, amcangyfrifir bod 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, ond mae'n effeithio nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd cyfan sy'n gorfod ymdopi â galar a cholled bob dydd, er bod eu...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y gwelliannau hynny.
Delyth Jewell: Pan ddatganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yn 2019, roedd llawer ohonom yn disgwyl gweld gweithredu radical, ac mewn rhai meysydd polisi rydym wedi gweld uchelgais cryf mewn perthynas â chartrefi, ynni, coedwigaeth—mae'r rhestr yn parhau—i gyd wedi'i glymu gyda'i gilydd gan darged sero-net beiddgar ar gyfer 2050, ond gwyddom i gyd fod angen uchelgais mwy radical, a mwy o...
Delyth Jewell: Wrth i ni nesáu at COP26, hoffwn i gael datganiad ynghylch yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i ymdrin â'r pryder hinsawdd y mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn ei deimlo. Arweiniais i ddadl ar y mater hwn ym mis Mehefin, Trefnydd, ac rwyf i'n awyddus iawn i ni weld cynnydd. Gwnaeth astudiaeth gan Brifysgol Caerfaddon ddarganfod bod 56 y cant o bobl ifanc yn credu ei bod hi ar ben ar...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Cyfres o gwestiynau ffeithiol sydd gen i yn unig fan hyn, Llywydd, nid araith. Dydy'r pwyllgor heb drafod y mater hwn ymhlith ein gilydd, a buaswn i eisiau pwysleisio hynny. Mae hyn yn faes, yn amlwg, fydd o ddiddordeb mawr i nifer o sefydliadau diwylliannol a chwaraeon. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pan fydd yn ymateb i'r ddadl yma i amlinellu'r cymhelliant dros gyflwyno'r...
Delyth Jewell: [Anghlywadwy.]
Delyth Jewell: Weinidog, hoffwn eich holi yn gyntaf ynglŷn â llywodraethu amgylcheddol. Mae Environmental Standards Scotland wedi cychwyn ar eu rôl statudol fel corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol. Mae'r Alban hefyd wedi rhoi egwyddorion amgylcheddol craidd ar waith, gyda dyletswyddau a chanllawiau cysylltiedig, a disgwylir i Fil Amgylchedd San Steffan gael ei basio yn yr hydref gyda swyddfa...
Delyth Jewell: Iawn. Edrychaf ymlaen at glywed y datganiad hwnnw pan ddaw.
Delyth Jewell: Byddaf i'n gofyn y cwestiwn nesaf yn Gymraeg, Weinidog. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rŷn ni wedi gweld ymrwymiadau pwysig ar gyfer natur ar lefel y Deyrnas Unedig trwy addewid yr arweinwyr dros natur, y Glymblaid Uchelgais Uchel dros Natur a Phobl, a chompact natur G7 2030. Mae'r ymrwymiad i amddiffyn 30 y cant o dir a môr ar gyfer natur erbyn y flwyddyn 2030. Mae hynny'n garreg filltir...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Yn amlwg, mae gwneud ymrwymiadau o'r natur hon, maent yn symbolaidd, felly mae cymaint o'r egwyddorion hyn sy'n sail i'r ymrwymiadau'n hanfodol bwysig, felly nid wyf am ymddiheuro am alw arnoch i wneud ymrwymiad arall yn fy nghwestiwn olaf, sy’n ymwneud, mewn gwirionedd, â'r datganiad o argyfwng natur a wnaethom fel Senedd ym mis Mehefin, rhywbeth yr oedd pob un ohonom...
Delyth Jewell: Mae'n siŵr y dylai hapusrwydd plant fod yn un o'r metrigau y mae unrhyw Lywodraeth neu gymdeithas o ddifrif yn eu cylch. Nawr, nid yw bob amser yn hawdd mesur hapusrwydd na nodi sut y mae bodlonrwydd yn amlygu ei hun, ond pan fydd patrymau'n datblygu ac yn dal eu gafael, mae'n rhaid i bob un ohonom gymryd sylw. Y llynedd, cyhoeddwyd astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a oedd wedi cyfweld â...