Caroline Jones: Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno, er budd diogelwch staff a charcharorion o ran hunan-niweidio, bod angen gwneud rhywbeth ynghylch nifer y staff hefyd—i'r nifer staff gael ei gynyddu er mwyn darparu amgylchedd diogel ac er mwyn helpu gydag adsefydlu ac i atal aildroseddu. Felly, ni waeth pwy sy'n gyfrifol am garchardai, mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe hoffwn i ddweud ar y cychwyn fod fy mhlaid i’n cefnogi’r hyn yr ydych chi'n ei amlinellu yn y cynllun hirdymor. Efallai nad wyf i bob amser yn cytuno â rhai o'ch penderfyniadau na bob amser yn cefnogi'r ffordd rydych chi wedi dewis gwneud y penderfyniadau hynny, ond rwy’n cytuno bod yn rhaid i bethau newid, ac mae rhaid iddyn nhw...
Caroline Jones: Bydd UKIP yn ymatal ar yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Yn wir, byddwn yn ymatal ar bob un o'r gwelliannau ger ein bron heddiw, fel y gwnaethom ni yng Nghyfnod 2. Meddyliais yn hir ac yn ddyfal ynglŷn â pha un a ddylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil ai peidio. Roeddwn i wedi ystyried cyflwyno gwelliannau tebyg iawn i'r rhai a gynigir gan Angela a Rhun, ond yn y diwedd penderfynais beidio...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cytunaf yn llwyr gyda'r cynnig ger ein bron, ac nid yw fy ngwelliant ond yn ceisio tynnu sylw at y cyfraniad amhrisiadwy y mae byddin Cymru o ofalwyr di-dâl yn ei wneud. Byddai'n rhaid i ni fwy na dyblu ein holl gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol oni bai am y miloedd o bobl sy'n gofalu am rywun...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU dros y penwythnos y byddai anrheg pen-blwydd o £20 biliwn y flwyddyn i'r GIG yn Lloegr. O ganlyniad i Barnett, disgwylir i Gymru gael £1.2 biliwn. Ddydd Sul, dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru y byddai penderfyniad ar ddyraniad cyllid yn cael ei wneud gan eich Cabinet chi yn y ffordd arferol. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi...
Caroline Jones: Diolch am yr ateb yna. Fy mhryder yn y fan yma yw bod problemau iechyd meddwl yn cynrychioli tua chwarter yr holl broblemau iechyd, ac eto rydym ni'n gwario cyn lleied â dros 11 y cant o gyllideb gyfan GIG Cymru. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 100 y cant i'r galw am wasanaethau gofal iechyd meddwl plant a'r glasoed. Rydym ni'n gwybod bod iselder yn effeithio ar 22 y cant o ddynion a 28 y...
Caroline Jones: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel yr wyf i wedi ei amlygu o'r blaen, lawer gwaith, bydd un o bob pedwar ohonom ni'n dioddef o salwch meddwl. Gallai ffrind neu gydweithiwr fod wedi bod yn ymladd iselder ers blynyddoedd—ni fyddem ni'n gwybod am y peth, oherwydd, yn anffodus, mae stigma ynghlwm wrth broblemau iechyd meddwl o hyd. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn fwy agored am iechyd...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am ddarparu copi ymlaen llaw o 'Gynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig: Adroddiad Blynyddol 2017/18'. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau a bod cynnydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae'r gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac adroddiadau interim y cynllun...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig yn ffurfiol y ddau welliant a gyflwynwyd yn fy enw, a hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel y gallwch weld o fy ngwelliannau, cytunaf â 99 y cant o gynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Ni allaf gefnogi rhoi triniaeth flaenoriaethol i staff y GIG, ac er fy mod yn cydymdeimlo â'r angen i gael staff yn ôl ar y rheng...
Caroline Jones: Gwnaf.
Caroline Jones: Angela, rwy'n derbyn eich pwynt, ond am y rhesymau y tynnais sylw ar y cychwyn ni allaf dderbyn eich—roedd yn rhaid i fi gynnwys fy ngwelliant. Felly, mae'n ddrwg gennyf. Diolch. Mae'r prinder nid yn unig yn cyfrannu at amseroedd aros hirach i gleifion, mae hefyd yn rhoi staff presennol o dan straen anhygoel, ac mae un o bob tri meddyg teulu yng Nghymru'n teimlo eu bod dan gymaint o...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn ofnadwy i stryd fawr Cymru, gyda nifer o fanwerthwyr mawr yn cyhoeddi y bydd eu siopau yn cau. Mae Mothercare yn cau 50 o siopau ledled y DU, gan gynnwys ei gangen yng Nghasnewydd. Mae New Look yn cau 60 o siopau, gan gynnwys ei siopau yng Nghaerdydd, Trefynwy, y Rhyl a Phont-y-pŵl. Cyhoeddodd Carphone Warehouse ei fod yn cau...
Caroline Jones: Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud, Brif Weinidog, ond, dros y penwythnos, amlinellodd arbenigwyr manwerthu faint y broblem sy'n wynebu siopau adrannau Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad gan House of Fraser a'r newyddion y byddai siop Herbert Lewis yng Nghas-gwent yn cau. Mae Howells wedi bod ar stryd fawr Caerdydd ers 1879 ac yn fuan bydd yn mynd yr un ffordd â David Morgan, a...
Caroline Jones: Ie, ond mae'n rhaid i ni unioni'r fantol ac ystyried y cydbwysedd a chael sefyllfa o chwarae teg. Yn anffodus, yn ôl ysgol fusnes Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae'n rhy hwyr i achub ein manwerthwyr traddodiadol. Yn ôl Chris Parry, sy'n uwch ddarlithydd cyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, 2008 oedd yr adeg i ostwng ardrethi a rhenti, nid 2018. Dywedodd mai'r her i ni...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf i, fel pob un ohonom ni yn y Siambr hon, wedi fy siomi'n fawr iawn, iawn gan gyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe. Unwaith eto, mae Llywodraeth y DU yn dangos dirmyg llwyr tuag at fy rhanbarth i gan fynd yn ôl hefyd ar yr addewid i ddarparu trydaneiddio i Abertawe a bellach rydym wedi difetha cyfle Abertawe i arwain y byd ym maes ynni...
Caroline Jones: Fel y mwyafrif o bleidleiswyr y DU, pleidleisiais i adael yr UE, ac nid yw fy marn wedi newid. Cafodd ein GIG ei greu ymhell cyn yr UE a bydd yma ymhell ar ôl inni adael. A oes unrhyw risgiau? Oes, ond nid oes unrhyw un mewn gwirionedd yn disgwyl na fydd y risgiau hyn yn cael sylw mewn bargen yn y dyfodol. Rydym yn gadael yr UE, nid Ewrop. Bydd ein cydweithrediad parhaus â gwledydd Ewrop yn...
Caroline Jones: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lefelau cyrhaeddiad ymysg disgyblion mwyaf difreintiedig Gorllewin De Cymru? OAQ52407
Caroline Jones: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lleihau'r diffygion yng nghyllideb byrddau iechyd lleol? OAQ52409
Caroline Jones: Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, yng Nghastell-nedd Port Talbot y llynedd, disgynnodd canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n cyrraedd lefel 2 neu uwch yn eithaf sylweddol. Mae'r nifer ar ei isaf ers 2011. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried hyn, ac o gofio sylwadau diweddar ynghylch effeithiolrwydd y grant amddifadedd disgyblion, a ydych o'r farn...