David Melding: Yn ffurfiol.
David Melding: Rwy'n cynnig.
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig felly. Gwelliannau i egluro bod y pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil hwn er mwyn gwneud gwelliannau canlyniadol yn unig yw gwelliannau 14, 15, 16 a 17, yn grŵp 5. Mae gwelliant 18 yn welliant pellach i sicrhau y bydd y pwerau gwneud rheoliadau yn dod i ben pan fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cadarnhau bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi'u...
David Melding: Yn olaf a gaf i ddweud, fel yr wyf wedi ei ddweud, rwyf wedi dilyn y model Deddf diddymu'r hawl i brynu? Nid wyf yn meddwl ei bod yn gwneud unrhyw synnwyr i gael pwerau sydd yn mynd y tu hwnt i bwrpas gwirioneddol y Ddeddf. Fe ddaw adeg yn anochel pan gyrhaeddir y pwynt hwnnw, a gwyddom fod yr hyn sydd wedi'i wneud eisoes wedi'i wneud. Felly, anogaf y caiff y gwelliannau eu cymeradwyo.
David Melding: Cynigiaf.
David Melding: Cynigiaf.
David Melding: Cynigiaf.
David Melding: Cynigiaf.
David Melding: Cynigiaf.
David Melding: Cynigiaf.
David Melding: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu ieithoedd modern tramor? OAQ52033
David Melding: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am raglen Sgrinio Coluddion Cymru? OAQ52035
David Melding: Diolch am eich ateb, ond fel y gwyddoch, mae dirywiad anhygoel wedi bod mewn addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru, fel yr amlygwyd gan y British Council. Yn anffodus, mae hynny hefyd yn wir mewn rhannau eraill o'r DU, ond yma yng Nghymru, rhwng 2002 a 2016, gostyngodd nifer y disgyblion sy'n astudio iaith dramor hyd at safon TGAU 48 y cant, gyda gostyngiad o 44 y cant ar lefel...
David Melding: Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, fod nifer y rhai cymwys sydd wedi manteisio ar y prawf sgrinio wedi gostwng o 54.4 y cant i 53.4 y cant, felly gostyngiad o 1 y cant. Gobeithio na fydd hyn yn datblygu i fod yn duedd. Hefyd, ar hyn o bryd, ni chynigir prawf sgrinio i unrhyw un dros 75 oed. Ac mae gennyf etholwr sydd wedi bod...
David Melding: Lywydd, hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 6.15 a Rheol Sefydlog 12.50. Does bosibl nad oes angen i gyhoeddiadau mawr gan Lywodraeth Cymru, megis adolygiad o bolisi cyhoeddus pwysig, gael eu gwneud ar lafar i'r Cynulliad. Mae hyn yn caniatáu craffu amserol, ac yn dilyn hynny, yn caniatáu i'r Cynulliad fonitro a gwerthuso perfformiad. Yn y Siambr ddoe, rhoddodd arweinydd y tŷ...
David Melding: Ar 1 Ebrill 1918, cymeradwyodd David Lloyd George gynlluniau i greu'r Awyrlu Brenhinol (RAF), y llu awyr cyntaf yn y byd i fod yn gwbl annibynnol ac ar wahân. Byddai'r RAF yn datblygu i fod yn llu awyr mwyaf pwerus y byd, gyda mwy na 290,000 o bersonél a 23,000 o awyrennau. Yna, ar adeg hollbwysig yn hanes y byd, amddiffynnodd yr RAF ein hynys yn erbyn ymosodiad y Natsïaid, yn yr hyn a...
David Melding: A gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am geisio amddiffyn breintiau'r Cynulliad hwn mor gadarn? Credaf ei bod yn enghraifft arall o'r Weithrediaeth yn mynd yn rhy bell. Dywedwyd wrthym ar ddechrau datganoli y byddem yn gwneud pethau'n wahanol. Byddem yn mabwysiadu'r pethau gorau yn nhraddodiad seneddol Prydain, ond byddem yn sicrhau ein bod yn agored a'n bod yn craffu, yn enwedig ar—yn eironig...
David Melding: Mae'n ddrwg gennyf lwytho molawd arall ar y Gweinidog, ond credaf fod ei berfformiad grymus drwy gydol y mater hwn—nid wyf bob amser wedi cytuno â'r hyn y mae wedi'i wneud, ond rwy'n credu ein bod bellach yn gweld ffrwyth cyfaddawd dychmygus iawn a fydd yn parchu canlyniadau'r refferendwm ac yn cryfhau'r cyfansoddiad Prydeinig. Lywydd, lluniwyd datganoli ar sail aelodaeth o'r UE. Mae'n...
David Melding: Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn pwysig iawn; diolchaf i Mike am ei godi. Mae pedwar deg pump y cant o ddamweiniau yn digwydd yn y cartref, ac mae damweiniau ymhlith y 10 uchaf o achosion marwolaeth i bobl o bob oed, ac mae'n arbennig o uchel ymhlith plant—yr uchaf ar ôl canser, rwy'n credu—a phobl hŷn. Nawr, yn yr ymyraethau niferus yr ydym ni'n eu gwneud, er enghraifft, inswleiddio...
David Melding: A gaf i groesawu'r cyhoeddiad heddiw? Un o anfanteision—a, Dirprwy Lywydd, byddwch chi'n rhannu hyn—cael eich ethol gyntaf ym 1999 yw ein bod yn cofio mynd ar ôl yr ysgyfarnog hwn am y tro cyntaf. Roedd y cynllun gofodol yn cael ei ystyried yn arloesol iawn, yn wir yn torri tir newydd. Roedd yn weledigaeth 20 mlynedd, yn integreiddio'r prif feysydd polisi cyhoeddus fel nad ydynt yn cael...