Jeremy Miles: Ydy. Efallai na allaf ei gyfleu'n uchel iawn heddiw, ond—. [Chwerthin.]
Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ein safbwynt fel Llywodraeth—
Jeremy Miles: Nodir ein safbwynt fel Llywodraeth yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Nodir y math o gytundeb yr hoffem ei weld ar gyfer perthynas ôl-Brexit yn y ddogfen honno. Os nad yw'r math hwnnw o gytundeb yn bosibl, ac na ellir cytuno arno, yna—
Jeremy Miles: Os yw'r math hwnnw o gytundeb ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod refferendwm arall yn fodd o dorri'r anghytundeb hwnnw.
Jeremy Miles: Wel, disgrifiodd y llythyr gan arweinydd yr wrthblaid y math o gytundeb y byddai'r Blaid Lafur yn San Steffan yn barod i'w gefnogi. Ac rydym yn argymell bod y Prif Weinidog yn ymgysylltu'n llawn ag arweinydd yr wrthblaid i weld a all trafodaethau yn y Senedd arwain at gytundeb o'r fath. Mae hi wedi methu gwneud hynny hyd yma.
Jeremy Miles: Er fy mod yn eiddigeddus o allu'r Aelod i gael ei glywed ar draws y Siambr, nid wyf am gymryd unrhyw wersi oddi wrtho am chwarae gwleidyddiaeth ar y mater hwn. Mae ein safbwynt yn hollol glir, a'r ffordd orau o ddatrys hyn ac osgoi sefyllfa 'dim bargen' yw i'r Prif Weinidog gael gwared ar ei llinellau coch a cheisio sicrhau consensws ar draws y Senedd ar y mathau o egwyddorion y gellid cael...
Jeremy Miles: Dyw'r gwaith hynny ddim wedi ei gwblhau. Mae'r gwaith yn digwydd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig, yn cynnwys y Llywodraeth yn San Steffan. Mae'r gwaith yn mynd ar ei hyd ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n glir gyda phobl nad oes unrhyw ofyniad arnyn nhw i ymddwyn mewn ffordd wahanol ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim yn...
Jeremy Miles: Ydyn, mae'r cyrff hynny ynghlwm yn y gwaith hynny, drwy'r local resilience forums, ac mae'r pedwar heddlu ynghlwm yn y trafodaethau yna hefyd. Fel y bydd yr Aelod yn deall, mae trefniadau sy'n bodoli ar gyfer mutual assistance yn gyffredinol, ac mae'r holl bethau yma yn digwydd o fewn fframwaith civil contingencies, sydd wedi ei sefydlu ar gyfer pob mathau o sefyllfaoedd. Does gyda ni ddim...
Jeremy Miles: O ran y porthladdoedd rhydd, wrth gwrs, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, rydym ni eisiau bod mewn sefyllfa lle mae gyda ni berthynas agos â'r farchnad sengl, a bod o fewn undeb tollau. Ac mae'n anodd gweld sut y gallai porthladdoedd rhydd, parthau rhydd, fodoli o fewn y fframwaith hwnnw. Felly, mae sialens strategol gyda ni yn y cyd-destun hwnnw. O ran y sgyrsiau rhwng y Llywodraeth a'r...
Jeremy Miles: Ie, gwelais innau hynny hefyd. Ein safbwynt ni, fel Llywodraeth, yw y dylai'r Prif Weinidog wneud cais am estyniad i erthygl 50 ar y pwynt hwn. Po ddiweddaraf y gadewir hynny, y mwyaf peryglus fydd hi a'r mwyaf o heriau a allai fod i sicrhau hynny. Mae'n ymddangos i ni fod bron unrhyw senario o hyn ymlaen yn galw am ymestyn erthygl 50—ymestyn y dyddiad ymadael. Hyd yn oed pe bai cytundeb yn...
Jeremy Miles: Nid wyf yn siŵr mai fy lle i yw dyfalu ynglŷn â thrafodaethau posibl o fewn Llywodraeth y DU rhwng negodwyr a'r Prif Weinidog. Y cyfan a ddywedaf yw ein bod wedi bod yn glir iawn ynghylch y math o gytundeb y credwn y dylid ei roi gerbron Tŷ'r Cyffredin, a chredaf y dylai'r Prif Weinidog weithredu'r holl gamau y gall er mwyn gwireddu hynny.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n sicr yn ymwybodol o'r cyfyngiadau o fod yn yr UE heb lais, ond hoffwn ddweud bod y cytundeb y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyflwyno i Dŷ'r Cyffredin yn brin iawn o'r math o gytundeb y mae Llywodraeth Lafur Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, wedi'i ddisgrifio fel y math o berthynas ar ôl Brexit a ddylai fod gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw, er enghraifft, yn cynnwys undeb tollau...
Jeremy Miles: Credaf hefyd fod ceisio ail-drafod y cytundeb gyda'r UE ar sail llinellau coch presennol y Prif Weinidog yn strategaeth optimistaidd tu hwnt ar ei rhan. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod yr UE wedi dweud pe bai'n symud oddi wrth y llinellau coch, fod yna ddewisiadau eraill ar y bwrdd, ac unwaith eto, buaswn yn annog y Prif Weinidog i fynd ar drywydd y rheini.
Jeremy Miles: Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y sector modurol yng Nghymru ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiystyru canlyniad 'dim bargen' gan ddarparu cyngor ar gamau lliniaru. Rydym hefyd mewn cysylltiad agos iawn â Fforwm Modurol Cymru a chyrff sector ar draws y DU ar Brexit.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr. Credaf ei fod yn mynd i wraidd yr her sy'n ein hwynebu o ran y math o gytundeb a'r math o negodiadau y mae Prif Weinidog y DU wedi bod yn mynd ar eu trywydd, ac yn y Senedd. Mae'n methu'n gyfan gwbl ag ystyried y math o risgiau i'n heconomi a amlinellwyd gan yr Aelod yn ei gwestiwn. Fel Llywodraeth, rydym wedi cymryd camau i gefnogi'r...
Jeremy Miles: Cytunaf â disgrifiad yr Aelod o'r bygythiad. Gwn fod hon yn flaenoriaeth allweddol i Ysgrifennydd yr economi a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mae'r buddsoddiad a wnaed gan y Llywodraeth, er enghraifft, yn uwchsgilio'r gweithlu ymhellach yn rhai o'r cwmnïau hyn yn ddimensiwn sylweddol i ddenu busnesau i Gymru yn y sectorau hyn, a hefyd i alluogi'r cwmnïau hyn ymhellach i gystadlu o...
Jeremy Miles: Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol er mwyn sicrhau bod fy ngwaith ar bwyso am y Brexit lleiaf niweidiol yn economaidd yn cyd-fynd yn agos â'i gwaith ar ddatblygu ein hymgysylltiad rhyngwladol er mwyn cefnogi ffyniant Cymru yn y dyfodol.
Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn cyfeirio at y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sy'n fforwm cwbl hanfodol yn hyn o beth, a mynychodd y Prif Weinidog blaenorol a minnau gyfarfod ohono ar Ynys Manaw y llynedd a gwelsom yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r fforwm, a gall barhau i fod felly wrth atgyfnerthu cysylltiadau ar draws y DU, ie, yng nghyd-destun Brexit, ond hefyd o ran cysylltiadau yn y dyfodol yn fwy...
Jeremy Miles: Mae'n ddrwg gennyf?
Jeremy Miles: Felly, gallai nodi'r rhain fel materion yr ydym yn eu hystyried fel materion blaenoriaethol a'r cysylltiadau rhyngom fod ar lefel is-wladwriaethol hefyd, yn hytrach nag ar lefel Llywodraethau a Llywodraethau gwladol yn unig, ar draws Ewrop a thu hwnt.