Jeremy Miles: Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â hynny. Fe ysgrifennaf at yr Aelod, os caf, mewn perthynas â hynny.FootnoteLink
Jeremy Miles: Rydym yn croesawu'r dystiolaeth a ddarparwyd hyd yma, sy'n tynnu sylw at y risgiau i economi Cymru o unrhyw wrthdaro mwy mewn masnach gyda'r UE. Darparodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, dystiolaeth ysgrifenedig ym mis Hydref 2018, ac fe wnawn asesiad llawnach pan fydd yr ymchwiliad yn cyflwyno ei adroddiad.
Jeremy Miles: Mae cwestiwn yr Aelod yn mynd i wraidd y modd y mae'r setliad datganoli a'r model cadw pwerau yn rhyngweithio â'i gilydd. Yn amlwg, cedwir cysylltiadau rhyngwladol yn ôl, ond er mwyn cyflawni rhai o'r ymrwymiadau a wnaed yn y trafodaethau a'r cytundebau hynny, bydd hynny weithiau yn croestorri â chymwyseddau datganoledig mewn ystod eang o feysydd posibl. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn...
Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn iawn i'w ddisgrifio yn y ffordd honno. Mae hyn yn ymwneud â mwy na rhannu gwybodaeth ac ati. Yr hyn rydym ei eisiau yw corff sy'n ei gwneud hi'n bosibl ystyried y materion hyn yn llawn a'r dimensiynau penodol sy'n berthnasol yng Nghymru i gael eu cynnwys yn rhan lawn o'r gyfres honno o drafodaethau. Mae'r mathau o faterion a nododd yn ei gwestiynau yn mynd at wraidd y mathau o...
Jeremy Miles: Soniais am effeithiau posibl oedi i symud nwyddau mewn trafodaethau gyda Gweinidogion y DU. Mae hwn yn amlwg yn faes pwysig ac mae trafodaethau yn ei gylch yn digwydd yn fewnol hefyd a chyda rhanddeiliaid yma yng Nghymru.
Jeremy Miles: Yn amlwg, fel y mae wedi'i ddynodi yn ei gwestiwn, er bod ein prif ffocws ar borthladdoedd yma yng Nghymru, bydd bwyd a meddyginiaethau a deunyddiau a nwyddau eraill sy'n dod i Gymru—wyddoch chi, mae'r porthladd hwnnw, o bosibl, hyd yn oed yn bwysicach o ran maint y traffig a faint o nwyddau sy'n dod drwyddo. Yn sicr, yn enwedig mewn senario 'dim bargen', bydd tarfu difrifol yn Dover ac ar...
Jeremy Miles: Nid wyf wedi cael y sgyrsiau hynny fy hun, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn ysgrifennu at yr Aelod gyda gwybodaeth ddilynol mewn perthynas â'r cwestiwn hwnnw'n benodol.FootnoteLink
Jeremy Miles: Rwyf wedi cyfleu barn Llywodraeth Cymru yn glir i Lywodraeth y DU, a gwneuthum hynny'n fwyaf diweddar yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau'r UE yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU geisio estyniad i erthygl 50 ar unwaith er mwyn rhoi diwedd ar y bygythiad y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb ymhen saith wythnos.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Cyfeiriais at adroddiad gan yr Institute for Government ychydig wythnosau'n ôl sy'n disgrifio'r her o weithredu'r Bil sydd gerbron Tŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd os na wneir cais i ymestyn proses erthygl 50. Beth bynnag yw eich barn ar Brexit, mae'r heriau ymarferol sy'n deillio o wneud hynny yn gwbl glir, ac rwy'n ailadrodd yr alwad y dylai'r Prif...
Jeremy Miles: Rwy'n petruso cyn dweud hyn, ond—[Torri ar draws.]
Jeremy Miles: Rwy'n petruso cyn dweud hyn: ni chlywais yr hyn a ofynnodd yr Aelod. Felly, a allwch chi ailadrodd y cwestiwn?
Jeremy Miles: Na, nid yw hynny'n wir. Ni allaf fod yn gliriach nag y bûm heddiw. Rydym wedi bod yn gwbl bendant ynghylch y math o berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd y mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai o fudd i Gymru ar ôl Brexit. Cefais wahoddiad gan Darren Millar i fabwysiadu'r safbwynt bod refferendwm yn well na hynny, ac rwy'n gobeithio fy mod yn glir bryd hynny. Pe gallai'r Senedd sicrhau...
Jeremy Miles: Mae’r cytundeb rhynglywodraethol wedi gwneud Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn fwy effeithiol o ran parchu datganoli. Yn bwysig, ni chafwyd hyd yma unrhyw reoliadau cymal 12 i gyfyngu ar gymhwysedd datganoledig. O ran cywiro deddfwriaeth, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithio o fewn ysbryd y cytundeb.
Jeremy Miles: Wel, pan gytunwyd ar y cytundeb yn y lle cyntaf, roedd llawer o feirniadaeth yn y Siambr hon fod y Llywodraeth wedi cytuno, mewn egwyddor, i sicrhau'r math yma o gytundeb. Ond mae'r cytundeb wedi llwyddo. Dwi ddim yn amau am eiliad fod enghreifftiau wedi bod lle byddwn i wedi mo'yn mwy o gydweithrediad. Mae hynny, yn amlwg, yn wir. Mae hynny wedi gwella dros y cyfnod diweddaraf, ond roedd...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r Bil hwn, sy'n garreg filltir bwysig arall ar daith datganoli. Mae Llywodraeth Cymru'n gefnogol iawn i dri phrif nod y Bil, fel rŷn ni'n eu gweld nhw. Yn gyntaf, rhoi enw i'n Senedd sy'n adlewyrchi ei statws fel deddfwrfa, yn ail, rhoi cyfle i bobl ifanc bleidleisio, ac yn drydydd, rhoi mwy o eglurder i ymgeiswyr posib ynghylch a oes modd iddyn nhw...
Jeremy Miles: Rydym yn credu ei bod yn bwysig fod perthynas ariannu ac atebolrwydd y Cynulliad gyda'r Comisiwn Etholiadol yn cael ei osod ar sail ffurfiol, ac rydym yn barod i weithio gyda'r Llywydd, y Comisiwn Etholiadol a'r Trysorlys yng ngoleuni gwaith craffu Cyfnod 1, i archwilio a allem fynd â hyn gam ymhellach nag y mae'r Bil yn darparu ar ei gyfer ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu yn rheolaidd â Swyddfa'r Arglwydd Brif Ustus i'w hysbysu am faterion polisi a deddfwriaeth sy'n effeithio ar y farnwriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw gynigion sy'n effeithio ar weinyddiaeth y llysoedd, y gyfraith droseddol, neu weithrediad y system farnwrol.
Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn nodi cwestiwn difrifol iawn ac mae'n her sy'n codi drwy fod â phwerau deddfu sylfaenol ond heb awdurdodaeth ar wahân a heb system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru. Mae'r Llywodraeth wedi cytuno ar brotocol gyda Swyddfa'r Arglwydd Brif Ustus, sy'n ymwneud â rhoi hysbysiad cynnar o gynnwys deddfwriaeth a'r dyddiad disgwyliedig i honno ddod i rym, ac effeithiau hynny ar y...
Jeremy Miles: Mae Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn ymrwymo llywodraethau'r dyfodol i gadw hygyrchedd y gyfraith dan adolygiad a chymryd camau i'w gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Bwriadwn ddatblygu codau cydgyfnerthedig o gyfraith Cymru yn ogystal â gwella'r dull o gyhoeddi deddfwriaeth.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n gobeithio y gallaf ddibynnu ar ei chefnogaeth i bob cam o Fil Deddfwriaeth (Cymru) wrth iddo fynd drwy'r Cynulliad, oherwydd ei fwriad yn rhannol yw mynd i'r afael â'r math o faterion—y materion pwysig—y mae hi wedi tynnu sylw atyn nhw yn ei chwestiwn atodol. Mae ein setliad datganoli yn un cymhleth. Mae ganddo effaith...