Jack Sargeant: 2. Sut mae'r Comisiwn yn sicrhau ei fod yn hawdd i staff gael gafael ar gynhyrchion misglwyf am ddim ar ystâd y Senedd? OQ58824
Jack Sargeant: Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar drigolion Cymru yn dilyn ymateb terfynol Llywodraeth y DU i'r Adolygiad Annibynnol o Gymorth Cyfreithiol Troseddol?
Jack Sargeant: Weinidog, fel peiriannydd hyfforddedig, rwyf bob amser yn awyddus i ddefnyddio data i ddatblygu dull o ymdrin â pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae treial incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru yn rhoi’r cyfle hwnnw inni brofi effeithiau incwm sylfaenol yn y Deyrnas Unedig. A gaf fi ofyn i chi sut y bydd y data hwnnw ar gael i bobl fel Jane Dodds a minnau, sy'n awyddus i hyrwyddo...
Jack Sargeant: Diolch i’r Gweinidog am ei hateb, ac am ymrwymiad parhaus y Cabinet, ac wrth gwrs, arweinyddiaeth y Prif Weinidog wrth gefnogi pobl sy’n gadael gofal yng Nghymru. Rwy’n arbennig o falch o’r uwchgynhadledd y sonioch chi amdani y penwythnos hwn, ond rwyf hefyd yn falch o Lywodraeth Lafur Cymru am ddarparu’r treial incwm sylfaenol arloesol, a’r rôl a chwaraeais wrth hybu'r polisi...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw a'i ymrwymiad i gyfraith Hillsborough, rhywbeth rwyf wedi tynnu sylw ato mewn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ynghyd â meysydd eraill o anghyfiawnder? Oherwydd mae'n llawer rhy anodd i bobl ddosbarth gweithiol yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru gael mynediad at gyfiawnder. Fe wnaeth glowyr Orgreave, gan gynnwys llawer o Gymru,...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am gytuno i grwpio'r cwestiynau. Gomisiynydd, diolch am eich ateb i Heledd Fychan. Y rheswm pam y cyflwynais y cwestiwn hwn oedd yn dilyn sgwrs a gefais gydag aelod o staff. Daethant ataf i ofyn a oedd gennyf ddarn £1 i'w ddefnyddio mewn peiriant gwerthu yn Nhŷ Hywel. Nid oedd un gennyf—ychydig iawn o bobl sydd ag un y dyddiau hyn. Esboniodd i mi pa mor...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon—
Jack Sargeant: —ar yr adroddiad, 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch Dŵr ac Atal Boddi'. Fe greodd Leeanne Bartley, sydd yma yn yr oriel heddiw gyda'i gŵr, David, y ddeiseb hon yn dilyn marwolaeth drasig ei mab. Dim ond 18 oed oedd Mark pan fu farw ym mis Mehefin 2018 ar ôl neidio i gronfa ddŵr rewllyd ar ddiwrnod poeth. Mae'r teulu'n credu y gallai fod wedi cael ei achub pe bai cortyn taflu ar gael ger y...
Jack Sargeant: Dim problem, Lywydd.
Jack Sargeant: A yw'n gweithio nawr?
Jack Sargeant: Lywydd, af yn ôl at argymhelliad 3—rwy'n credu mai dyna pryd y torrodd allan. Rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol i argymhelliad 3, i ddod â phartneriaid ynghyd, gan adeiladu ar y gwaith da sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Mae’n rhaid ymwreiddio rhaglen addysg a diogelwch dŵr yn ein system addysg, gyda chynllun gweithredu clir ar gyfer ei chyflwyno...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, yn enwedig Vikki Howells, a soniodd am effaith ddinistriol colli ei disgybl, Daniel, a’r effaith ddinistriol a gafodd hynny ar y gymuned a’r gymuned ehangach? Os caf gyffwrdd â sylwadau Huw Irranca-Davies a Sam Rowlands, fel y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud, byddaf innau hefyd yn awyddus i...
Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i Joel James am gyflwyno'r cwestiwn hwn, ac am ei gwestiwn atodol pwysig? Fel y mae Joel wedi dweud, rydym ni i gyd yn falch, onid ydym ni, o'n tîm cenedlaethol, y dynion a'r menywod, ac mae'r chwe blynedd diwethaf o gefnogi Cymru yn sicr wedi bod y gorau yn fy oes i, ac rwy'n siŵr bod hynny yr un fath i lawer o bobl eraill yma, er efallai fod fy oes i ychydig yn fyrrach nag...
Jack Sargeant: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Jack Sargeant: Diolch, Janet. Dim ond cyfeirio'n ôl at eich datganiad am arian trethdalwyr, tybed a ydych chi'n cytuno â mi fod y sgandal cyfarpar diogelu personol yn San Steffan, lle roedden nhw'n gwastraffu arian trethdalwyr a'i roi i'w cyfeillion yn Nhŷ'r Arglwyddi, ydych chi'n cytuno â mi bod hynny'n warth gwirioneddol, ac y gellid bod wedi gwario hwnnw'n well yn y DU ac yng Nghymru?
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n falch iawn i gael y cyfle i ddod â'r ddadl bwysig yma i'r Senedd heddiw.
Jack Sargeant: Lywydd, wrth agor y ddadl heddiw, cytunais i roi munud o fy amser yn nadl olaf y Senedd y tymor hwn i Rhun ap Iorwerth. Lywydd, cyflwynais y ddadl hon, o dan y teitl 'Gwasanaeth Bancio yn Gymraeg', yn dilyn mater a gafodd ei ddwyn i fy sylw gan etholwr i mi yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Roeddent wedi penderfynu cofrestru cyfrif banc ar-lein ar gyfer eu plentyn newydd-anedig. Penderfynasant...
Jack Sargeant: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch a yw gosod mesuryddion rhagdalu gan gyflenwyr ynni yn cyfrannu at dlodi yng Nghymru?
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am gyflwyno datganiad heddiw, a hefyd am ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn ystod cyfnod y Nadolig, gan roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am ei chyfarfodydd â chyflenwyr ynni. Mae tlodi yn mynd â'r holl sylw ym mywydau pobl. Mae'n achosi straen, mae'n achosi afiechyd, ac mae'n gadael creithiau sy'n para am oes. A bod yn hollol onest, Dirprwy...
Jack Sargeant: 5. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant yn cael eu haddysgu yn system addysg Cymru? OQ58905