Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r broses o recriwtio meddygon i'r GIG yng Nghymru?
Mark Isherwood: Byddwch yn cofio, yn y Cynulliad diwethaf, fod y tair gwrthblaid wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau consesiynau gan y Llywodraeth. Rhoesom gryn bwysau arnynt mewn perthynas â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac roedd hynny'n cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â chefnogaeth wedyn gan Peter Black o'ch plaid chi, gan Jocelyn...
Mark Isherwood: Fe fyddwch yn gwybod, fel Gweinidog y Llywodraeth, fod yn rhaid i chi gael rhyddid i ofyn i'ch swyddogion wneud gwaith cynllunio heb orwelion, gan gynnwys yr holl opsiynau, ynghyd â rhai a fydd yn eich brawychu efallai, fel y gall y Llywodraeth benderfynu yn breifat beth i'w flaenoriaethu, ei gyflwyno, ei gynnig a'i wneud yn gyhoeddus. Edrychodd drafft cynnar o ddadansoddiad parhaus i...
Mark Isherwood: Mae'r ddeiseb a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Deisebau gan Whizz-Kidz yn galw'n briodol am i bobl anabl gael yr hawl i fynediad llawn at drafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo'i hangen—galwad a glywais yn gyntaf oddeutu 15 mlynedd yn ôl ar y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, rhywbeth y mae pawb ohonom yn ein tro wedi ei gefnogi, ac eto, dyma ni. Yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Deisebau,...
Mark Isherwood: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu ar gyfer teuluoedd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol?
Mark Isherwood: Chwe blynedd yn ôl, ym mis Chwefror 2012, adroddwyd y bu'n rhaid i glaf aros mewn ambiwlans am fwy na saith awr y tu allan i Ysbyty Gwynedd oherwydd prinder gwelyau ysbyty. Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ffigurau yn dangos bod 1,010 o gleifion wedi wynebu amseroedd trosglwyddo o fwy nag awr y tu allan i'w hysbytai ym mis Hydref. Y mis diwethaf,...
Mark Isherwood: Dim ond un eitem yr wyf eisiau ei chodi, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gael dadl y Llywodraeth ar wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, y mae ei datganiadau a'i deddfwriaeth yn eu cefnogi yn barhaus ac yn briodol, ond yn ymarferol mae ei gweithredoedd yn lleihau'r gwasanaethau hyn ar gost ychwanegol enfawr i'n gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol, sydd ar lefel argyfwng....
Mark Isherwood: Ddoe, dywedodd negodwr yr EU, Michel Barnier ei fod yn parchu penderfyniad y DU i ddiystyru unrhyw fath o undeb tollau tymor hir, ond fe ychwanegodd—ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cyfeirio at hyn—heb undeb tollau a'r tu allan i'r farchnad sengl, 'mae rhwystrau i fasnachu nwyddau a gwasanaethau yn anochel', sydd, wrth gwrs, yr union sefyllfa y byddem yn ei disgwyl ar ddechrau...
Mark Isherwood: Fe wnaethoch chi gyfeirio at y terfyn ar fenthyca. A fyddech chi'n cytuno pan gyflwynwyd y terfynau benthyca yn gyntaf, ar ôl ymadael â'r cyfrif refeniw tai drwy gytundeb ag awdurdodau lleol, yr oedd disgwyl y byddai'r terfynau yn cael eu neilltuo'n bennaf i helpu'r trosglwyddiadau stoc nad oeddent wedi cyflawni safon ansawdd tai Cymru i gyflawni'r safon honno? Sut, felly, ydych chi'n...
Mark Isherwood: Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi casglu tystiolaeth gan bobl fel conswl Canada ym Mrwsel, Llywodraeth Iwerddon ac eraill, gan roi enghreifftiau i ni o sut mae masnachu ffrithiant isel yn digwydd ar draws ffiniau a thrwy borthladdoedd. Gwyddom fod Irish Ferries wedi cadarnhau fis diwethaf eu harcheb ar gyfer yr hyn fydd y...
Mark Isherwood: A gaf i alw am un datganiad, os gwelwch yn dda, ar wasanaethau i bobl yng Nghymru sydd â dystonia, cyflwr niwrolegol a all effeithio ar unrhyw ran o'r corff? Wrth ymateb i ddatganiad yr Ysgrifennydd dros iechyd yn y fan yma fis Medi diwethaf ar gynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflyrau niwrolegol, nodais fod nifer y bobl sy'n byw â'r cyflwr wedi dyblu yng Nghymru i 5,000 ers i'r...
Mark Isherwood: Wel, gyda chyllidebau heddluoedd Cymru yn cael eu hariannu, fel y clywsom, gan y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor, byddwn yn cefnogi'r cynnig. Etifeddodd Llywodraeth y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr a etholwyd yn 2010 werth £545 miliwn o doriadau i'r heddlu yn sgil cyllideb derfynol y Blaid Lafur, i'w gwneud erbyn 2014. Byddai cynlluniau Llafur i leihau'r diffyg ariannol a...
Mark Isherwood: A wnewch chi gydnabod y ffaith fod y gyllideb Lafur ddiwethaf wedi torri £548 miliwn oddi ar gyllid yr heddlu hyd at 2014 ac y byddai toriadau pellach wedi dilyn yn sgil y cyhoeddiadau economaidd dilynol a wnaed gan Weinidogion y gwrthbleidiau bryd hynny yn Llywodraeth y DU?
Mark Isherwood: Diolch. Yn fy 12 mlynedd fel aelod gwirfoddol, di-dâl o fwrdd cymdeithas tai rwyf wedi dysgu y gall cymdeithas sy'n cael ei rhedeg yn dda, cymdeithas ddi-elw, fod y cyfrwng mwyaf effeithiol ar gyfer darparu cymdeithasol tai a grymuso tenantiaid. A ydych chi'n cydnabod yr hyn a ddysgwyd gennym—bod ymgysylltu â thenantiaid o'r top i lawr, ymgynghori o'r top i lawr, yn aneffeithiol, ac mai...
Mark Isherwood: 8. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael i ymchwilio i welyau môr oddi ar arfordir Cymru? OAQ51737
Mark Isherwood: Mae cyfleoedd sylweddol ar gael i'r sector bwyd-amaeth yng ngogledd Cymru, gan gynnwys gwell cydweithio o ran y gadwyn gyflenwi a gwelliannau effeithlonrwydd cysylltiedig. Yn wir, mae brand Cymru yn cynrychioli cynnyrch ffres o’r safon uchaf ag iddo flas gwych, ansawdd glaswelltir Cymru, traddodiad y fferm deuluol, ymrwymiad pawb yn y gadwyn gyflenwi a lleoliad y lladd-dai a...
Mark Isherwood: Mae arolygu a mapio gwely'r môr yn hanfodol bwysig i'n heconomi. Mae Iwerddon eisoes wedi rhoi camau ar waith ar hyn. Mae'r UE yn dechrau gwneud hynny bellach hefyd. Mae perygl y bydd Cymru a'r DU ar ei hôl hi yn hyn o beth. Llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, yw'r llong ymchwil gwely'r môr fwyaf yn y DU sy'n eiddo i brifysgol, ac mae'n allweddol i'n heconomi ac i'r...
Mark Isherwood: Ddydd Iau diwethaf, ymwelodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau â bwrdd ardal fenter Ynys Môn a chyfarfuom â chynrychiolwyr y bwrdd—cyngor Ynys Môn, Menter Môn, y trydydd sector, busnesau ac addysg—a dywedasant wrthym pa mor bwysig yw'r seilwaith trosglwyddo trydan sylweddol, nid yn unig i ddatblygu'r Wylfa Newydd, yr orsaf bŵer niwclear newydd, ond i ehangu porthladd...
Mark Isherwood: Diolch. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod wedi rhoi munud i David Melding, a fydd yn siarad ar ôl i mi orffen, gyda'ch caniatâd? Mae aelwyd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd os yw'n gwario 10 y cant neu fwy o'i hincwm ar gostau ynni. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yn awr, rwyf hefyd yn cofio gwaith caled y grŵp trawsbleidiol ar dlodi...
Mark Isherwood: Mae'r gost i GIG Cymru o drin pobl sy'n cael eu gwneud yn sâl am eu bod yn byw mewn cartref oer a llaith oddeutu £67 miliwn bob blwyddyn. Dengys tystiolaeth gan National Energy Action y gall cartref oer waethygu anhwylderau arthritig a chyflyrau gwynegol, a gwneud pobl yn fwy tueddol o gwympo. Gall apwyntiadau meddygon teulu o ganlyniad i heintiau'r llwybr anadlol gynyddu hyd at 19 y...